Gwaith y gallwch ei wneud wrth gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Tra byddwch yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) efallai y gallwch wneud rhai mathau o waith.
Gallwch:
wneud gwaith cyflogedig o fewn terfynau enillion penodol - a elwir yn 'waith a ganiateir'
gwneud gwaith domestig yn eich cartref eich hun, er enghraifft coginio neu lanhau
gwirfoddoli i elusen neu fudiad gwirfoddol
gofalu am berthynas neu dderbyn taliadau am ofalu am rywun arall sy'n byw gyda chi, er enghraifft fel gofalwr maeth
ymgymryd â lleoliad gwaith a gymeradwywyd gan y llywodraeth - profiad gwaith ymarferol di-dâl gyda chyflogwr yw hwn
cymryd rhan yn y 'cynllun masnachu prawf' sy'n helpu pobl i fod yn hunangyflogedig
gweithio fel cynghorydd
gweithio fel aelod o Dribiwnlys Haen Gyntaf yng Ngwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF – gall hyn fod hyd at 1 diwrnod llawn neu 2 hanner diwrnod yr wythnos
gwneud gwaith brys i amddiffyn rhywun neu atal difrod difrifol i eiddo neu dda byw
Does dim rhaid i'r gwaith a wnewch fod yn ddi-dâl, ond os ydych chi'n derbyn Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail incwm a'ch bod yn ennill arian bydd yn effeithio ar faint o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth gewch chi.
Gwaith a ganiateir
Mae hwn yn waith cyflogedig y gallwch ei wneud os nad ydych yn ennill mwy na:
£20 yr wythnos - a elwir yn derfyn isaf ar gyfer gwaith a ganiateir
£183.50 yr wythnos ac rydych yn gweithio llai na 16 awr yr wythnos - gelwir hyn yn derfyn uwch ar gyfer gwaith a ganiateir
Gallwch ennill £183.50 yr wythnos heb gyfyngiad ar nifer yr oriau os yw'n gwaith:
yn cael eich goruchwylio gan rywun o gyngor lleol neu fudiad gwirfoddol
fel rhan o raglen driniaeth a wneir dan oruchwyliaeth feddygol tra byddwch yn yr ysbyty neu'n mynd i'r ysbyty'n rheolaidd fel claf allanol
Gallwch wneud unrhyw fath o waith a ganiateir ond dim ond un y cewch ei wneud ar y tro. Mae’n iawn symud o un math o waith a ganiateir i fath arall.
Mae'n bwysig rhoi gwybod i'r Adran Gwaith a Phensiynau am unrhyw waith a ganiateir neu os byddwch yn newid y gwaith a ganiateir.
Er mwyn rhoi gwybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau, llenwch ffurflen gwaith a ganiateir ar GOV.UK. Postiwch hi i’r cyfeiriad ar frig unrhyw un o’ch llythyrau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Gofynnwch i Swyddfa'r Post am brawf postio am ddim - efallai y bydd angen i chi ddangos pryd y gwnaethoch anfon eich ffurflen.
Os byddwch yn mynd dros y terfyn uchaf ar gyfer gwaith a ganiateir
Bydd eich taliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn dod i ben a bydd angen i chi ailymgeisio.
Dylech wirio faint o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth gewch cyn i chi wneud unrhyw waith a allai fynd â chi dros y terfyn a ganiateir.
Gwaith y gall eich partner ei wneud
Mae'r gwaith y gall eich partner ei wneud yn dibynnu ar y math o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth gewch chi.
Os nad ydych chi'n siŵr pa fath o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth gewch chi, gallwch ofyn i'r Adran Gwaith a Phensiynau drwy:
ysgrifennu i’r cyfeiriad ar eich llythyrau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
ffonio’r Ganolfan Byd Gwaith
Canolfan Byd Gwaith
Ffôn: 0800 169 0310
Ffôn testun: 0800 169 0314
Llinell Gymraeg: 0800 328 1744
Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0800 169 0310
Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.
Fideo Relay - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Gallwch ddysgu sut i ddefnyddio fideo Relay ar YouTube.
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 5pm
Mae galwadau am ddim o ffonau symudol a llinellau tir.
Os ydych yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth math newydd neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau
Ni fydd gwaith eich partner yn effeithio ar eich taliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
Os ydych yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail incwm
Os yw eich partner yn gwneud llai na 24 awr o waith cyflogedig mewn wythnos
Bydd eich taliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail incwm yn cael eu lleihau er mwyn ystyried eu hincwm. Gallwch wirio faint o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth gewch chi pan fyddwch chi'n derbyn Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail incwm.
Os yw eich partner yn gwneud 24 awr neu fwy o waith cyflogedig mewn wythnos
Ni fyddwch yn gallu cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail incwm. Mae'n bwysig rhoi gwybod i'r Adran Gwaith a Phensiynau os bydd oriau gwaith eich partner yn newid.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 06 Ebrill 2020