Apelio yn erbyn penderfyniad Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Cyn i chi allu apelio yn erbyn penderfyniad a wnaed gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), efallai y bydd angen i chi ofyn am ailystyriaeth orfodol a chael 'hysbysiad ailystyriaeth orfodol'.
Bydd angen i chi ofyn am ailystyriaeth orfodol os yw'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi penderfynu nad oes gennych 'allu cyfyngedig i weithio' oherwydd:
na wnaethoch chi fynychu eich Asesiad Gallu i Weithio; neu
ni wnaethoch ddychwelyd eich holiadur ESA50
Gwiriwch sut mae gofyn am ailystyriaeth orfodol.
Gallwch apelio heb ailystyriaeth orfodol os:
dyma'r tro cyntaf i'r Adran Gwaith a Phensiynau benderfynu nad oes gennych allu cyfyngedig i weithio
ni wnaethoch sgorio digon o bwyntiau yn eich Asesiad Gallu i Weithio
Os nad ydych yn siŵr a oes angen i chi ofyn am ailystyriaeth orfodol, edrychwch ar eich llythyr penderfyniad.
Os mai dyma'r tro cyntaf i'r Adran Gwaith a Phensiynau benderfynu nad oes gennych allu cyfyngedig i weithio, efallai y gallwch gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth tra'ch bod yn aros am benderfyniad ar eich apêl. Gelwir hyn yn 'Daliad yn Aros am Apêl' (PPA).
Dim ond ar ôl i'ch apêl gael ei chofrestru gyda'r tribiwnlys y gellir talu PPA i chi - felly dylech lenwi ac anfon y ffurflen apêl cyn gynted ag y gallwch.
Llenwi ffurflen apêl
Mae gennych 1 mis i apelio i Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (HMCTS) o'r dyddiad ar eich:
hysbysiad ailystyriaeth orfodol
llythyr penderfyniad am eich asesiad gallu i weithio (WCA)
Gwiriwch a yw'ch llythyr penderfyniad yn dweud nad oes rhaid i chi wneud cais am ailystyriaeth orfodol ac y gallwch apelio yn lle hynny.
Gallwch ddechrau eich apêl naill ai drwy:
lenwi ffurflen SSCS1 ar GOV.UK ac yna ei argraffu a'i phostio i HMCTS
Byddwch angen eich:
manylion cyswllt
eich rhif Yswiriant Gwladol - gwiriwch ble i ddod o hyd i'ch rhif Yswiriant Gwladol yn GOV.UK.
hysbysiad ailystyriaeth orfodol
llythyr penderfyniad am eich asesiad gallu i weithio (WCA)
Esboniwch pam eich bod yn anghytuno â'r penderfyniad
Ar eich ffurflen bydd angen i chi roi'r rhesymau rydych yn apelio. Bydd eich hysbysiad ailystyriaeth orfodol neu eich llythyr penderfyniad yn rhestru pam y gwnaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau ei phenderfyniad.
Eglurwch pam eich bod yn anghytuno â'r rhesymau a roddodd yr Adran Gwaith a Phensiynau a chyfeiriwch at unrhyw dystiolaeth yr ydych chi eisoes wedi'i hanfon at yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Gallwch ddewis ar y ffurflen a ydych am fynd i wrandawiad wyneb yn wyneb neu gael 'gwrandawiad papur'. Gwrandawiad papur yw pan wneir penderfyniad yn seiliedig ar y ffurflen ac unrhyw dystiolaeth yn unig. Anaml y bydd gwrandawiadau papur yn llwyddo, felly mae'n well mynd i wrandawiad wyneb yn wyneb os gallwch chi.
Os oes angen cymorth arnoch yn y gwrandawiad, gallwch ofyn amdano ar eich ffurflen. Er enghraifft, gallech ofyn am gyfieithydd, dolen glyw neu ystafell tribiwnlys hygyrch.
