Herio penderfyniad PIP – apelio yn erbyn y penderfyniad
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Cyn i chi allu apelio i dribiwnlys, bydd angen i chi ofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau ailedrych ar y penderfyniad. Mae hyn yn cael ei alw’n ailystyriaeth orfodol.
Os na wnaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau newid ei phenderfyniad pan ofynnoch chi iddyn nhw ailedrych arno, gallwch apelio i banel annibynnol o’r enw tribiwnlys.
Mae’r tribiwnlys yn edrych ar y dystiolaeth gan y naill ochr a’r llall cyn gwneud penderfyniad terfynol. Mae’r tribiwnlys yn rhan o’r system llysoedd – nid yw’n rhan o’r Adran Gwaith a Phensiynau.
Pryd allwch chi apelio i dribiwnlys
Gallwch apelio unrhyw benderfyniad sy’n cael ei wneud ynglŷn â’ch hawliad PIP. Dyma rai o’r rhesymau mwyaf cyffredin:
wnaethoch chi ddim cael PIP
fe gawsoch chi lefel is o PIP nag yr oeddech chi’n ei ddisgwyl
rydych chi’n meddwl y dylai eich dyfarniad PIP bara am gyfnod hwy
Bydd yr apêl yn edrych ar a oedd y penderfyniad yn un cywir pan gafodd ei wneud – ni fydd yn ystyried a yw’ch cyflwr wedi gwaethygu ers hynny. Dylech gael cyngor gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol yng Nghymru a Lloegr neu yn yr Alban os yw hyn yn berthnasol i chi.
Er mwyn gallu apelio i dribiwnlys, byddwch angen:
eich llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau gyda’r geiriau ‘Hysbysiad Ailystyriaeth Orfodol’ ar y top – os ydych chi wedi colli’r llythyr, gofynnwch iddyn nhw am un newydd
anfon eich ffurflen apelio i’r tribiwnlys o fewn mis i’r dyddiad ar yr hysbysiad ailystyriaeth orfodol
Werth gwybod
Mae’n gallu cymryd amser hir i gael gwrandawiad tribiwnlys – bydd yr union amser yn amrywio yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw.
Mae’r broses yn gallu cael effaith fawr arnoch chi, ond mae’n werth cofio bod mwy na hanner y bobl sy’n apelio yn erbyn eu penderfyniad PIP yn ennill mewn tribiwnlys.
Os ydych chi’n teimlo bod y penderfyniad yn anghywir, gallwch chi apelio.
Cael help gyda’ch apêl
Gallwch gael help gyda’ch apêl gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol yng Nghymru a Lloegr neu yn yr Alban, neu gan asiantaeth cymorth anabledd leol. Mae manylion asiantaethau cymorth anabledd lleol ar gael ar wefan Scope os ydych chi yng Nghymru a Lloegr neu gan Disability Information Scotland.
Efallai y gallwch chi gael rhywun fel cynghorwr neu gyfreithiwr i’ch cynrychioli chi yn ystod yr apêl, ond dydyn nhw ddim ar gael bob amser. Efallai y gall eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol neu ganolfan gyfreithiol eich helpu chi i ddod o hyd i un ond, os oes costau, allwch chi ddim cael cymorth cyfreithiol i’w talu nhw os ydych chi’n byw yng Nghymru neu Loegr. Efallai y gallwch chi gael help gyda chostau yn yr Alban. Gall cynrychiolydd eich helpu chi gyda’r gwaith papur ac efallai y bydd yn gallu siarad ar eich rhan.
Peidiwch â phoeni os nad oes gennych chi gynrychiolydd – yr hyn mae gan fwrdd y tribiwnlys ddiddordeb ynddo yw sut mae eich cyflwr yn effeithio arnoch chi, a hynny yn eich geiriau eich hun. Mae cymorth gan ffrind neu aelod o’r teulu yn gallu helpu, ac mae modd i chi fynd ati heb weithiwr proffesiynol.
Llenwch y ffurflen apelio
Llenwch ffurflen apelio o’r enw SSCS1. Gallwch chi gael copi o SSCS1 a nodiadau cyfarwyddyd yn GOV.UK. Gofalwch eich bod chi’n llenwi’r ffurflen apelio i gyd, neu gall eich apêl gael ei gwrthod.
Esboniwch pam rydych chi’n apelio
Y rhan bwysicaf o’r ffurflen yw Adran 5: Y sail dros apelio. Yn y bocs hwn, mae angen i chi roi rhesymau penodol pam rydych chi’n anghytuno â’r penderfyniad.
