Gwybodaeth arall

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae’r dudalen hon yn delio â rhoi gwybodaeth arall nad yw'n ffitio i unrhyw le arall ar y ffurflen.

Gallwch ddefnyddio tudalennau ychwanegol o bapur os nad oes digon o le yn y blwch. Rhowch nhw ynghlwm wrth eich holiadur gallu i weithio (ffurflen ESA50), a chynnwys eich enw a’ch rhif Yswiriant Gwladol.

Mae’r cwestiwn hwn ar dudalen 21 y ffurflen – gweld sut mae’n edrych

Gwnewch yn siŵr eich bod yn ysgrifennu rhif y cwestiwn wrth ymyl y wybodaeth ychwanegol rydych chi’n ei chynnwys.

Os gwnaeth rhywun eich helpu i lenwi’r ffurflen

Os gwnaeth rhywun eich helpu i lenwi’r ffurflen, mae’n bwysig dweud hyn. Defnyddiwch y blwch i egluro:

  • pwy wnaeth hyn - er enghraifft aelod o'r teulu, gofalwr neu gynghorydd

  • pam y gwnaethoch ofyn iddynt am gymorth

  • sut maen nhw wedi eich helpu chi

Sut roedd llenwi’r ffurflen yn gwneud i chi deimlo

Os oedd llenwi'r ffurflen wedi achosi poen i chi, mae'n bwysig dweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau. Defnyddiwch y blwch i egluro’r math o boen a pha mor hir y parhaodd.

Dylech hefyd egluro os oedd llenwi’r ffurflen yn gwneud i chi deimlo’n bryderus neu dan straen.

Os ydych yn cynnwys tystiolaeth feddygol

Os ydych chi'n anfon tystiolaeth feddygol, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhestru'r dogfennau rydych chi'n eu cynnwys. Gallwch gael mwy o help gyda hyn yn rhan "tystiolaeth feddygol" y ffurflen.

Y camau nesaf

Yn ôl i Help i lenwi eich ffurflen Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.