Os ydych chi'n cael trafferth llenwi'r ffurflen, gallwch gael help gan eich Cyngor ar Bopeth agosaf.
Anfon eich ffurflen apelio
Os ydych chi'n anfon ffurflen wedi'i hargraffu, mae angen i chi ei llofnodi a'i phostio i HMCTS. Bydd angen i chi hefyd anfon eich hysbysiad ailystyriaeth orfodol gyda'r ffurflen.
Anfonwch nhw at:
HMCTS Benefit Appeals
PO Box 12626
Harlow
CM20 9QF
Gofynnwch i Swyddfa'r Post am brawf postio am ddim – efallai y bydd angen i chi ddangos pryd y gwnaethoch anfon eich ffurflen apelio.
Os byddwch yn methu'r terfyn amser o 1 mis
Efallai y byddwch yn dal i allu apelio os yw'n llai na 13 mis ers y dyddiad ar eich hysbysiad ailystyriaeth orfodol. Bydd angen i chi gael rheswm da dros yr oedi a dylech gynnwys hyn ar eich ffurflen apelio.
Gall rhesymau da gynnwys:
na chawsoch yr hysbysiad ailystyriaeth orfodol
roeddech chi yn yr ysbyty
roedd rhywun yn eich teulu yn ddifrifol wael
Bydd HMCTS yn rhoi mwy o amser i chi apelio os ydyn nhw'n credu bod gennych chi reswm da. Does dim ots os nad yw'r Adran Gwaith a Phensiynau yn cytuno â'ch rheswm.
Anfon tystiolaeth newydd
Dylai’r Adran Gwaith a Phensiynau anfon unrhyw dystiolaeth rydych chi eisoes wedi’i rhoi i GLlTEF. Does dim angen i chi ei hanfon eto.
Os oes gennych dystiolaeth newydd ers eich ailystyriaeth orfodol, rhestrwch hwn ar eich cais. Gallai tystiolaeth newydd fod yn bethau fel llythyr gan feddyg teulu, nodyn ffitrwydd neu lythyr gan rywun sy'n eich adnabod. Gwiriwch sut i gael nodyn ffitrwydd.
Os oes gennych dystiolaeth newydd wrth lenwi'r ffurflen apelio, gallwch naill ai:
ei lanlwytho os ydych chi'n gwneud cais ar-lein
ei phostio gyda'ch ffurflen i HMCTS
Os ydych chi'n aros am dystiolaeth newydd, dylech lenwi'r ffurflen apelio a'i chyflwyno ar-lein neu ei phostio.
Pan fydd HMCTS yn ymateb i'ch ffurflen apelio, byddant yn dweud wrthych ble i anfon y dystiolaeth. Ceisiwch ei anfon o fewn 1 mis iddynt gysylltu â chi.
Gwiriwch beth sy'n digwydd nesaf
Bydd GLlThEF yn gwirio'r ffurflen ac yn gofyn i'r Adran Gwaith a Phensiynau am eu hymateb i'ch apêl o fewn 28 diwrnod. Ar ôl i’r Adran Gwaith a Phensiynau ymateb, bydd GLlThEF yn anfon y canlynol atoch:
copi o ymateb yr Adran Gwaith a Phensiynau
manylion am yr hyn sy'n digwydd nesaf
manylion pryd a ble bydd y gwrandawiad
'bwndel apêl'
Mae'r bwndel apêl yn cynnwys yr holl dystiolaeth y mae HMCTS wedi'i dderbyn gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae'n bwysig gwirio'r bwndel oherwydd dyma un o'r prif bethau y bydd y tribiwnlys yn ei ddefnyddio i wneud ei benderfyniad. Os oes unrhyw dystiolaeth ar goll, anfonwch hi at HMCTS, gan egluro bod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi methu â'i hanfon.
Gallwch anfon tystiolaeth at HMCTS hyd at 1 mis ar ôl i chi gael y bwndel apêl. Dylech barhau i anfon y dystiolaeth hyd yn oed os ydych wedi methu'r dyddiad cau, ond esboniwch pam eich bod yn ei hanfon yn hwyr.
