Eich cyflwr iechyd, salwch neu anableddau

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae cyfle i chi ddweud mwy am eich salwch neu anabledd wrth anfon eich ffurflen ESA50 yn ôl.

Mae’r cwestiwn hwn ar dudalen 6 y ffurflen – dyma sut mae’n edrych

Beth i ysgrifennu

Dylech:

  • greu rhestr o’ch problemau iechyd, salwch ac anableddau - hyd yn oed os nad oedden nhw gennych chi pan wnaethoch chi’ch cais ESA yn wreiddiol

  • dweud pryd ddechreuon nhw (ceisiwch roi syniad o’r mis a’r flwyddyn)

  • dweud pryd gawsoch chi ddiagnosis (os ydych chi wedi cael un)

  • cynnwys problemau iechyd, salwch ac anableddau hyd yn oes nad oes gennych chi ddiagnosis neu brawf gan feddyg

Gwiriwch a oes gennych allu cyfyngedig i weithio yn awtomatig

Os oes gennych allu cyfyngedig i weithio yn awtomatig, ni fydd yn rhaid i chi fynd i asesiad meddygol ar ôl i chi anfon y ffurflen. Bydd angen i chi ysgrifennu ar y ffurflen y dylech 'gael eich trin fel petai gennych allu cyfyngedig i weithio'.

Mae gennych chi allu cyfyngedig i weithio yn awtomatig os ydych:

  • â llai na 12 mis i fyw

  • yn methu gweithio oherwydd eich bod wedi bod mewn cysylltiad â rhai mathau o haint neu halogiad - gan gynnwys coronafeirws

  • yn 'glaf mewnol' yn yr ysbyty neu adsefydlu am o leiaf 24 awr - neu rydych yn gwella yn dilyn eich arhosiad

  • yn cael triniaeth cyfnewid plasma

  • yn cael dialysis wythnosol ar gyfer methiant cronig yr arennau

Efallai y bydd gennych allu cyfyngedig i weithio yn awtomatig os ydych:

  • yn cael triniaeth canser, neu'n gwella ohono

  • yn ei chael hi'n anodd bwyta neu yfed

  • yn feichiog neu wedi rhoi genedigaeth yn ddiweddar

Os ydych chi'n cael triniaeth canser, neu'n gwella ohono

Mae'n debygol y byddwch â gallu cyfyngedig i weithio'n awtomatig os ydych:

● yn derbyn triniaeth cemotherapi neu radiotherapi

● yn debygol o ddechrau triniaeth yn ystod y 6 mis nesaf

● yn gwella ar ôl triniaeth

Efallai y bydd gallu cyfyngedig i weithio gennych hefyd os ydych yn derbyn triniaethau canser eraill - fel imiwnotherapi, triniaeth fiolegol neu driniaeth hormonaidd. Os ydych chi'n derbyn unrhyw un o'r triniaethau hyn ac mae'r DWP yn penderfynu nad oes gennych chi allu cyfyngedig i weithio, siaradwch â chynghorydd.

Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd bwyta neu yfed

Does dim ots pam fod angen help arnoch i fwyta neu yfed. Er enghraifft, efallai y byddwch chi'n anghofio bwyta neu mae bwyta'n boenus neu'n achosi straen i chi.

Byddwch â gallu cyfyngedig i weithio'n awtomatig os yw unrhyw un o'r canlynol yn wir:

● mae bwyta neu yfed yn brifo neu yn eich gwneud chi'n fyr eich gwynt

● mae'n rhaid i chi stopio a gorffwys sawl gwaith pryd bynnag y byddwch chi'n bwyta neu'n yfed

● mae angen rhywun arnoch i'ch annog i fwyta, neu i ddal ymlaen i fwyta

● mae angen rhywun arnoch i'ch helpu i fwyta neu yfed

Os ydych chi'n feichiog neu wedi rhoi genedigaeth yn ddiweddar

Os ydych chi'n feichiog, bydd gennych chi allu cyfyngedig i weithio'n awtomatig os bydd unrhyw un o'r rhain yn berthnasol i chi:

● mae risg ddifrifol i chi neu'ch babi os ydych yn gweithio

● rydych yn derbyn Lwfans Mamolaeth

● mae'r dyddiad geni disgwyliedig o fewn yr 6 wythnos nesaf ac ni allwch gael Tâl Mamolaeth Statudol neu Lwfans Mamolaeth

Os ydych wedi rhoi genedigaeth yn ystod y pythefnos diwethaf, bydd gallu cyfyngedig i weithio gennych yn awtomatig os na allwch chi gael Tâl Mamolaeth Statudol neu Lwfans Mamolaeth.

