C4 – codi a symud pethau
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae’r cwestiwn hwn ar dudalen 10 y ffurflen – dyma sut mae’n edrych
Sut mae ateb y cwestiwn
Meddyliwch am eich llaw gryfaf os oes un yn gryfach na’r llall.
“Allwch chi godi a symud carton hanner litr (un peint) yn llawn hylif?”
Na
Gallaf
Mae’n amrywio
Ceisiwch godi peint o laeth neu wydraid peint o ddŵr. Peidiwch â phoeni os ydych chi’n gorfod ticio “na”, er enghraifft:
os nad ydych chi’n gallu ei godi – efallai y bydd yn rhaid i chi ei dynnu tuag atoch yn lle hynny
os yw’n achosi poen i chi – er enghraifft yn eich dwylo, bysedd, ysgwyddau neu wddf
os nad ydych chi’n gallu symud yn rhwydd – y byddech chi’n ei ollwng yn y pen draw
“Allwch chi godi a symud carton litr (dau beint) yn llawn hylif?”
Na
Gallaf
Mae’n amrywio
Unwaith eto, peidiwch â theimlo cywilydd am orfod ticio "na". Rhowch gynnig ar godi carton 2 beint o laeth os nad ydych chi'n siŵr.
"Allwch chi godi a symud rhywbeth mawr ond ysgafn, fel blwch cardbord gwag?"
Na
Gallaf
Mae’n amrywio
Mae’n iawn os nad ydych chi’n gallu gwneud hyn – ond mae’n bwysig ticio “na”.
Nid am focsys cardbord yn unig y mae’r cwestiwn hwn. Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau am wybod pa mor hawdd yw hi i chi symud unrhyw beth sy’n fawr ac ysgafn, felly ceisiwch feddwl am:
symud bocs o hancesi yn agosach atoch chi
symud gobennydd o un ochr i’r llall
Beth i ysgrifennu yn y bocs
Dylech egluro yn y bocs:
sut ydych chi’n codi a symud pethau fel arfer
ydy codi pethau a symud pethau yn achosi poen neu anghysur i chi - er enghraifft yn eich dwylo, bysedd, ysgwyddau neu wddf
am faint mae’r boen yn para, a pha mor ddrwg yw’r boen (os yw codi a symud pethau yn achosi poen i chi)
ydy codi a symud pethau yn eich gwneud yn fyr eich gwynt, yn benysgafn neu’n flinedig
Dylech hefyd feddwl am (ac egluro):
beth sy’n digwydd os ydych chi’n codi a symud pethau mwy nag unwaith
beth sy’n digwydd ar ddyddiadau da a dyddiau drwg
a ydych chi’n gollwng pethau – gallech chi roi enghraifft, a dweud beth ddigwyddodd ar ôl i chi ollwng rhywbeth (e.e. roedd yn rhaid i chi fynd i’r Uned Damweiniau ac Achosion Brys)
os ydych chi’n cael trafferth symud pethau’n rhwydd, a sut mae hyn yn effeithio ar y ffordd rydych chi’n codi pethau.
Meddai Denise: “Cefais strôc 2 flynedd yn ôl a chollais ddefnydd o’m braich chwith, mae gen i arthritis yn fy ngarddwrn arall hefyd. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd i mi godi pethau, yn enwedig pethau bach fel darnau arian. Yr wythnos diwethaf fe wnes i drio tywallt diod i fi fy hun o garton roedd fy ngŵr wedi’i agor. Llwyddais i’w godi ond saethodd poen i fyny fy ngarddwrn a gollyngais y carton ar y llawr. Tasgodd y sudd i bob man ac roedd yn rhaid i mi aros i’m gŵr ddod adref i’w glirio.”
Camau nesaf
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.