Newidiadau sy’n effeithio ar eich PIP
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae angen i chi roi gwybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau cyn gynted â phosibl os bydd eich cyflwr yn newid gan y gall hyn effeithio ar eich Taliad Annibyniaeth Personol (PIP).
Mae enghreifftiau o bethau a all newid sut mae’ch cyflwr yn effeithio arnoch chi yn cynnwys y canlynol:
os bydd eich cyflwr yn gwella neu’n gwaethygu
os bydd lefel yr help rydych chi ei angen yn newid
os byddwch chi’n mynd i’r ysbyty neu gartref gofal am fwy na 28 diwrnod (os ydych chi’n iau nag 18 oed ar y diwrnod rydych chi’n mynd i’r ysbyty, ni fydd eich PIP yn cael ei effeithio)
Mae enghreifftiau o amgylchiadau yn newid y mae’n rhaid i chi eu hadrodd yn cynnwys y canlynol:
os byddwch chi’n mynd dramor am fwy nag 13 wythnos
os byddwch chi’n newid eich enw, eich cyfeiriad neu fanylion eich cyfrif banc ar gyfer derbyn taliadau
os byddwch chi’n mynd i’r carchar neu’r ddalfa, neu’n gadael y llefydd hynny
Mae llawer o newidiadau sy’n gallu effeithio ar eich PIP, ac enghreifftiau yn unig yw’r rhain.
Os nad ydych chi’n siŵr ydy newid yn effeithio ar eich PIP, y peth gorau i’w wneud yw dweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau beth bynnag. Gallai peidio â dweud wrthyn nhw olygu y byddwch chi’n colli allan ar arian ychwanegol neu’n derbyn arian y bydd rhaid i chi ei ad-dalu.
Efallai y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau eisiau ailedrych ar eich hawliad PIP. Cyn i chi ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau, dylech gysylltu â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf i gael help i gael yr holl fudd-daliadau y mae gennych chi hawl i’w cael.
Newidiadau does dim rhaid i chi eu hadrodd
Does dim rhaid i chi adrodd y newidiadau canlynol gan nad ydyn nhw’n effeithio ar a allwch chi gael PIP neu faint rydych chi’n ei gael:
bod mewn gwaith, dychwelyd i’r gwaith neu adael gwaith
newidiadau yn eich enillion neu incwm arall
os bydd rhywun yn ymuno â’ch aelwyd neu’n gadael eich aelwyd
Sut i gysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau i adrodd newid
Dylech chi adrodd newid cyn gynted â phosibl. Gallwch chi ffonio neu ysgrifennu i’r Adran Gwaith a Phensiynau i ddweud wrthyn nhw am y newid, ond rhaid i chi ysgrifennu os ydych chi wedi newid eich enw. Ar ôl i chi adrodd y newid, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ysgrifennu atoch chi i roi gwybod i chi sut y bydd yn effeithio ar eich PIP.
Bydd rhaid i chi gynnwys y manylion hyn pan fyddwch chi’n adrodd newid:
eich enw llawn
eich dyddiad geni
eich rhif yswiriant gwladol
y dyddiad y digwyddodd y newid neu’r dyddiad y bydd y newid yn digwydd
y peth sydd wedi newid
Llinell gymorth PIP
Gall rhywun arall ffonio ar eich rhan, ond mae angen i chi fod gyda nhw fel y gallwch chi roi caniatâd iddyn nhw siarad ar eich rhan.
Ffôn: 0800 121 4433
Ffôn testun: 0800 121 4493
Ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 8am tan 6pm
Mae galwadau i’r rhif hwn am ddim o linellau tir neu ffonau symudol.
Y cyfeiriad i ysgrifennu iddo
Mae’r manylion cyswllt i chi eu defnyddio ar eich llythyr penderfyniad gwreiddiol.
Cadwch gofnod o’r newid
Mae’n syniad da cadw cofnod ysgrifenedig o’r ffaith eich bod chi wedi adrodd y newid wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau, er enghraifft, rhag ofn y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn anghytuno bod newid wedi’i adrodd.
Os byddwch chi’n adrodd y newid dros y ffôn, gallwch chi ofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau anfon cofnod ysgrifenedig o’r alwad atoch chi. Os byddwch chi’n ysgrifennu i adrodd y newid, cadwch gopi o’r llythyr.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 03 Mawrth 2022