C2 – sefyll ac eistedd
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae’r cwestiwn hwn ar dudalen 9 y ffurflen – dyma sut mae’n edrych
Sut mae ateb y cwestiwn
Mae’r cwestiwn hwn am sut mae’ch salwch neu’ch anabledd yn effeithio ar eich gallu neu anadlu i symud seddi, eistedd a sefyll.
“Allwch chi symud o un sedd i un arall sy’n union wrth ei hymyl, heb gael help gan rywun arall?”
Na
Gallaf
Mae’n amrywio
Meddyliwch a fyddech chi’n gallu eistedd mewn cadair swyddfa y gellir ei haddasu, yn hytrach na chadair freichiau neu unrhyw sedd arall y byddech chi’n ei defnyddio yn eich cartref.
Os ydych chi’n defnyddio cadair olwyn, meddyliwch a ydych chi angen cymorth corfforol i symud o’ch cadair olwyn i sedd wahanol neu i’r car.
Peidiwch â theimlo cywilydd os oes rhaid i chi dicio “na”, er enghraifft:
eich bod angen rhywun i’ch helpu
eich bod yn simsanu ac yn disgyn heb help rhywun
y byddech chi’n cael trafferth symud seddi fwy nag unwaith mewn diwrnod heb gymorth gan rywun arall – efallai am y byddai hynny’n anghyfforddus, yn boenus, neu’n eich gadael yn fyr eich gwynt neu wedi blino
"Tra rydych yn sefyll neu’n eistedd (neu gyfuniad o’r ddau) pa mor hir gallwch chi aros mewn un lle yn ddi-boen heb gymorth unrhyw berson arall?”
Llai na 30 munud
30 munud i awr
Mwy nag awr
Mae’n amrywio
Meddyliwch am amser pan rydych chi’n aros am fws neu apwyntiad meddyg – ac a oes yn rhaid i chi wneud pethau fel codi bob 10 munud i ymdopi â’r boen o eistedd a sefyll.
Ceisiwch beidio â goramcangyfrif am faint gallwch chi sefyll, eistedd neu eistedd a sefyll. Er enghraifft, os ydych chi’n eistedd ar gadair gartref efallai y bydd yn rhaid i chi sefyll ar ôl rhai munudau, heb sylwi pa mor aml rydych chi’n gwneud hynny.
Peidiwch â theimlo cywilydd os oes yn rhaid i chi dicio “llai na 30 munud”, er enghraifft os:
na allwch chi sefyll am y cyfnod hwnnw oni bai bod gennych chi 2 ffon neu faglau – a hefyd os na allwch chi eistedd am 30 munud
ar ôl 30 munud y byddech chi mewn poen, ond y byddech chi’n gorfodi eich hun drwy’r boen.
Beth i ysgrifennu yn y bocs
Mae’n bwysig eich bod yn dweud mwy wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau drwy egluro’ch sefyllfa yn y bocs.
Dylech egluro pethau fel:
os yw’n anodd i chi newid o sefyll i eistedd i lawr, neu o eistedd i sefyll – a beth sy’n ei wneud yn anodd i chi
pe baech chi angen gwneud rhywbeth ar ôl eistedd neu sefyll am rhy hir, er enghraifft, lleddfu’r boen drwy orwedd
pa broblemau sydd gennych chi wrth eistedd neu sefyll yn rhy hir - fel teimlo’n sâl, blinder, trafferth anadlu, poenau yn y cyhyrau neu boenau yn y cymalau
pam mae gennych chi broblemau, er enghraifft mae eich cefn poenus yn ei gwneud yn anodd i chi gadw’ch cydbwysedd
a ydych chi’n methu eistedd mewn rhai ffyrdd gan fod hynny'n achosi poen i chi
Meddai Natalie: "Roeddwn i mewn damwain car a chefais anaf i’m gwddf. Rydw i’n defnyddio ffon gerdded i symud o gwmpas fel arfer. Rydw i’n cael trafferth eistedd yn gyfforddus ac yn methu eistedd am gyfnod hir. Mae angen i mi godi a symud o gwmpas bob 15 i 20 munud, neu bydd fy nghorff yn cloi."
Camau nesaf
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.