C3 - Ymestyn
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae’r cwestiwn hwn ar waelod tudalen 9 y ffurflen –
Mae’r cwestiwn hwn ar waelod tudalen 9 y ffurflen – dyma sut mae’n edrych
Sut mae ateb y cwestiwn
Mae’r cwestiwn ynglŷn ag a allwch chi ymestyn i fyny gyda’r naill fraich neu’r llall, yn uwch na’ch gwasg. Dyw ddim yn golygu estyn i lawr neu i’r ochr.
Meddyliwch a yw’n anodd i chi:
olchi neu frwsio eich gwallt
gwisgo eich hanner uchaf
rhoi’r golch ar y lein
nôl rhywbeth o gwpwrdd uchel
Peidiwch â theimlo cywilydd am eich atebion – os ydych chi’n cael trafferth codi braich, mae’n bwysig bod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gwybod hyn.
“Allwch chi godi o leiaf un fraich yn ddigon uchel i roi rhywbeth ym mhoced uchaf eich cot neu siaced tra’ch bod yn ei gwisgo?”
Na
Gallaf
Mae’n amrywio
Wrth benderfynu sut mae ateb gallai’ch helpu i feddwl:
pa mor anodd ydych chi’n ei chael hi i gyrraedd poced
a allech chi wneud hynny fwy nag unwaith, a beth fyddai’n digwydd pe baech chi’n ceisio gwneud hynny dro ar ôl tro
a fyddai cyrraedd poced yn achosi poen i chi, pa mor wael yw’r boen a sut byddai’n effeithio arnoch chi
"Allwch chi godi un fraich yn uwch na’ch pen?"
Na
Gallaf
Mae’n amrywio
Wrth benderfynu sut mae ateb gallai’ch helpu i feddwl:
pa mor anodd yw hynny i chi
a fyddai’n achosi poen, pa mor ddrwg yw’r boen a sut byddai’n effeithio arnoch chi
a allech chi ei wneud fwy nag unwaith, a beth fyddai’n digwydd pe baech chi’n ceisio ei wneud dro ar ôl tro
Beth i ysgrifennu yn y bocs
Mae’n bwysig dweud mwy wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau drwy egluro’ch sefyllfa yn y bocs.
Defnyddiwch y bocs gwag i egluro beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n ceisio codi’ch breichiau. Er enghraifft:
os ydych chi wastad yn cael trafferth, neu os yw’r ffordd mae’ch cyflwr yn effeithio arnoch chi yn newid – er enghraifft 4 allan o 7 diwrnod
sut mae’n teimlo pan rydych chi’n ceisio codi un o’ch breichiau
os yw’n achosi poen i chi, pa mor ddifrifol yw’r boen a sut mae’n effeithio arnoch chi
os ydych chi angen cymorth gan rywun arall ar gyfer pethau penodol – fel golchi eich gwallt
pa mor aml ydych chi angen cymorth, a gyda beth rydych chi angen cymorth
os ydych chi’n cael dyddiau da a dyddiau drwg, a’r gwahaniaeth rhyngddynt
beth sy’n digwydd os ydych chi’n ceisio estyn ar ddiwrnod gwael
Meddai Stephen: “Dydw i ddim yn gallu symud llawer ar fy ysgwyddau ac rydw i'n methu estyn i gael pethau allan o’r cwpwrdd. Mae fy ngŵr yn gadael brechdan i mi ar blât ar y cownter i mi ei chael i ginio. Mae hefyd yn gorfod glanhau fy nannedd i mi bob dydd. Mae’n rhy boenus i mi wneud hynny fy hun. Rydw i wedi torri fy ngwallt yn fyr fel ei bod hi’n haws i fy ngŵr ei frwsio.”
Camau nesaf
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.