C6 - cyfathrebu (siarad, ysgrifennu a theipio)
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae’r cwestiwn hwn ar dudalen 11 y ffurflen – dyma sut mae’n edrych
Sut mae ateb y cwestiwn
Mae’r cwestiwn hwn yn gofyn a ydych chi’n ei chael hi’n anodd cael pobl i’ch deall chi.
Mae’n ymwneud ag anawsterau corfforol, er enghraifft cael atal dweud, bod yn hollol fyddar neu fod â pharlys yr ymennydd.
Nid yw’n ymwneud ag effeithiau problem iechyd meddwl fel gorbryder.
"Allwch chi gyfathrebu neges syml â phobl fel presenoldeb rhywbeth peryglus?"
Na
Gallaf
Mae’n amrywio
Gyda’r cwestiwn hwn, peidiwch â meddwl dweud wrth rywun am rywbeth peryglus yn unig.
Er enghraifft, allech chi archebu’r hyn hoffech chi mewn caffi? Gallai hyn fod naill ai drwy ddweud yr hyn yr hoffech chi neu ei nodi ar bapur.
Peidiwch â bod â chywilydd os ydych chi’n gorfod ticio “nac ydw”, er enghraifft os nad ydych chi’n gallu cyfleu neges syml oherwydd:
y byddech chi angen help gan rywun arall, fel cyfieithydd iaith arwyddion
y byddech chi’n cael anhawster siarad, bod cyfyngiadau ar eich lleferydd, neu dydych chi ddim yn gallu siarad
nad ydych chi’n gallu siarad yn ddigon uchel neu am ddigon hir i gael sylw rhywun
bod siarad, ysgrifennu neu deipio yn achosi poen i chi neu’n eich gwneud yn fyr eich gwynt
Beth i ysgrifennu yn y bocs
Mae’n bwysig eich bod yn dweud mwy wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau drwy egluro’ch sefyllfa yn y bocs.
Rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch chi am eich anawsterau yn cyfathrebu â phobl. Er enghraifft, eglurwch
os nad yw pobl yn eich deall - rhowch enghreifftiau os gallwch chi
sut mae’n gwneud i chi deimlo pan nad yw rhywun yn eich deall
os ydych chi’n osgoi cyfathrebu am ei fod yn anodd, yn cymryd rhy hir, neu’n eich gwneud yn rhwystredig
a oes rhywun yn eich helpu i gyfathrebu, a sut maen nhw’n eich helpu chi
pa mor aml rydych chi’n cael anawsterau
a ydych chi’n cael dyddiau da a dyddiau drwg, a beth yw’r gwahaniaethau
Meddai Sheena: "Mae gen i atal dweud gwael sy’n gwaethygu pan fydda i dan bwysau. Mae’n gylch dieflig gan fy mod i’n teimlo dan bwysau pan nad ydw i’n gallu cael fy ngeiriau allan.
Fel arfer, rydw i’n llwyddo i siarad â phobl rydw i’n eu hadnabod yn dda ond hyd yn oed wedyn byddaf yn gorfod nodi pethau ar bapur o bryd i’w gilydd fel eu bod nhw’n deall. Os ydw i’n gorfod siarad â phobl ddieithr, gall fy atal fod mor ddrwg fel nad yw pobl yn fy neall. Roeddwn i mor rhwystredig unwaith fel i mi gael pwl o banig.”
Camau nesaf
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.