Os derbyniwch rywfaint o dystiolaeth yn union cyn y tribiwnlys ac nid oes amser i'w phostio, ewch â hi gyda chi. Efallai y bydd panel y tribiwnlys yn ei hystyried, neu efallai y byddant yn aildrefnu'r gwrandawiad os oes angen mwy o amser arnynt i'w darllen.
Tracio eich apêl
Fel arfer mae'n cymryd hyd at 6 mis i wrandawiad tribiwnlys gael ei drefnu.
Os ydych yn apelio yn erbyn penderfyniad Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar-lein, gofynnir i chi a ydych am ymuno â'r gwasanaeth 'tracio eich apêl'. Bydd y gwasanaeth hwn yn anfon diweddariadau e-bost rheolaidd a nodiadau atgoffa atoch am eich apêl. Byddwch hefyd yn derbyn manylion mewngofnodi, fel y gallwch wirio cynnydd eich apêl ar unrhyw adeg.
Os gwnaethoch gais drwy'r post, gallwch gysylltu â HMCTS a gofyn iddynt anfon diweddariadau a nodiadau atgoffa atoch trwy neges destun.
Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF
Ffôn: 0300 123 1142
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am tan 5pm
E-bost: contactsscs@justice.gov.uk
Os ydych yn defnyddio e-bost, efallai y bydd yn cymryd mwy o amser i gael ateb.
Mae eich galwad yn debygol o fod am ddim os oes gennych gytundeb ffôn sy’n cynnwys galwadau am ddim i linellau tir – dysgwch fwy am ffonio rhifau 030.
Os nad ydych am ffonio neu e-bostio, gallwch drafod eich apêl ar-lein gyda chynorthwyydd hyfforddedig ar wefan HMCTS.
Os oes angen arian arnoch wrth aros am eich gwrandawiad apêl
Meddyliwch yn ofalus cyn hawlio Credyd Cynhwysol
Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol wrth aros am eich apêl, ni fyddwch yn gallu mynd yn ôl i dderbyn Lwfans Cyflogaeth a Chymorth os ydych ar 'Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm'. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os byddwch yn ennill eich apêl.
Os ydych chi'n hawlio Credyd Cynhwysol wrth i chi aros am benderfyniad am eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth steil-newydd, byddwch chi'n gallu cael y ddau os byddwch chi'n ennill eich apêl.
Os nad ydych yn siŵr pa fath o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a gewch, gofynnwch i'r Adran Gwaith a Phensiynau drwy:
ysgrifennu at y cyfeiriad ar un o'ch llythyrau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
ffonio'r Ganolfan Byd Gwaith
Canolfan Byd Gwaith
Ffôn: 0800 169 0310
Ffôn testun: 0800 169 0314
Llinell Gymraeg: 0800 328 1744
Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0800 169 0310
Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.
Fideo Relay - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Gallwch ddysgu sut i ddefnyddio fideo Relay ar YouTube.
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 5pm
Mae galwadau am ddim o ffonau symudol a llinellau tir.
Efallai y byddwch yn gallu cael taliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth tra byddwch yn aros am eich gwrandawiad apêl.
Os ydych chi'n apelio oherwydd eich bod chi yn y grŵp anghywir
Os ydych yn apelio oherwydd eich bod yn credu y dylech fod yn y 'grŵp cymorth', byddwch yn gallu cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth wrth i chi aros am eich gwrandawiad apêl. Cewch eich rhoi yn y grŵp cymorth os nad ydych chi'n gallu dychwelyd i'r gwaith oherwydd eich cyflwr.
Os na wnaethoch ddychwelyd eich ffurflen ESA50 neu fynychu asesiad meddygol
Ni fyddwch yn derbyn Lwfans Cyflogaeth a Chymorth tra byddwch yn aros am eich gwrandawiad apêl. Fel arfer, ni fyddwch yn cael eich trin fel rhywun sydd â gallu cyfyngedig i weithio oherwydd nad oedd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gallu asesu eich cyflwr.