Disgrifiwch sut mae eich sefyllfa yn effeithio arnoch chi

Mae hefyd yn syniad da nodi ar y ffurflen:

  • unrhyw beth nad ydych chi’n gallu ei wneud ond roeddech yn gallu ei wneud o'r blaen, er enghraifft, roeddech chi'n arfer mynd i loncian ond dydych chi ddim yn gallu gwneud hynny mwyach

  • sut mae meddyginiaeth yn effeithio arnoch chi, er enghraifft, a ydych chi wedi cael unrhyw sgil-effeithiau

  • a ydych chi wedi rhoi'r gorau i weithio oherwydd eich iechyd, a pham (er enghraifft, allwch chi ddim rhagweld pryd fyddwch chi'n teimlo'n sâl, felly doedd dim modd i’ch cyflogwr gynllunio’ch shifftiau)

  • gwybodaeth am eich dyddiau da a dyddiau drwg, er enghraifft, os ydych chi'n ei chael hi'n anodd ymdopi 4 diwrnod allan o 7 - rydych chi’n cael 3 diwrnod da'r wythnos ond allwch chi ddim gwneud llawer ar y diwrnodau eraill heblaw gorffwys

Dylech hefyd esbonio a oes risg y gallai eich iechyd, neu iechyd rhywun arall, waethygu os:

Os yw'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn cytuno bod risg ddifrifol, efallai y byddan nhw'n penderfynu y gallwch chi gael ESA neu nad oes rhaid i chi wneud gweithgaredd cysylltiedig â gwaith - hyd yn oed os nad ydych chi'n cael digon o bwyntiau o'r ffurflen.

Bydd angen i chi ddangos bod y risg oherwydd eich salwch neu anabledd. Er enghraifft, efallai y bydd eich gorbryder neu iselder yn gwaethygu o lawer os na chawsoch ESA a bod yn rhaid i chi chwilio am swyddi.

Bydd angen i chi hefyd ddangos na allwch leihau'r risg gyda meddyginiaeth neu newidiadau yn y gwaith - fel cymryd seibiannau rheolaidd neu'ch cyflogwr yn prynu offer newydd.

Os yw'r risg yn deillio o beidio â chael ESA, dywedwch: "Mae hyn yn dod o dan amgylchiadau eithriadol rheoliad 29."

Os yw'r risg yn deillio o orfod gwneud gweithgaredd sy'n gysylltiedig â gwaith, dywedwch: "Mae hyn yn dod o dan amgylchiadau eithriadol rheoliad 35."

Sut mae’ch cyflwr yn amrywio dros amser

Mae’n bwysig iawn eich bod chi’n dweud wrth DWP sut mae’ch salwch neu anabledd yn amrywio dros amser.

Os yw’ch salwch neu anabledd yn dilyn patrwm gan amlaf (er enghraifft, mae gennych chi anhwylder deubegynol, a’ch bod yn cael cyfnodau o deimlo’n uchel ac yn isel sy’n newid yn wythnosol), cofiwch nodi hynny.

Os yw’ch patrymau’n fwy anwadal, mae’n gallu bod yn anodd i’w hesbonio. Gallech ysgrifennu rhywbeth tebyg i hyn yn y bocs ‘gwybodaeth ychwanegol’ o dan bob cwestiwn:

“Byddaf yn esbonio sut mae fy nghyflwr yn effeithio arnaf o ddydd i ddydd o dan bob cwestiwn yng ngweddill y ffurflen.”

Os yw’ch cyflwr yn gysylltiedig â chyffuriau neu alcohol

Os oes unrhyw salwch neu anabledd sydd gennych chi’n gysylltiedig â phroblemau alcohol neu gyffuriau, mae’n bwysig i chi nodi hynny.

Dylech nodi pa gymorth neu driniaeth rydych chi’n eu cael. Os ydych chi’n aros am atgyfeiriad, neu os nad ydych chi wedi cael cynnig unrhyw gymorth, dylech ddweud hynny.

Y cymhorthion rydych chi’n eu defnyddio

Dylech nodi os ydych chi’n defnyddio pethau fel:

  • ffon gerdded neu ffrâm cerdded

  • canllawiau yn y bath – nodwch pryd gawsoch chi nhw wedi’u gosod

  • cadair olwyn

  • cymhorthion clyw

  • sedd toiled wedi’i chodi

  • cymhorthion gweledol

  • unrhyw offer i’ch helpu i wisgo

Camau nesaf

Eich meddyginiaeth a thriniaeth

Yn ôl i Cymorth i lenwi’ch ffurflen ESA

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 07 Ebrill 2020