Paratoi ar gyfer eich asesiad Lwfans Cyflogaeth a Chymorth meddygol

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Fel arfer, bydd angen i chi gael asesiad meddygol ar ôl i chi ddychwelyd eich holiadur gallu i weithio.

Byddwch yn cael llythyr 1 i 2 fis ar ôl i chi anfon eich holiadur yn ôl - bydd yn dweud wrthych beth yw dyddiad ac amser eich asesiad, a ble i fynd.

Bydd yr asesiad yn helpu'r Adran Gwaith a Phensiynau i ddeall:

  • sut mae eich cyflwr iechyd, eich anabledd neu eich salwch yn effeithio ar eich gallu i weithio

  • os ydych chi'n gallu gwneud gweithgaredd sy'n gwella'ch siawns o ddod o hyd i waith - er enghraifft, hyfforddiant sgiliau neu roi cynnig ar ffyrdd newydd o reoli eich cyflwr neu'ch anabledd

Yn eich asesiad

Bydd yr asesiad yn cael ei gynnal gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol o'ch darparwr asesiad.

Byddant yn siarad â chi am eich hanes meddygol a gweithgareddau y gallwch eu gwneud mewn un diwrnod. Byddant yn gofyn cwestiynau i gael gwybod sut mae eich cyflwr iechyd, eich anabledd neu eich salwch yn effeithio ar eich gallu i wneud amrywiaeth o weithgareddau bob dydd.

Byddant hefyd yn gofyn i chi am y pethau rydych chi wedi’u dweud ar eich holiadur – ewch â chopi gyda chi er mwyn i chi allu edrych yn ôl ar yr atebion rydych chi wedi’u rhoi. Os nad ydych wedi cadw eich copi eich hun, gofynnwch i'r Adran Gwaith a Phensiynau anfon un atoch cyn yr asesiad - defnyddiwch y manylion cyswllt ar unrhyw un o'ch llythyrau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.

Enghraifft

Cwestiynau a allai gael eu gofyn i chi

Efallai y bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn gofyn i chi sut y daethoch i’r ganolfan asesu. Os byddwch chi’n dweud eich bod wedi dod ar y bws, byddan nhw’n nodi y gallwch chi deithio ar eich pen eich hun ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Efallai y byddan nhw’n gofyn a ydych chi’n mynd i siopa mewn archfarchnad. Gwnewch yn glir os na allwch neu os oes angen help arnoch i wneud hyn - neu efallai y byddant yn tybio y gallwch gerdded o gwmpas yr archfarchnad ar eich pen eich hun.

Efallai y byddan nhw’n gofyn am ba hyd rydych chi wedi bod yn eistedd yn yr ystafell aros cyn yr asesiad. Os byddwch chi’n dweud ‘Hanner awr’, byddan nhw’n nodi y gallwch chi eistedd ar gadair gyffredin am o leiaf 30 munud. Dywedwch wrthyn nhw os oeddech chi’n teimlo’n anghyfforddus neu os oedd angen i chi godi a cherdded o gwmpas oherwydd nad oeddech chi’n gallu eistedd am y cyfnod hwnnw.

Efallai y cewch archwiliad corfforol hefyd ond byddant yn gofyn am eich caniatâd. Nid yw'r un peth ag archwiliad gan feddyg teulu neu ymgynghorydd meddygol ac ni fydd angen i chi dynnu eitemau o ddillad. Dylech wneud cymaint o’r archwiliad ag yr ydych yn teimlo’n gyfforddus yn ei wneud.

Peidiwch â theimlo bod yn rhaid i chi wneud pethau yn yr asesiad na fyddech fel arfer yn gallu eu gwneud. Os byddwch yn eu gwneud ar ddiwrnod yr asesiad, efallai y bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn meddwl y gallwch chi eu gwneud bob amser. Os nad ydych chi’n gyfforddus ag unrhyw beth, dywedwch hynny.

Meddyliwch sut beth yw diwrnod gwael a diwrnod da i chi, a pha mor aml rydych chi’n cael diwrnodau gwael. Bydd hyn yn helpu’r gweithiwr iechyd proffesiynol i ddeall sut mae eich cyflwr iechyd, eich anabledd neu eich salwch yn effeithio ar eich bywyd.

