Hawlio'r ESA steil-newydd
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Bydd angen i chi ddangos bod eich cyflwr meddygol yn ei gwneud hi'n anodd gweithio - gelwir hyn yn 'allu cyfyngedig i weithio'.
Os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, dylech gael nodyn ffitrwydd gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol sy'n eich trin.
Cael nodyn ffitrwydd
Gallwch gael nodyn ffitrwydd gan y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol canlynol:
eich meddyg teulu neu feddyg mewn ysbyty
nyrs gofrestredig
fferyllydd
therapydd galwedigaethol
ffisiotherapydd
Bydd eich nodyn ffitrwydd naill ai wedi'i argraffu neu'n ddigidol. Os nad ydych yn siŵr pa fath y byddwch yn ei gael a sut y byddwch yn ei gael, holwch y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.
Os cewch nodyn ffitrwydd wedi'i argraffu, gwiriwch fod y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol wedi'i lofnodi.
Os byddwch yn cael nodyn ffitrwydd digidol, gwiriwch ei fod yn cynnwys enw’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.
Os nad yw'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol naill ai wedi llofnodi'ch nodyn ffitrwydd neu wedi cynnwys ei enw, gallai'r DWP ei wrthod ac efallai y bydd yn rhaid i chi gael un newydd.
Mae eich nodyn ffitrwydd am ddim os ydych wedi bod yn sâl am fwy na 7 diwrnod pan ofynnwch amdano. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu amdano os ydych wedi bod yn sâl am 7 diwrnod neu lai.
Dylech bob amser gadw eich nodyn ffitrwydd - efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am un arall os byddwch yn ei golli neu ei ddileu. Gallwch roi copi i’r DWP neu dynnu llun ohono i’w uwchlwytho ar-lein.
Os na allwch gael nodyn ffitrwydd, siaradwch â chynghorydd.
Os yw'r DWP yn derbyn eich hawliad ESA
Fel arfer byddwch yn cael eich taliad ESA cyntaf ychydig wythnosau ar ôl gwneud cais.
Gallwch wirio faint o ESA y byddwch yn ei gael.
Fel arfer, bydd y DWP yn talu hyd at 3 mis o ESA i dalu am yr amser pan oedd gennych allu cyfyngedig i weithio cyn i chi wneud eich cais. Gelwir hyn yn 'dyddio'n ôl'.
Ni fyddwch fel arfer yn cael ESA ar gyfer y 7 diwrnod cyntaf yr oedd gennych allu cyfyngedig i weithio. Gelwir y rhain yn 'ddyddiau aros'.
Os ydych yn byw gyda phartner
Nid yw'ch partner yn effeithio ar faint o ESA y byddwch chi'n ei gael.
Os gallwch chi a'ch partner hawlio'r ESA steil-newydd, dylech gyflwyno ceisiadau ar wahân.
Os ydych yn cael tâl salwch gan eich cyflogwr
Os ydych chi’n cael eich cyflogi ond yn methu gweithio, fel rheol byddwch yn derbyn Tâl Salwch Statudol (SSP) gan eich cyflogwr am 28 wythnos – gwiriwch a allwch chi hawlio SSP.
Dim ond pan fydd eich SSP yn dod i ben y gallwch chi gael ESA, ond gallwch ei hawlio ymlaen llaw hyd at 3 mis cyn i'ch SSP ddod i ben. Bydd angen i chi ofyn i'ch cyflogwr lenwi ffurflen SSP1 – lawrlwythwch y ffurflen o GOV.UK.
Efallai y bydd eich cyflogwr hefyd yn talu ei dâl salwch ei hun i chi - a elwir fel arfer yn 'dâl salwch cytundebol' (CSP). Ni fydd cael CSP yn effeithio ar eich hawliad ESA.
Gwneud cais am yr ESA steil-newydd
Oherwydd y coronafeirws, mae'n rhaid i chi wneud cais am ESA steil- newydd ar-lein neu dros y ffôn.
Bydd angen i chi wneud hyn hyd yn oed os ydych ar Gredyd Cynhwysol. Ni allwch wneud cais am ESA trwy eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein mwyach.
