Eich meddyginiaeth ac unrhyw driniaeth arall

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) eisiau gwybod am eich meddyginiaeth ac unrhyw driniaeth rydych chi'n ei chael - bydd yn eu helpu i gael darlun gwell o'ch sefyllfa.

Mae’r cwestiwn hwn ar dudalen 7 y ffurflen – gweld sut mae’n edrych

Eich meddyginiaeth

Dylech restru’r tabledi ac unrhyw feddyginiaeth arall rydych chi’n ei chymryd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys:

  • unrhyw beth rydych chi wedi’i gael ar bresgripsiwn

  • unrhyw beth rydych chi’n ei brynu eich hun, fel poenladdwyr fel parasetamol

Dylech hefyd gynnwys:

  • y dos (faint rydych chi’n ei gymryd, er enghraifft 350mg) a pha mor aml rydych chi’n ei gymryd (fel 3 gwaith y dydd)

  • unrhyw sgil-effeithiau sydd gennych (er enghraifft, os yw tabledi penodol yn gwneud i chi deimlo'n sâl) - a beth rydych chi'n ei wneud amdanynt

  • unrhyw dabledi neu feddyginiaeth arall nad ydych yn eu cymryd eto, ond y byddwch yn eu cymryd yn y dyfodol

  • unrhyw beth rydych chi wedi rhoi'r gorau i'w gymryd oherwydd nad oedd yn gweithio neu wedi'ch gwneud yn waeth (gwnewch yn siŵr eich bod yn esbonio hyn ar y ffurflen)

Gallwch gael rhestr o’ch holl bresgripsiynau cyfredol gan eich meddyg neu gan eich fferyllydd os bydd eu hangen arnoch.

Y driniaeth rydych chi’n ei chael

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys:

  • y driniaeth rydych chi'n ei chael, er enghraifft dialysis - yn cynnwys triniaeth ysbyty a chlinig

  • ble rydych chi'n mynd i’w chael, er enghraifft enw'r ysbyty

  • pa mor aml rydych chi’n mynd, er enghraifft bob wythnos

  • os ydych chi’n cael triniaeth fel claf mewnol, pa mor aml rydych chi’n aros am

Dylech hefyd gynnwys:

  • unrhyw archwiliadau rheolaidd rydych yn eu cael, a pham eich bod yn eu cael - er enghraifft i adolygu eich meddyginiaeth ac o bosibl newid y dos

  • unrhyw lawdriniaeth rydych chi wedi’i chael ar gyfer y cyflyrau sy’n achosi anhawster i chi

  • unrhyw bigiadau sydd eu hangen arnoch

  • unrhyw therapi rydych chi’n ei gael, er enghraifft therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT) neu aciwbigo

  • sut rydych chi wedi ymateb i driniaeth, dyddiad unrhyw driniaethau neu ymchwiliadau yn y dyfodol – er enghraifft os na wnaethoch chi ymateb yn dda i lawdriniaeth ar y cefn, ac felly rydych chi i fod i gael sgan yn ystod y pythefnos nesaf

Hyd yn oed os nad ydych chi'n siŵr a yw'r driniaeth rydych chi wedi'i chael yn berthnasol, dylech ei chynnwys ar y ffurflen. Mae’n well rhoi gwybodaeth ychwanegol na pheidio cynnwys rhywbeth pwysig.

Aros dros nos ac ailsefydlu cleifion mewn cyfleusterau preswyl

Cwestiynau syml yw’r rhain – ticiwch y blychau os:

  • rydych chi’n cael neu’n aros am unrhyw driniaeth lle byddwch chi’n aros yn rhywle dros nos neu’n hirach

  • rydych chi ar gynllun adsefydlu preswyl neu ar fin dechrau cynllun o'r fath

Y camau nesaf

Cwestiwn 1 – symud o gwmpas a defnyddio stepiau

Yn ôl i Help i lenwi eich ffurflen Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.