Os bydd eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn cael ei stopio neu ei leihau
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Efallai y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn stopio’ch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu'n ei leihau oherwydd:
nid oes gennych allu cyfyngedig i weithio - mae hyn yn golygu anhawster i weithio oherwydd eich bod yn sâl neu'n anabl
os ydych chi wedi bod yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth am flwyddyn - dim ond os ydych chi wedi bod yn cael math newydd o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau y bydd hyn yn berthnasol
maent wedi ailgyfrifo eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth - mae hyn yn golygu eu bod wedi newid faint yr ydych yn ei gael ar ôl i'ch amgylchiadau newid
maent wedi atal eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth dros dro
maent yn cymryd taliad ymlaen llaw neu ordaliad yn ôl
maent wedi rhoi sancsiwn i chi
Os ydych chi wedi cael cyfarwyddyd i hawlio Credyd Cynhwysol erbyn dyddiad penodol
Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn atal budd-daliadau rhai pobl ac yn dweud wrthynt am hawlio Credyd Cynhwysol yn lle hynny.
Os byddwch chi’n cael llythyr yn dweud wrthych chi am hawlio Credyd Cynhwysol erbyn dyddiad penodol, ‘hysbysiad mudo’ yw hwn. Dylech hawlio Credyd Cynhwysol erbyn y dyddiad cau yn yr hysbysiad mudo. Bydd eich hen fudd-daliadau’n dod i ben ar ôl y dyddiad cau.
Efallai y byddwch yn colli rhywfaint o arian os byddwch yn gwneud cais ar ôl y dyddiad cau.
Gwiriwch beth ddylech chi ei wneud os byddwch chi’n cael hysbysiad mudo.
Gofynnwch am help gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf os bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn dweud:
bod didyniad trydydd parti'n cael ei dynnu o'ch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth - mae hyn yn golygu taliadau'n syth o'ch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth i rywun y mae arnoch chi arian iddo
nid ydych mwyach yn gymwys i dderbyn Lwfans Cyflogaeth a Chymorth - mae hyn yn golygu y gellid stopio’ch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth am hyd at 6 wythnos.
Os bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn stopio neu'n lleihau eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, efallai y gallwch eu herio neu ddechrau hawliad newydd.
Os nad ydych yn siŵr pam mae eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth wedi cael ei atal neu ei leihau, gallwch wneud y canlynol:
gwirio unrhyw lythyrau y mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi'u hanfon atoch - dylent esbonio beth sydd wedi digwydd
ffonio Llinell Ymholiadau Budd-daliadau'r Adran Gwaith a Phensiynau a gofyn iddynt esbonio
Canolfan Byd Gwaith
Ffôn: 0800 169 0310
Ffôn testun: 0800 169 0314
Llinell Gymraeg: 0800 328 1744
Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0800 169 0310
Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.
Fideo Relay - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Gallwch ddysgu sut i ddefnyddio fideo Relay ar YouTube.
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 5pm
Mae galwadau am ddim o ffonau symudol a llinellau tir.
Os ydych hefyd yn cael Budd-dal Tai neu Ostyngiad i'r Dreth Gyngor
Efallai y bydd eich Budd-dal Tai a'ch Gostyngiad i’r Dreth Gyngor yn dod i ben ar ôl i'ch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth gael ei stopio neu ei leihau.
Cysylltwch â'ch cyngor lleol cyn gynted â phosibl a dywedwch wrthynt bod eich amgylchiadau wedi newid. Dywedwch wrthynt beth ddigwyddodd i'ch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a pham.
Dywedwch wrth y cyngor os oes gennych unrhyw incwm neu gynilion. Byddant yn gwirio a allwch ddal i gael Budd-dal Tai a Gostyngiad yn y Dreth Gyngor.
Os bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn dweud nad oes gennych allu cyfyngedig i weithio
Efallai fod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi stopio’ch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth oherwydd:
nid ydych wedi anfon yr holiadur ESA50 mewn pryd
nid ydych wedi mynd i asesiad gallu i weithio
rydych wedi mynd i asesiad gallu i weithio a phenderfynodd yr Adran Gwaith a Phensiynau eich bod yn gallu gweithio
Os daeth eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth i ben oherwydd na wnaethoch anfon yr holiadur ESA50 yn brydlon
Gallwch herio’r penderfyniad i stopio’ch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth os oedd rheswm da pam na wnaethoch chi anfon yr ESA50 yn brydlon. Er enghraifft, efallai eich bod wedi bod yn sâl neu wedi cael argyfwng gartref. Dylech ddechrau herio o fewn mis i’r penderfyniad.