Defnyddiwch eich llythyr penderfyniad, eich datganiad o resymau a’ch adroddiad asesiad meddygol i nodi pob un o’r datganiadau rydych chi’n anghytuno â nhw a pham. Rhowch ffeithiau, enghreifftiau a thystiolaeth feddygol (os oes gennych chi) i gefnogi’r hyn rydych chi’n ei ddweud.
Efallai eich bod chi wedi gwneud hyn yn barod ar gyfer eich llythyr ailystyriaeth orfodol – os felly, gallwch chi ddefnyddio’r un enghreifftiau a darnau o dystiolaeth eto.
Dylech edrych hefyd ar y system pwyntiau mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn ei defnyddio (disgrifyddion) i asesu hawliadau PIP i weld lle gallech chi gael mwy o bwyntiau. Mae’n bwysig defnyddio’r dystiolaeth iawn. Gallwch edrych ar ein canllaw ar sut mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn gwneud penderfyniad i’ch helpu chi.
Gallwch gynnwys yr holl wybodaeth hon ar ddalen ar wahân os oes well gennych chi; ysgrifennwch ‘Gweler y wybodaeth amgaeedig’ yn y bocs a glynwch unrhyw bapurau wrth y ffurflen yn ddiogel.
Gall tribiwnlysoedd ailedrych ar eich dyfarniad cyfan. Felly, dylech ystyried a yw’n werth i chi gymryd y risg a cholli’ch dyfarniad presennol – er enghraifft, os oes gennych chi dystiolaeth i gefnogi elfen bywyd beunyddiol ond y gallech chi golli’ch dyfarniad symudedd gan eich bod chi’n gallu symud yn well erbyn hyn. Os nad ydych chi’n siŵr, dylech chi gael cyngor gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf.
Enghraifft o iselder yn effeithio ar fwyta ac yfed
Dydw i ddim yn meddwl eich bod chi wedi ystyried effeithiau fy iselder difrifol ar baratoi bwyd a bwyta. Rwy’n ei chael hi’n anodd canolbwyntio, felly hyd yn oed os bydda i’n annog fy hun i gychwyn, fe fydda i’n ei chael hi’n anodd cwblhau pryd o fwyd. Rydw i ond yn bwyta prydau rwy’n gallu eu twymo yn y popty microdon. Ar yr adegau rydw i wedi rhoi cynnig ar goginio rhywbeth o’r cychwyn, rydw i wedi llosgi fy hun gan fy mod i’n colli ffocws ac yn anghofio bod gen i badell ar y pentan.
Enghraifft o herio penderfyniad symudedd
Dydw i ddim yn meddwl eich bod chi wedi deall fy mhroblemau symudedd. Rydych chi’n dweud fy mod i’n gallu cerdded 50 metr heb gymorth. Mewn gwirionedd, mae ceisio gwneud hyn yn achosi poen mawr i mi, sy’n golygu na alla i gerdded o gwbl am weddill y dydd. Rydw i wedi amgáu adroddiad gan fy therapydd galwedigaethol sy’n esbonio hyn yn fwy manwl.
Enghraifft o herio’r asesiad
Dydw i ddim yn credu bod yr holl ganfyddiadau o’m hasesiad meddygol yn gywir. Gofynnodd yr aseswr i mi a allen i godi cwpan. Fe wnes i fel y gofynnodd i mi, ond mi gefais i boenau mawr i fyny fy mraich a gymerodd sawl awr i wella, ac fe gefais drafferth i ddal unrhyw beth arall am weddill y dydd. Chefais i ddim cyfle i esbonio hyn yn yr asesiad.
Colli’r dyddiad terfyn ar gyfer apelio
Os ydych chi wedi colli’r dyddiad terfyn, gallwch chi anfon y ffurflen SSCS1 i mewn ond, yn Adran 5, bydd angen i chi esbonio pam ei bod yn hwyr (er enghraifft, os oeddech chi yn yr ysbyty). Bydd bwrdd y tribiwnlys yn edrych ar pam roedd eich ffurflen yn hwyr ac yn penderfynu a fyddan nhw’n gadael i chi apelio.
Gofynnwch am wrandawiad personol
Mae hi bob amser yn well i ofyn am wrandawiad personol (neu wrandawiad llafar). Efallai y bydd hyn yn codi ofn arnoch chi, ond yr hyn ydyw yw cyfarfod anffurfiol a gallwch chi gael rhywun i fynd gyda chi i roi cymorth moesegol. Mae gwrandawiad llafar yn rhoi mwy o gyfle i chi gyflwyno’ch achos, ac mae’n fwy tebygol y byddwch chi’n ennill.