Os ydych yn apelio yn erbyn penderfyniad oherwydd i chi fethu’r asesiad meddygol
Os mai hwn yw'r asesiad meddygol cyntaf i chi ei fethu, gallwch ofyn i'r Adran Gwaith a Phensiynau barhau i dalu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth i chi tan y gwrandawiad apêl. Ni fydd yn rhaid i chi wneud cais newydd. Os byddwch yn dechrau cais newydd am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, yna efallai y bydd y Adran Gwaith a Phensiynau yn dweud wrthych am fynd ymlaen i Gredyd Cynhwysol ac efallai y byddwch yn waeth yn ariannol.
Weithiau efallai y byddwch yn well yn ariannol ar Gredyd Cynhwysol ond dylech siarad â chynghorydd yn gyntaf.
Gwneud hawliad newydd am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn lle hynny
Os ydych chi'n apelio am fod eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth wedi'i stopio, gallwch wneud cais newydd am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth os yw'r canlynol yn wir:
mae eich cyflwr wedi gwaethygu
mae gennych gyflwr newydd
Gallai hyn olygu y byddwch yn dechrau cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gynt. Os byddwch yn ennill yr apêl, byddwch yn cael taliad ôl-ddyddiedig i'r dyddiad y daeth eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth gwreiddiol i ben.
Gall amgylchiadau eraill hefyd olygu y gallwch wneud cais newydd. Cael gwybod beth i'w wneud os yw'ch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn cael ei stopio neu ei leihau.
Cael gwybod beth allwch chi ei wneud os ydych chi'n dal i gael trafferth gyda chostau byw.
Mynd i'r gwrandawiad apêl
Y gwrandawiad yw eich cyfle i egluro yn eich geiriau eich hun pam eich bod chi'n meddwl bod y penderfyniad yn anghywir.
Efallai y bydd y panel gwrandawiad, sy'n cynnwys barnwr a meddyg fel arfer, eisiau gofyn cwestiynau i chi.
Gallwch hawlio treuliau yn ôl i dalu costau teithio i'r gwrandawiad, neu i dalu am dâl neu gyflog y gallech ei golli. Cael gwybod sut i hawlio treuliau ar GOV.UK.
Gallwch gymryd rhywun i'ch cynrychioli yn y gwrandawiad, er enghraifft:
cyfreithiwr - dewch o hyd i gyfreithiwr ar wefan Cymdeithas y Gyfraith
Asiantaeth cyngor lleol
Cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth agosaf i ofyn a allant eich cynrychioli. Nid yw pob Cyngor ar Bopeth yn cynnig y gwasanaeth hwn, ond os ydynt, bydd yn rhad ac am ddim.
Gallwch hefyd ddod â ffrind neu aelod o'r teulu i gyda chi i'ch cefnogi.
Os na fyddwch yn mynd i'r gwrandawiad, bydd y penderfyniad yn cael ei wneud gan ddefnyddio'r wybodaeth ar eich ffurflen apêl ac unrhyw dystiolaeth rydych wedi'i rhoi.
Cael penderfyniad
Fel arfer, cewch ateb ar ddiwrnod y gwrandawiad. Os oes angen mwy o amser ar y panel i benderfynu, neu os nad ydych yn y gwrandawiad, byddwch yn cael penderfyniad y tribiwnlys drwy'r post.
Os nad yw eich apêl yn llwyddiannus, efallai y gallwch apelio i'r uwch-dribiwnlys. Bydd manylion am sut i apelio atynt wedi'u cynnwys gyda'ch llythyr penderfyniad.
Dim ond mewn rhai sefyllfaoedd y gallwch apelio i'r uwch-dribiwnlys. Siaradwch â chynghorydd yn gyntaf.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 06 Ebrill 2020