Os na allwch herio'r penderfyniad, efallai y gallwch wneud hawliad newydd. Dylech lenwi ac anfon yr holiadur ESA50 gyda’ch hawliad newydd. Mae hyn yn golygu y byddwch yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn syth pan fydd yr hawliad newydd yn dechrau.
Gallwch wirio pa fath o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth y gallwch ei hawlio.
Os daeth eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth i ben oherwydd na wnaethoch chi fynd i asesiad gallu i weithio
Gallwch herio’r penderfyniad i stopio’ch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth os oedd rheswm da pam na wnaethoch chi fynd i’r asesiad gallu i weithio. Er enghraifft, efallai eich bod wedi bod yn sâl neu wedi cael argyfwng gartref. Dylech ddechrau herio o fewn mis i’r penderfyniad.
Os na allwch herio'r penderfyniad, efallai y gallwch wneud hawliad newydd. Os byddwch yn gwneud hawliad newydd lai na 6 mis ar ôl i'ch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ddod i ben, ni fyddwch yn cael eich talu'n syth. Dim ond ar ôl i chi fynd i asesiad gallu i weithio arall y cewch eich talu – mae hyn fel arfer tua 3 mis ar ôl eich hawliad.
Gallwch wirio pa fath o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth y gallwch ei hawlio.
Os daeth eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth i ben oherwydd bod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi penderfynu eich bod yn gallu gweithio
Os ydych chi'n meddwl bod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn anghywir, gallwch herio'r penderfyniad i stopio’ch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Dylech ddechrau herio o fewn mis i’r penderfyniad.
Os na allwch herio'r penderfyniad, efallai y gallwch wneud hawliad newydd. Gallwch ond gwneud cais newydd os yw'r canlynol yn berthnasol ers penderfyniad yr Adran Gwaith a Phensiynau:
mae eich cyflwr wedi gwaethygu
os oes gennych gyflwr newydd
Gallwch wirio pa fath o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth y gallwch ei hawlio.
Os ydych chi wedi bod yn cael math newydd o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau ers blwyddyn
Os ydych chi yn y grŵp gweithgaredd cysylltiedig â gwaith, bydd eich math newydd neu’ch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth seiliedig ar gyfraniadau yn dod i ben. Gallwch wirio beth allwch chi ei wneud pan fyddwch chi’n cyrraedd y terfyn blwyddyn.
Ni ddylai eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth newid os ydych chi yn y grŵp cymorth. Ni fydd eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail incwm yn dod i ben os byddwch yn cael unrhyw Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
Os yw’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi ailgyfrifo eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
Os bydd eich amgylchiadau'n newid, efallai y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn penderfynu y cewch swm gwahanol o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
Gallwch wirio a ydych chi'n cael y swm cywir o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Os bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn rhoi'r swm anghywir i chi, gallwch herio'r penderfyniad.
Os bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi atal eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth dros dro
Efallai y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn atal eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth tra byddant yn penderfynu faint y dylid ei dalu i chi neu a ddylech ddal i gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Er enghraifft, efallai y byddant yn atal eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth dros dro, os:
dydyn nhw ddim yn siŵr eich bod chi mor sâl ag yr ydych yn e honni
na roesoch chi wybodaeth neu ddogfennau y gofynnon nhw amdanynt – dylent roi 14 diwrnod i chi anfon unrhyw beth atynt
gwnaethoch roi gwybod am newid mewn amgylchiadau ac mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn cyfrifo faint o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth y byddwch yn ei gael eto
Allwch chi ddim herio penderfyniad yr Adran Gwaith a Phensiynau i atal eich hawliad dros dro.
Os bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gofyn am unrhyw wybodaeth neu ddogfennau, anfonwch nhw cyn gynted â phosibl. Dylai hyn eu helpu i wneud penderfyniad yn gyflymach. Os na fyddwch chi'n clywed gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, ffoniwch nhw i weld beth maen nhw'n aros amdano.