Yn Adran 6, ticiwch y bocs sy’n dweud ‘Rydw i eisiau bod yn bresennol yn fy ngwrandawiad apêl’.
Gofynnwch am yr hyn rydych chi ei angen
Yn Adran 7 o’r ffurflen, gallwch chi ychwanegu’r dyddiadau dydych chi ddim ar gael a gwybodaeth am unrhyw beth rydych chi ei angen yn y gwrandawiad. Mae’n bwysig iawn meddwl am unrhyw beth a all eich atal chi rhag mynd i’r gwrandawiad a’i ysgrifennu i lawr. Er enghraifft:
rydych chi ond yn gallu mynd i wrandawiad yn ystod oriau ysgol neu yn ystod y tymor oherwydd cyfrifoldebau gofal plant
gwyliau rydych chi wedi’u trefnu
unrhyw ddyddiadau mae gennych chi apwyntiadau meddygol pwysig
Os na fyddwch chi’n sôn am y rhain a bod y gwrandawiad yn cael ei drefnu ar gyfer dyddiad pan nad ydych chi ar gael, efallai na fyddwch chi’n gallu ei newid.
Dylai’r ganolfan dribiwnlys fod yn hygyrch, ond ysgrifennwch fanylion unrhyw gymhorthion neu help y byddwch chi eu hangen, fel dehonglydd iaith arwyddion.
Anfonwch y ffurflen
Anfonwch eich dogfennau i Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi, nid i’r Adran Gwaith a Phensiynau. Mae’r cyfeiriad ar y ffurflen. Dylech chi gynnwys y canlynol:
y ffurflen SSCS1 wedi’i llenwi
copi o’r Hysbysiad Ailystyriaeth Gorfodol
unrhyw dystiolaeth bellach sydd gennych chi, er y gallwch chi anfon hon yn ddiweddarach
Postiwch eich dogfennau apelio trwy ddosbarthiad cofnodedig os oes modd. Fel arall, ewch i Swyddfa’r Post i’w bostio a gofynnwch am brawf postio. Gall hyn eich helpu chi yn ddiweddarach os bydd y gwasanaeth tribiwnlys yn dweud na wnaethoch chi anfon y dogfennau erbyn y dyddiad terfyn neu os bydd y llythyr yn mynd ar goll yn y post.
Bydd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi yn gwirio’r ffurflen ac yn gofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau am eu hymateb o fewn 28 diwrnod arall.
Bydd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi yn anfon y canlynol atoch chi:
copi o ymateb yr Adran Gwaith a Phensiynau
gwybodaeth am beth sy’n digwydd nesaf
manylion pryd a ble y bydd y gwrandawiad yn cael ei gynnal (os ydych chi wedi gofyn am wrandawiad llafar, yn hytrach nag un papur)
Cael y newyddion diweddaraf am eich apêl
Ar ôl i chi ofyn am wrandawiad llafar, gallwch chi gofrestru i gael negeseuon testun neu e-bost gyda’r newyddion diweddaraf am eich apêl.
Bydd y negeseuon hyn:
yn eich atgoffa chi i anfon eich tystiolaeth
yn cadarnhau bod eich tystiolaeth wedi cyrraedd
yn eich atgoffa chi am ddyddiad eich gwrandawiad
Os byddwch chi’n dewis cael diweddariadau mewn e-bost, byddwch chi’n cael negeseuon am y canlynol hefyd:
ymateb yr Adran Gwaith a Phensiynau i’ch apêl
unrhyw newidiadau i ddyddiad eich gwrandawiad
I gofrestru i gael diweddariadau, cysylltwch â’r gwasanaeth Track Your Appeal.
Track Your Appeal
Ffôn: 0300 123 1142, dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am tan 5pm
Fel arfer, mae galwadau’n costio hyd at 40c y funud o ffonau symudol a hyd at 10c y funud o linellau tir. Dylen nhw fod am ddim os oes gennych chi gontract sy’n cynnwys galwadau i linellau tir – gofynnwch i’ch cyflenwr os nad ydych chi’n siŵr.
Camau nesaf
Herio penderfyniad PIP – y gwrandawiad tribiwnlys
Mae’n syniad da gwneud yn siŵr eich bod chi’n cael yr holl fudd-daliadau eraill y mae gennych chi hawl i’w cael. Os ydych chi dros 18 oed, gallwch ddefnyddio cyfrifydd budd-daliadau Turn2us i weld faint allwch chi ei gael. Gallwch chi gael help gyda chyllidebu hefyd.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.