Dywedwch wrthyn nhw am y math o bethau rydych chi’n cael trafferth eu gwneud, neu nad ydych chi’n gallu eu gwneud o gwbl – er enghraifft, cerdded i fyny grisiau heb help, neu gofio mynd i apwyntiadau.

Gallwch ysgrifennu rhestr o’r holl bethau hyn a dod â nhw i’r asesiad gyda chi. Os oeddech chi wedi cadw copi o’ch holiadur gallu i weithio, ewch â hwn i’r asesiad hefyd. Mae’n iawn edrych ar y rhain yn ystod yr asesiad os ydych chi’n poeni am gofio pethau rydych chi eisiau eu dweud.

Dylech hefyd ddod ag unrhyw wybodaeth feddygol ychwanegol nad yw’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi’i gweld o bosib. Er enghraifft, llythyrau gan eich meddyg teulu neu arbenigwr a gawsoch ar ôl i chi ddychwelyd eich holiadur gallu i weithio. Gallwch ddod â chopïau os oes angen i chi gadw’r rhai gwreiddiol.

Os oes angen i chi gysylltu â darparwr eich asesiad

Gwiriwch eich llythyr i gael gwybod pwy yw eich darparwr asesiad a sut i gysylltu â nhw.

Gallwch hefyd ddod o hyd i'w manylion cyswllt ar eu gwefan:

Os nad ydych yn siŵr pwy yw eich darparwr asesiad gallwch ddod o hyd i’ch darparwr asesiad ar GOV.UK.

If you need adjustments at your assessment

Gwiriwch gyda’ch darparwr asesu bod gan y ganolfan yr ydych yn mynd iddi bopeth sydd ei angen arnoch. Os nad ydyw, gallwch eu ffonio neu eu e-bostio i ofyn am yr hyn sydd ei angen arnoch.

Dylech ofyn am unrhyw addasiadau ffisegol y gallai fod eu hangen arnoch. Er enghraifft, math penodol o gadair i eistedd arni yn ystod yr asesiad neu wrth i chi aros.

Os ydych chi’n teimlo’n bryderus mewn mannau caeedig, dylech ofyn pa mor llawn ydy’r ganolfan asesu. Os yw’r ystafelloedd neu’r coridorau’n fach, dywedwch wrthyn nhw y gallai hyn wneud i chi deimlo’n bryderus, a gweld a allan nhw wneud yr asesiad mewn ystafell fwy.

Os oes angen cyfieithydd iaith lafar neu Iaith Arwyddion Prydain arnoch, mae’n bwysig eich bod yn gofyn am un o leiaf 2 ddiwrnod cyn eich asesiad. Os na fyddwch chi, efallai na fydd un ar gael ar y diwrnod.

Gofyn am asesiad cartref

Os yw eich salwch neu'ch anabledd yn ei gwneud yn anodd neu'n amhosibl i chi deithio i asesiad, gallwch ofyn iddo gael ei wneud gartref yn lle hynny.

Bydd yr darparwr yn gofyn i chi roi tystiolaeth iddynt i egluro pam na allwch chi deithio. Er enghraifft, llythyr gan eich meddyg teulu neu weithiwr meddygol proffesiynol arall.

Gofyn i’ch asesiad gael ei recordio

Does dim rhaid i chi wneud hyn, ond os ydych chi am i’r asesiad gael ei recordio, dylech ofyn am hyn cyn gynted â phosibl cyn yr asesiad. Os ydynt yn gallu gwneud hyn, bydd y darparwr asesiad yn cofnodi sain yr asesiad yn unig.

Os oes angen cymorth arnoch gan ffrind neu aelod o’r teulu

Gallwch fynd â nhw i’r asesiad os ydych chi eisiau gwneud hynny.

Gallan nhw ddweud pethau ar eich rhan wrth y gweithiwr iechyd proffesiynol os ydych chi’n ei chael hi’n anodd. Er enghraifft, os oes gennych gyflwr iechyd meddwl sy’n ei gwneud yn anodd i chi siarad.

Gallant hefyd gymryd nodiadau fel bod gennych eich cofnod eich hun o'r hyn a ddigwyddodd yn yr asesiad. Mae unrhyw nodiadau a gymerant at eich defnydd preifat ac ni fyddant yn gofnod swyddogol o’r asesiad.