Canolfan Byd Gwaith
Ffôn: 0800 169 0310
Ffôn testun: 0800 169 0314
Llinell Gymraeg: 0800 328 1744
Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0800 169 0310
Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.
Fideo Relay - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Gallwch ddysgu sut i ddefnyddio fideo Relay ar YouTube.
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 5pm
Mae galwadau am ddim o ffonau symudol a llinellau tir.
Os yw’r Adran Gwaith a Phensiynau yn tynnu taliad ymlaen llaw neu ordaliad yn ôl
Os cawsoch daliad ymlaen llaw pan wnaethoch gais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, gall yr Adran Gwaith a Phensiynau ostwng eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth nes eich bod wedi'i dalu'n ôl. Allwch chi ddim herio penderfyniad yr Adran Gwaith a Phensiynau i adennill eich taliad ymlaen llaw.
Os yw'r Adran Gwaith a Phensiynau yn dweud eich bod wedi cael gordaliad, mae'n golygu eich bod wedi cael gormod o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Os nad ydych yn meddwl eich bod wedi cael gordaliad, gallwch herio penderfyniad yr Adran Gwaith a Phensiynau i ostwng eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Dylech ddechrau herio o fewn mis i’r penderfyniad.
Os cawsoch eich gordalu, mae'r rheolau'n dibynnu ar y math o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yr ydych yn ei gael.
Os nad ydych yn siŵr pa fath o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yr ydych yn ei gael
Gallwch ofyn i'r Adran Gwaith a Phensiynau drwy:
ysgrifennu i’r cyfeiriad ar eich llythyrau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
ffonio’r Ganolfan Byd Gwaith
Canolfan Byd Gwaith
Ffôn: 0800 169 0310
Ffôn testun: 0800 169 0314
Llinell Gymraeg: 0800 328 1744
Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0800 169 0310
Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.
Fideo Relay - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Gallwch ddysgu sut i ddefnyddio fideo Relay ar YouTube.
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 5pm
Mae galwadau am ddim o ffonau symudol a llinellau tir.
Os ydych chi'n cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth math newydd
Gall yr Adran Gwaith a Phensiynau ostwng eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth nes eich bod wedi talu'r gordaliad yn ôl. Byddant yn lleihau eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth:
hyd at £26.88 bob wythnos os ydych chi’n 25 oed neu’n hŷn
hyd at £33.92 bob wythnos os ydych chi o dan 25 oed
Os ydych yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail incwm neu ar sail cyfraniadau
Ni ddylai'r Adran Gwaith a Phensiynau ostwng eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth i dalu gordaliad yn ôl, dim ond os ydych:
wedi rhoi gwybodaeth anghywir pan wnaethoch chi gais y tro cyntaf neu ar ôl i chi ddechrau derbyn Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
heb roi gwybod am newid mewn amgylchiadau a fyddai wedi effeithio ar eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
Fel arfer, gall yr Adran Gwaith a Phensiynau ostwng eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth hyd at £12.75 bob wythnos. Os ydych chi wedi cyfaddef neu wedi cael eich dyfarnu'n euog o dwyll budd-daliadau, gall yr Adran Gwaith a Phensiynau ostwng eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth hyd at £34 yr wythnos.
Os nad ydych chi'n credu y dylai'r Adran Gwaith a Phensiynau leihau eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, gallwch herio'r penderfyniad i ostwng eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Dylech ddechrau herio o fewn mis i’r penderfyniad.
Os yw’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi rhoi sancsiwn i chi
Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn rhoi sancsiwn i chi os nad ydych yn gwneud rhywbeth yr oeddech i fod i'w wneud. Mae'r sancsiwn yn golygu bod eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn cael ei leihau am gyfnod penodol.
Os ydych chi wedi cael sancsiwn am dwyll budd-daliadau
Mae’r rheolau ynghylch sancsiynau ar gyfer twyll budd-daliadau yn wahanol. Dylech gael help gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf.
Fel arfer, allwch chi ddim cael sancsiwn os ydych chi yn y grŵp cymorth neu os nad ydych chi wedi cael eich rhoi mewn grŵp eto – gwiriwch pa grŵp rydych chi ynddo.