Gallwch wneud cais ar-lein am ESA steil-newydd ar GOV.UK. Gofynnir rhai cwestiynau i chi yn gyntaf i sicrhau eich bod yn gymwys. Os ydych chi'n gymwys, gofynnir i chi lenwi ffurflen ar-lein.
Pan fyddwch chi'n ymgeisio, bydd angen:
eich rhif Yswiriant Gwladol - gwiriwch ble i ddod o hyd i'ch rhif Yswiriant Gwladol yn GOV.UK
eich rhif cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu a'ch cod didoli - os nad oes gennych gyfrif banc gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth eithrio taliadau ar GOV.UK
enw, cyfeiriad a rhif ffôn eich meddyg teulu
manylion eich incwm os ydych yn gweithio
y dyddiad y bydd eich SSP yn dod i ben os ydych yn ei hawlio
Pan fydd y ffurflen yn gofyn pa ddyddiad yr hoffech hawlio ESA, rhowch y dyddiad pan oedd gennych allu cyfyngedig i weithio gyntaf. Bydd angen i chi roi nodyn ffitrwydd i'r DWP o'r dyddiad hwnnw.
Bydd angen i chi wneud cais dros y ffôn os ydych yn 'benodai', sy'n golygu eich bod yn gwneud cais ar ran rhywun arall. Os na allwch ddefnyddio ffurflenni ar-lein, gallwch hefyd wneud cais dros y ffôn. Ffoniwch linell gymorth hawlio newydd y Ganolfan Byd Gwaith - dewiswch yr opsiwn ar gyfer yr ESA steil-newydd.
Pan fyddwch yn ffonio'r DWP efallai y byddant yn dweud wrthych am hawlio Credyd Cynhwysol hefyd - nid oes angen i chi wneud hyn i hawlio'r ESA steil-newydd. Os ydych am ddeall pa fudd-daliadau y gallwch eu cael cyn i chi ffonio'r DWP, gallwch ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau.
Peidiwch â theimlo dan bwysau gan y DWP i wneud cais am rywbeth nad ydych yn siŵr amdano - os nad ydych am hawlio Credyd Cynhwysol dywedwch wrthynt eich bod ond eisiau'r hawlio ESA steil- newydd.
Llinellau hawlio Canolfan Byd Gwaith
Ffôn: 0800 055 6688
Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744
Ffôn testun: 0800 328 1344
Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0800 055 6688
Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.
Fideo Relay - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Gallwch ddysgu sut i ddefnyddio fideo Relay ar YouTube.
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 5pm
Mae galwadau am ddim o ffonau symudol a llinellau tir.
Ar ôl i chi wneud cais
Bydd y DWP yn cysylltu â chi dros y ffôn neu lythyr i ddweud wrthych beth fydd yn digwydd nesaf. Efallai y gofynnir i chi fynd i gyfweliad wyneb yn wyneb yn y Ganolfan Byd Gwaith. Ffoniwch y Ganolfan Byd Gwaith os ydych chi'n poeni am gael cyfweliad wyneb yn wyneb. Bydd y rhif ar y gwahoddiad i'r cyfweliad - neu gallwch edrych am eu manylion cyswllt ar GOV.UK.
Gwiriwch y dyddiad gorffen ar eich nodyn ffitrwydd. Cyn y dyddiad gorffen, mynnwch nodyn ffitrwydd newydd os oes angen. Bydd angen i chi barhau i roi nodiadau ffitrwydd i'r DWP nes eu bod wedi eich asesu'n llawn.
Os derbynnir eich cais, ar ryw adeg yn ystod y misoedd nesaf, efallai y bydd y DWP yn gofyn i chi lenwi ffurflen o'r enw 'holiadur gallu i weithio' neu 'ESA50'. Bydd angen i chi gwblhau hyn er mwyn parhau i gael ESA - gwiriwch sut i lenwi'r ffurflen ESA50.
Os yw'r DWP yn gwrthod eich hawliad
Dylai'r DWP ddweud wrthych pam y gwrthodwyd eich cais. Os ydych chi'n credu bod y penderfyniad yn anghywir, gallwch herio'r penderfyniad.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 07 Ebrill 2020