Os ydych chi'n hwyr yn anfon y ffurflen yn ôl

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae’r cwestiwn hwn ar dudalen 3 y ffurflen – gweld sut mae’n edrych

Rhaid i chi anfon eich ffurflen yn ôl o fewn 28 diwrnod i’w chael. Gallwch ddod o hyd i'r dyddiad y mae angen i chi ei dychwelyd ar y llythyr a ddaeth gyda'r ffurflen. 

Os na fyddwch yn gwneud hynny, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau fel arfer yn penderfynu eich bod yn ffit i weithio a bydd yn dod â'ch hawliad i ben.

Os ydych chi'n hwyr yn anfon y ffurflen yn ôl, rhaid i chi ei llenwi a'i hanfon cyn gynted ag y gallwch. Os oes gennych reswm da dros fod yn hwyr yn anfon y ffurflen, efallai y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn penderfynu ei derbyn.

Os yw'r Adran Gwaith a Phensiynau eisoes wedi ysgrifennu i ddweud na allwch chi gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, bydd angen i chi herio eu penderfyniad ac anfon eich ffurflen ESA50. Dylech wneud hyn o fewn 1 mis ar ôl y dyddiad ar frig y llythyr - gwiriwch sut i herio'r penderfyniad.

Dweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau pam eich bod yn hwyr

Llenwch y blwch i esbonio pam eich bod yn anfon y ffurflen yn hwyr. Dylech gynnwys cymaint o fanylion ag y gallwch ynghylch pam fod y ffurflen yn hwyr, er enghraifft:

  • os ydych chi wedi bod yn yr ysbyty

  • cawsoch chi argyfwng gartref

  • cawsoch brofedigaeth

Y camau nesaf

Tystiolaeth feddygol

Yn ôl i Cymorth i lenwi'ch ffurflen ESA

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 07 Ebrill 2020