Tystiolaeth feddygol

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Gallwch anfon tystiolaeth feddygol o'ch salwch neu'ch anabledd ynghyd â'ch holiadur gallu i weithio (ffurflen ESA50). Gall tystiolaeth feddygol roi gwell syniad i'r Adran Gwaith a Phensiynau o sut mae eich cyflwr yn effeithio ar eich gallu i weithio. Mae’n hawdd colli hyn ar y ffurflen ei hun.

Os ydych yn cynnwys tystiolaeth feddygol, dylech ei styffylu ar y ffurflen. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys eich enw a’ch rhif Yswiriant Gwladol ar bob dalen o bapur ar wahân.

Mae tystiolaeth feddygol ar dudalen 5 y ffurflen – gweld sut mae’n edrych

Os yw eich cyflwr wedi ei ddiagnosio, mae'n debyg y bydd gennych dystiolaeth eisoes. Gallwch hefyd gael mwy os oes angen, er enghraifft llythyr gan eich ymgynghorydd meddygol yn egluro sut mae eich cyflwr yn effeithio arnoch chi (beth allwch chi neu na allwch chi ei wneud oherwydd hynny).

Os nad oes diagnosis o’ch cyflwr, bydd angen i chi ddod o hyd i ffordd o ddangos sut mae’n effeithio ar eich gallu i weithio.

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am dystiolaeth feddygol. Ni fydd rhai mathau o dystiolaeth yn berthnasol, felly efallai na fydd yn helpu eich hawliad. Gofynnwch am help gan eich Cyngor ar Bopeth lleol - byddant yn eich helpu i benderfynu pa dystiolaeth i'w chynnwys gyda'ch ffurflen.

Os yw eich cyflwr wedi ei ddiagnosio

Os nad oes disgwyl i chi fyw mwy na blwyddyn

Y ffordd hawsaf o ddangos bod gennych salwch terfynol yw gofyn i'ch meddyg teulu neu feddyg neu ymgynghorydd meddygol arall lenwi ffurflen - mae'n cael ei galw'n 'SR1' neu 'DS1500'. Mae’r ffurflen hon yn rhoi tystiolaeth i’r Adran Gwaith a Phensiynau am eich salwch a’ch triniaeth.

Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os na allwch chi gael ffurflen. Defnyddiwch y manylion cyswllt ar unrhyw lythyrau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth rydych wedi’u derbyn. Byddant yn dal i allu edrych ar eich hawliad heb y ffurflen, ond efallai y bydd angen gwybodaeth arall gennych chi arnynt.

Dylech anfon tystiolaeth os yw’n cefnogi’r hyn rydych chi’n ei ddweud ar y ffurflen. Efallai ei fod wrth law yn barod - er enghraifft:

  • allbrint o’r feddyginiaeth rydych chi’n ei chymryd

  • canlyniadau pelydr-x

  • sganiau

  • taflen rhyddhau o’r ysbyty

  • cynllun gofal therapydd galwedigaethol

Os ydych chi’n cael problemau gyda’ch iechyd meddwl (fel iselder), dylech feddwl am unrhyw ddogfennau neu lythyrau sydd gennych gan bobl fel:

  • eich nyrs seiciatrig gymunedol (CPN)

  • eich therapydd galwedigaethol - er enghraifft cynllun gofal

  • cwnselwyr

  • therapydd gwybyddol

  • gweithwyr cymdeithasol

Gallai fod yn werth cael tystiolaeth feddygol newydd, er enghraifft:

  • os oes gennych salwch neu anabledd newydd

  • os yw eich salwch neu'ch anabledd wedi gwaethygu'n ddiweddar ac nad oes gennych unrhyw beth i'w brofi

  • os ydych chi wedi cael llawdriniaeth neu driniaeth a bod gennych sgil-effeithiau

  • os cafodd eich meddyginiaeth ei newid yn ddiweddar

  • rydych chi wedi cael eich cyfeirio at arbenigwr neu ymgynghorydd meddygol yn ddiweddar

Os nad yw eich cyflwr wedi ei ddiagnosio

Mae’r ffurflen yn dweud “peidiwch â gofyn am wybodaeth newydd na thalu amdani”, ond gallai fod yn syniad da cael tystiolaeth feddygol os nad yw eich salwch neu’ch anabledd wedi’i ddiagnosio.

Er enghraifft, efallai fod gennych symptomau anesboniadwy megis problemau gyda’ch stumog, blinder neu bendro - a gallai llythyr gan eich meddyg helpu i esbonio’r sefyllfa a sut y mae’n effeithio ar eich gallu i weithio.

Cael tystiolaeth feddygol newydd

Efallai y bydd rhai meddygon yn codi tâl arnoch am lythyr neu adroddiad newydd. Os na allwch chi fforddio talu, mae'n werth gofyn am gopïau o lythyrau neu nodiadau meddygol diweddar gan unrhyw arbenigwyr y maent wedi eich cyfeirio atynt - fel arfer mae'n rhaid iddynt roi copïau i chi am ddim. Gallech hefyd ddarparu llythyr gan eich partner neu ofalwr.

Mae’n syniad da cysylltu â’ch Cyngor ar Bopeth agosaf i gael help a chefnogaeth. Dylai rhywun o’ch Cyngor ar Bopeth lleol allu:

  • dweud wrthych a yw'n werth cael tystiolaeth feddygol, er enghraifft llythyr gan feddyg

  • eich helpu i gael gafael ar y dystiolaeth - a gwneud yn siŵr mai dyma'r dystiolaeth gywir ar gyfer eich hawliad

  • edrych ar y dystiolaeth feddygol a phenderfynu a ddylid ei hanfon at yr Adran Gwaith a Phensiynau - ni fydd rhai mathau o dystiolaeth feddygol yn berthnasol ac felly efallai na fyddant yn helpu eich cais

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn chwilio am bethau penodol iawn mewn tystiolaeth feddygol, ac mae gan Gyngor ar Bopeth lawer o brofiad yn y maes hwn.

Anfon tystiolaeth feddygol ar ôl i chi anfon eich holiadur gallu i weithio

Nid yw byth yn rhy hwyr i anfon tystiolaeth feddygol - rhaid i chi anfon yr holiadur ei hun yn ôl o fewn 28 diwrnod, ond gallwch anfon tystiolaeth unrhyw bryd wedyn. Cofiwch ei anfon at y Gwasanaeth Cynghori ar Asesiadau Iechyd, nid at y Ganolfan Byd Gwaith. Gallwch gael cyfeiriad eich Gwasanaeth Cynghori ar Asesiadau Iechyd lleol drwy ffonio 0800 288 8777 am ddim neu gallwch ddod o hyd i’r cyfeiriad ar eu gwefan.

Ysgrifennu llythyr eglurhaol

Mae'n bwysig eich bod yn ysgrifennu llythyr eglurhaol os byddwch yn anfon tystiolaeth feddygol ar ôl i chi ddychwelyd eich holiadur.

Dylech gynnwys y canlynol:

  • eich enw

  • eich rhif Yswiriant Gwladol

  • nodyn i ddweud bod y dystiolaeth yn cefnogi eich hawliad Lwfans Cyflogaeth a Chymorth - nodwch y dyddiad y gwnaethoch anfon eich holiadur

Y camau nesaf

Eich cyflyrau

Yn ôl i Help i lenwi eich ffurflen Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 07 Ebrill 2020