C7 - cyfathrebu (clywed a darllen)
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae’r cwestiwn hwn ar dudalen 11 y ffurflen – dyma sut mae’n edrych
Sut mae ateb y cwestiwn
Mae’r cwestiwn hwn ynglŷn ag a ydych chi’n cael anawsterau deall beth mae pobl yn ei ddweud wrthych chi, ac a ydych chi’n cael problemau darllen.
Os ydych chi’n defnyddio cymorth, fel teclyn clyw, dylech ateb y cwestiynau fel pe baech yn ei ddefnyddio.
Gallwch egluro’r cymhorthion rydych chi’n eu defnyddio a sut maen nhw’n eich helpu yn y bocs ar y ffurflen.
"Allwch chi ddeall negeseuon syml gan bobl eraill drwy wrando neu ddarllen gwefusau heb help gan rywun arall?"
Na
Gallaf
Mae’n amrywio
Peidiwch â theimlo cywilydd os ydych chi’n gorfod ticio “nac ydw”, er enghraifft:
os ydych chi’n fyddar neu’n colli eich clyw ac nad ydych chi’n gallu darllen gwefusau
os ydych chi’n gallu darllen gwefusau pobl rydych chi’n eu hadnabod, ond ddim pobl ddieithr
os ydych chi angen cyfieithydd iaith arwyddion
os ydych chi’n camddeall pethau o bryd i’w gilydd
"Allwch chi ddeall negeseuon syml gan bobl eraill drwy ddarllen print bras neu drwy ddefnyddio Braille?"
Na
Gallaf
Mae’n amrywio
Eto, peidiwch â theimlo cywilydd, os ydych chi’n gorfod ticio “nac ydw”, er enghraifft os oes gennych chi nam ar y golwg ac nad ydych chi’n defnyddio braille.
Beth i ysgrifennu yn y bocs
Mae’n bwysig eich bod yn dweud mwy wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau drwy egluro eich sefyllfa yn y bocs.
Os ydych chi'n defnyddio unrhyw gymhorthion i'ch helpu i ddeall pobl eraill, neu'ch helpu i ddarllen, rhowch y manylion yn y bocs.
Enghreifftiau o gymhorthion y gallech chi eu defnyddio:
fformatau Braille, print mawr neu sain
goleuadau arbennig i’ch helpu i ddarllen
teclyn clyw neu laryncs electronig
ffôn testun neu gyfarpar chwyddo sain i’ch helpu i glywed
Yn ogystal ag ysgrifennu am gymhorthion sy’n eich cynorthwyo, mae’n bwysig egluro pethau fel:
a yw’n cymryd llawer o amser i ddarllen rhywbeth, neu i ddeall rhywun
os ydych chi’n defnyddio cyfieithydd iaith arwyddion, a beth fyddai’n digwydd pe na bai un gennych
os yw rhywun yn darllen pethau i chi, neu’n egluro beth mae eraill wedi’i ddweud
sut mae methu gallu darllen rhywbeth neu glywed rhywun wedi achosi problemau i chi
sut rydych chi’n teimlo pam nad ydych chi’n gallu deall yr hyn sy’n cael ei ddweud neu ei ysgrifennu
Meddai Liam: "Rydw i wedi fy niagnosio yn fyddar felly rydw i’n ceisio darllen gwefusau. Rydw i’n ceisio darllen gwefusau rhywfaint os ydw i’n adnabod y person yn dda, ond dydw i ddim yn gallu deall pobl ddieithr yn iawn. Dydw i ddim yn deall beth mae’r person wrth y til yn ei ddweud wrth siopa. Roedd gen i gywilydd mawr yr wythnos diwethaf gan fy mod i am gael rhywbeth yn fy maint ond doeddwn i ddim yn deall beth oedd y cynorthwyydd yn ei ddweud, felly gadewais y siop heb y peth oedd ei angen arna i.”
Camau nesaf
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.