Efallai eich bod wedi cael sancsiwn oherwydd:
nad ydych wedi mynd i gyfweliad neu'n gwneud rhywbeth arall y dywedodd yr Adran Gwaith a Phensiynau y mae'n rhaid i chi ei wneud - gelwir hyn yn 'weithgaredd cysylltiedig â gwaith'
nad aeth eich partner i gyfweliad y dywedodd yr Adran Gwaith a Phensiynau fod yn rhaid iddynt fynd iddo
Gallwch herio’r penderfyniad i roi sancsiwn i chi os oedd rheswm da dros beidio â mynd i’r cyfweliad neu i’r gweithgaredd cysylltiedig â gwaith. Er enghraifft, efallai eich bod wedi bod yn sâl neu wedi cael argyfwng gartref. Dylech ddechrau herio o fewn mis i’r penderfyniad.
Os nad ydych chi'n meddwl bod yn rhaid i chi wneud y gweithgaredd cysylltiedig â gwaith o gwbl, gwiriwch pa weithgarwch cysylltiedig â gwaith y mae'n rhaid i chi ei wneud. Allwch chi ddim cael sancsiwn am beidio â gwneud profiad gwaith.
Os ydych chi wedi cael sancsiwn, mae'r hyn sy'n digwydd a'r hyn y gallwch ei wneud yn dibynnu ar y math o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yr ydych yn ei gael.
Os nad ydych yn siŵr pa fath o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yr ydych yn ei gael
Gallwch ofyn i'r Adran Gwaith a Phensiynau drwy:
ysgrifennu i’r cyfeiriad ar lythyrau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth eich cleient
ffonio’r Ganolfan Byd Gwaith
Canolfan Byd Gwaith
Ffôn: 0800 169 0310
Ffôn testun: 0800 169 0314
Llinell Gymraeg: 0800 328 1744
Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0800 169 0310
Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.
Fideo Relay - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Gallwch ddysgu sut i ddefnyddio fideo Relay ar YouTube.
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 5pm
Mae galwadau am ddim o ffonau symudol a llinellau tir.
Os ydych chi'n cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth math newydd
Fel arfer, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn lleihau eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
£90.50 bob wythnos os ydych chi’n 25 oed neu’n hŷn
£71.70 bob wythnos os ydych chi o dan 25 oed
Ni fydd y sancsiwn yn lleihau eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth i lai na 10c bob wythnos.
Bydd eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn cael ei leihau nes i chi fynd i’r cyfweliad neu’r gweithgaredd cysylltiedig â gwaith y gwnaethoch ei golli.
Os colloch chi gyfweliad, bydd eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn dechrau eto cyn gynted ag y byddwch yn mynd i gyfweliad.
Os na wnaethoch chi weithgaredd cysylltiedig â gwaith, bydd eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn cael ei leihau am o leiaf wythnos ar ôl i chi wneud y gweithgaredd. Mae hyd eich sancsiwn yn dibynnu ar eich sefyllfa.
Eich sefyllfa | Pryd fydd eich sancsiwn yn dod i ben |
---|---|
Eich sefyllfa
Dyma'r tro cyntaf i chi gael sancsiwn |
Pryd fydd eich sancsiwn yn dod i ben
1 wythnos ar ôl i chi wneud y gweithgaredd |
Eich sefyllfa
Rydych chi wedi cael sancsiwn unwaith o'r blaen yn y flwyddyn ddiwethaf |
Pryd fydd eich sancsiwn yn dod i ben
2 wythnos ar ôl i chi wneud y gweithgaredd |
Eich sefyllfa
Rydych chi wedi cael sancsiwn fwy nag unwaith o'r blaen yn y flwyddyn ddiwethaf |
Pryd fydd eich sancsiwn yn dod i ben
4 wythnos ar ôl i chi wneud y gweithgaredd |
Os cawsoch chi’r sancsiwn hwn lai na phythefnos ar ôl eich sancsiwn diwethaf, bydd y sancsiwn hwn yn para am gyn hired â’r un diwethaf.
Gallwch herio penderfyniad yr Adran Gwaith a Phensiynau os ydych yn meddwl:
ni ddylech fod wedi cael sancsiwn
rydych chi wedi cael sancsiwn sy'n rhy hir
Dylech ddechrau herio o fewn mis i’r penderfyniad.
