Os yw eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) yn dod i ben oherwydd y terfyn blwyddyn
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os ydych chi yn y grŵp gweithgaredd cysylltiedig â gwaith, bydd unrhyw fath newydd o ESA neu ESA seiliedig ar gyfraniadau yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf. Ni fyddant yn dod i ben os ydych chi yn y grŵp cymorth - edrychwch ar eich llythyr dyfarnu os nad ydych chi’n siŵr.
Os ydych yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) yn seiliedig ar incwm
Does dim rhaid i chi wneud unrhyw beth. Byddwch yn cael yr un swm o arian pan fydd eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth seiliedig ar gyfraniadau yn dod i ben.
Ar ddiwedd y flwyddyn, bydd swm eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm yn cynyddu a bydd yn disodli eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth seiliedig ar gyfraniadau.
Os nad ydych chi'n siŵr pa fath o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) rydych yn ei gael
Gallwch ofyn i'r DWP drwy:
ysgrifennu i’r cyfeiriad ar eich llythyrau ESA
Ffonio’r Ganolfan Byd Gwaith
Canolfan Byd Gwaith
Ffôn: 0800 169 0310
Ffôn testun: 0800 169 0314
Llinell Gymraeg: 0800 328 1744
Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0800 169 0310
Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.
Fideo Relay - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Gallwch ddysgu sut i ddefnyddio fideo Relay ar YouTube.
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 5pm
Mae galwadau am ddim o ffonau symudol a llinellau tir.
Gwiriwch beth allwch chi ei wneud os bydd eich ISA yn dod i ben
Bydd y DWP wedi ysgrifennu atoch i ddweud wrthych pryd y bydd eich ESA yn dod i ben a pham. Bydd y llythyr hefyd yn dweud wrthych sut gallwch chi apelio yn erbyn y penderfyniad.
Os nad ydych chi wedi cael asesiad meddygol eto
Os nad yw'r DWP wedi eich asesu ar ôl 365 diwrnod, byddant yn stopio eich math newydd o ESA neu eich ESA seiliedig ar gyfraniadau.
Os ydych o’r farn y dylech chi fod yn y grŵp cymorth, gallwch herio penderfyniad y DWP.
Dydy’r terfyn amser o 365 diwrnod ar gyfer talu ddim yn berthnasol os dylech chi fod yn y grŵp cymorth. Os nad ydych chi'n siŵr, gwiriwch ym mha grŵp y dylech chi fod ynddo.
Gallwch wirio sut mae herio’r penderfyniad i stopio’ch ESA. Dywedwch wrth y DWP na ddylai eich ESA fod wedi dod i ben oherwydd nad ydych wedi cael eich asesu. Dylech ddechrau eich her o fewn 1 mis ar ôl i’r DWP ysgrifennu atoch i ddweud y bydd eich ESA yn dod i ben.
Os yw eich cyflwr wedi gwaethygu neu os oes gennych gyflwr newydd
Gallwch barhau i gael ESA os yw eich cyflwr yn golygu y byddech yn cael eich rhoi yn y grŵp cymorth yn awr. Os nad ydych chi'n siŵr, gwiriwch ym mha grŵp y dylech chi fod ynddo.
Os bydd eich cyflwr yn newid cyn i'ch ESA ddod i ben
Gallwch wirio sut mae herio’r penderfyniad i stopio’ch ESA. Dylech ddechrau eich her o fewn 1 mis ar ôl i’r DWP ysgrifennu atoch i ddweud y bydd eich ESA yn dod i ben.
Anfonwch unrhyw dystiolaeth sydd gennych i'r DWP bod eich cyflwr wedi newid ers iddynt eich asesu ddiwethaf - er enghraifft, llythyrau gan eich meddyg. Mae'r DWP yn fwy tebygol o newid y penderfyniad os ydych wedi anfon tystiolaeth atynt.
Ar ôl i chi herio'r penderfyniad, efallai y bydd y DWP yn eich gwahodd i asesiad gallu i weithio. Mae hyn er mwyn gweld a ddylech chi fod yn y grŵp cymorth. Gallwch wirio sut mae paratoi ar gyfer yr asesiad gallu i weithio.
Os bydd eich cyflwr yn newid cyn i'ch ESA ddod i ben
Os byddwch yn cael eich rhoi yn y grŵp cymorth yn awr, gallwch ofyn i’r DWP ddechrau eich hawliad ESA eto.
Dywedwch wrth y DWP am eich cyflwr drwy naill ai:
ysgrifennu i’r cyfeiriad ar eich llythyrau ESA
ffonio’r Ganolfan Byd Gwaith
Canolfan Byd Gwaith
Ffôn: 0800 169 0310
Ffôn testun: 0800 169 0314
Llinell Gymraeg: 0800 328 1744
Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0800 169 0310
Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.
Fideo Relay - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Gallwch ddysgu sut i ddefnyddio fideo Relay ar YouTube.
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 5pm
Mae galwadau am ddim o ffonau symudol a llinellau tir.
Efallai bydd y DWP yn gofyn i chi lenwi ffurflen hawlio newydd.
Os byddant yn gwrthod dechrau eich ESA eto, gwiriwch sut i herio penderfyniad y DWP. Dylech ddechrau eich her o fewn mis i’r penderfyniad.
Os nad oes gennych incwm neu os oes gennych incwm isel
Efallai y gallwch hawlio budd-dal sy'n cael ei gyfrifo ar sail eich incwm.
Mae'r hyn y gallwch ei hawlio'n dibynnu ar ba fath o ESA yr ydych wedi bod yn ei dderbyn.
Os ydych chi'n cael math newydd o ESA
Efallai y byddwch yn gallu hawlio Credyd Cynhwysol – holwch a allwch chi hawlio Credyd Cynhwysol.
Os ydych chi wedi bod yn cael ESA seiliedig ar gyfraniadau
Efallai y gallwch ychwanegu ESA yn seiliedig ar incwm at eich hawliad.
I ychwanegu ESA yn seiliedig ar incwm, does dim rhaid i chi wneud hawliad newydd. Gofynnwch i’r DWP i ‘ddisodli’ y penderfyniad i ddod â’ch hawliad i ben – mae hyn yn golygu y byddan nhw’n diweddaru’r penderfyniad. Gallwch ofyn iddynt ddisodli’r penderfyniad drwy naill ai:
ysgrifennu i’r cyfeiriad ar eich llythyrau ESA
ffonio’r Ganolfan Byd Gwaith
Canolfan Byd Gwaith
Ffôn: 0800 169 0310
Ffôn testun: 0800 169 0314
Llinell Gymraeg: 0800 328 1744
Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0800 169 0310
Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.
Fideo Relay - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Gallwch ddysgu sut i ddefnyddio fideo Relay ar YouTube.
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 5pm
Mae galwadau am ddim o ffonau symudol a llinellau tir.
Os yw eich ESA eisoes wedi dod i ben
Os nad oes gennych incwm neu os oes gennych incwm isel, efallai y gallwch wneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol. Gallwch wirio a allwch chi hawlio Credyd Cynhwysol.
Os oes 12 wythnos neu fwy wedi mynd heibio ers i'ch ESA ddod i ben, efallai y gallwch wneud cais newydd am ESA. Gallwch wirio a allwch wneud cais newydd am ESA.
Yn ogystal, gallwch wirio pa gymorth arall y gallwch ei gael os ydych yn cael trafferth gyda chostau byw.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 01 Mai 2020