Cynllunio sut i gyrraedd eich asesiad

Dylech feddwl am sut y byddwch yn cyrraedd yno cyn dyddiad eich asesiad. Efallai y byddwch am wneud y canlynol:

  • caniatáu amser ychwanegol os ydych chi’n ei chael hi’n anodd symud o gwmpas

  • cynlluniwch eich llwybr fel eich bod yn gwybod beth i'w ddisgwyl - gallai hyn fod o gymorth os ydych yn teimlo bod bod mewn mannau cyhoeddus yn straen

  • gofyn i ffrind neu aelod o'r teulu eich helpu i gynllunio'r daith os na allwch chi wneud hynny eich hun

  • archebu eich teithiau ymlaen llaw - er enghraifft tocynnau trên

Hawlio eich costau teithio yn ôl

Gallwch gael eich costau teithio'n ôl i'ch cyfrif banc. Dewch â’ch manylion banc a’ch tocynnau teithio gyda chi i’r ganolfan asesu. Bydd y derbynnydd yn eich helpu i lenwi ffurflen hawlio.

Gallwch hefyd gael y costau’n ôl i unrhyw un sydd angen dod gyda chi. Os ydych chi am hawlio treuliau ar gyfer rhywun arall, rhowch wybod i'r darparwr asesiad cyn i chi drefnu unrhyw deithio.

Os ydych chi’n teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus

Dylech gadw:

  • tocynnau bws

  • tocynnau trên

  • tocynnau tramiau

  • unrhyw docynnau neu dderbynebau eraill sy’n dangos eich bod wedi talu i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus

Os ydych chi’n teithio mewn car

Gallwch hawlio eich costau tanwydd a pharcio yn ôl. Y gyfradd ar gyfer tanwydd yw 25c y filltir. Bydd y swm a gewch yn cael ei gyfrifo ar sail y pellter o'ch cartref i'r ganolfan asesu.

Dylech gadw eich tocynnau parcio neu dderbynebau.

Os mai dim ond mewn tacsi y gallwch chi deithio

Rhaid i chi ffonio’r darparwr asesiad os oes angen i chi gael tacsi i’r asesiad.

Bydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn edrych ar eich cais ac yn penderfynu a oes angen i chi gael tacsi. Os ydynt yn cytuno, gallwch hawlio eich tâl tacsi yn ôl.

Os bydd eich cais yn cael ei wrthod cyn eich asesiad, bydd y darparwr asesiad ond yn talu cost y daith gyfatebol ar drafnidiaeth gyhoeddus yn ôl i chi.

Dod â dogfen adnabod ac unrhyw feddyginiaeth sydd ei hangen arnoch

Bydd angen i chi ddod â dogfen adnabod gyda chi i’ch asesiad. Fel arfer, pasbort yw'r gorau. Os nad oes gennych basbort, bydd angen i chi fynd â 3 math gwahanol o ddogfen adnabod gyda chi. Gallwch ddefnyddio:

  • eich tystysgrif geni

  • eich trwydded yrru

  • datganiad banc diweddar sy'n dangos eich enw a'ch cyfeiriad

  • bil nwy neu drydan

Dylech hefyd ddod â:

  • unrhyw feddyginiaeth sydd ei hangen arnoch

  • unrhyw gymhorthion y byddwch yn eu defnyddio, er enghraifft sbectol, cymhorthion clyw neu ffon gerdded

Os na allwch chi fynd i’ch asesiad

Dylech ffonio’r darparwr asesiad a gohirio eich asesiad os na allwch chi fynd. Rhaid bod gennych reswm da dros beidio â mynd, er enghraifft eich bod yn sâl neu fod gennych argyfwng teuluol.

Os na fyddwch chi'n mynd i'ch asesiad heb reswm da a ddim yn rhoi gwybod i'r darparwr asesiad, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cymryd yn ganiataol eich bod yn ffit i weithio a bydd eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn dod i ben. Dylech ofyn am ailystyriaeth orfodol os ydych yn credu bod y penderfyniad yn anghywir.

Ar ôl eich asesiad

Nid yw'r gweithiwr iechyd proffesiynol yn gwneud y penderfyniad am eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth - bydd yn gwneud argymhelliad i'r Adran Gwaith a Phensiynau ar ôl eich asesiad. Yma, cewch wybod sut y byddwch yn cael eich penderfyniad ynghylch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar ôl asesiad.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 30 Ebrill 2020