Os ydych yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail incwm neu ar sail cyfraniadau
Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn lleihau eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
£90.50 bob wythnos os ydych chi’n 25 oed neu’n hŷn
£71.70 bob wythnos os ydych chi o dan 25 oed
Ni fydd y sancsiwn yn lleihau eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth i lai na 10c bob wythnos.
Bydd eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn cael ei leihau nes i chi fynd i’r cyfweliad neu’r gweithgaredd cysylltiedig â gwaith y gwnaethoch ei golli.
Ar ôl i chi fynd i’r cyfweliad neu’r gweithgaredd, bydd eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn cael ei leihau am o leiaf wythnos. Mae hyd eich sancsiwn yn dibynnu ar eich sefyllfa.
Eich sefyllfa | Pryd fydd eich sancsiwn yn dod i ben |
---|---|
Eich sefyllfa
Dyma'r tro cyntaf i chi gael sancsiwn |
Pryd fydd eich sancsiwn yn dod i ben
1 wythnos ar ôl i chi wneud y cyfweliad neu’r gweithgaredd |
Eich sefyllfa
Rydych chi wedi cael sancsiwn unwaith o'r blaen yn y flwyddyn ddiwethaf |
Pryd fydd eich sancsiwn yn dod i ben
2 wythnos ar ôl i chi wneud y cyfweliad neu’r gweithgaredd |
Eich sefyllfa
Rydych chi wedi cael sancsiwn fwy nag unwaith o'r blaen yn y flwyddyn ddiwethaf |
Pryd fydd eich sancsiwn yn dod i ben
4 wythnos ar ôl i chi wneud y cyfweliad neu’r gweithgaredd |
Os cawsoch chi’r sancsiwn hwn lai na phythefnos ar ôl eich sancsiwn diwethaf, bydd y sancsiwn hwn yn para am gyn hired â’r un diwethaf.
Gallwch herio penderfyniad yr Adran Gwaith a Phensiynau os ydych yn meddwl:
ni ddylech fod wedi cael sancsiwn
rydych chi wedi cael sancsiwn sy'n rhy hir
Dylech ddechrau herio o fewn mis i’r penderfyniad.
Os nad oes gennych chi ddigon o arian i fyw arno
Gallwch wirio pa gymorth arall y gallwch ei gael ar gyfer eich costau byw.
Os ydych yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail incwm neu ar sail cyfraniadau a bod eich taliadau wedi dod i ben, gallwch ofyn am arian ychwanegol a elwir yn 'daliadau caledi'.
Telir taliadau caledi fel rhan o'ch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Maent yn llai na’ch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth arferol.
Bydd rhaid i chi ddangos i'r Adran Gwaith a Phensiynau na allwch chi, heb Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, dalu am y pethau sydd eu hangen arnoch chi, eich partner neu eich plant. Er enghraifft, dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os na allwch fforddio:
bwyd
gwres
lle i fyw
Ffoniwch y Ganolfan Byd Gwaith i ofyn am daliadau caledi.
Canolfan Byd Gwaith
Ffôn: 0800 169 0310
Ffôn testun: 0800 169 0314
Llinell Gymraeg: 0800 328 1744
Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0800 169 0310
Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.
Fideo Relay - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Gallwch ddysgu sut i ddefnyddio fideo Relay ar YouTube.
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 5pm
Mae galwadau am ddim o ffonau symudol a llinellau tir.
Os na allwch ffonio'r Ganolfan Byd Gwaith, ysgrifennwch i'r cyfeiriad ar y llythyrau a anfonwyd atoch gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Fel arfer, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn anfon ffurflenni atoch i'w llenwi a'u hanfon yn ôl atynt.
Os bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn penderfynu peidio â rhoi taliadau caledi i chi, gallwch herio penderfyniad yr Adran Gwaith a Phensiynau. Dylech ddechrau herio o fewn mis i’r penderfyniad.
Os ydych yn cael taliadau caledi, byddwch yn dal i'w cael tan:
mae eich sancsiwn yn dod i ben
mae eich sefyllfa'n newid fel y gallwch fforddio'r pethau sydd eu hangen arnoch
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 10 Awst 2022