C16 - ymdopi â sefyllfaoedd cymdeithasol
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae’r cwestiwn hwn ar dudalen 17 y ffurflen – dyma sut mae’n edrych
Sut mae ateb y cwestiwn
Mae’r cwestiwn yma’n gofyn sut rydych chi’n ymdopi â chyfarfod a siarad â phobl.
Mae’n gofyn ydych chi’n cael trafferth ymwneud â phobl, neu os yw cyfarfod a siarad â phobl yn achosi pryder mawr i chi.
Efallai mai dyma un o’r rhesymau pam rydych chi’n cael trafferth:
mae gennych chi gyflwr fel awtistiaeth sy’n golygu ei bod hi’n anodd ymwneud â phobl
mae gennych chi anabledd dysgu
mae gennych chi broblemau gyda dicter neu ymddygiad ymosodol
mae gennych chi gyflwr iechyd meddwl
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn ceisio deall:
ydych chi’n cael trafferth gyda phobl rydych chi’n eu hadnabod
ydych chi’n cael trafferth gyda phobl dydych chi ddim yn eu hadnabod
pa mor aml ydych chi’n cael problemau - dryw’r amser neu’r rhan fwyaf o’r amser
“Allwch chi gwrdd â phobl rydych yn eu hadnabod heb deimlo'n rhy bryderus neu ofnus?”
Na
Gallaf
Mae’n amrywio
Gallai hyn fod yn rhywun rydych chi wedi ei gyfarfod o’r blaen fel eich meddyg, eich cymdogion neu ffrindiau - nid dim ond pobl rydych chi’n agos atyn nhw.
Peidiwch â theimlo cywilydd os oes rhaid i chi dicio “na”, er enghraifft:
os yw gweld pobl rydych chi’n eu hadnabod yn eich gwneud chi’n bryderus neu’n ofnus, er enghraifft, oherwydd ei fod yn gwneud i chi deimlo dan straen neu’n nerfus
os ydych chi’n osgoi cwrdd â phobl
“Allwch chi gwrdd â phobl ddieithr heb deimlo'n rhy bryderus neu ofnus?
Na
Gallaf
Mae’n amrywio
Gallai hyn fod yn rhywun fel gweithiwr wrth y til mewn siop, person yn y ciw bws neu gymydog nad ydych chi wedi cwrdd â nhw o’r blaen. Meddyliwch sut fyddech chi’n teimlo pe bai angen i chi ddelio â’r cyhoedd mewn swydd, er enghraifft mewn siop neu westy.
Efallai bydd angen i chi dicio “na”:
os yw siarad â phobl ddieithr yn eich gwneud chi’n ofnus neu’n bryderus, er enghraifft oherwydd ei fod yn gwneud i chi deimlo dan straen neu’n nerfus
os ydych chi’n ceisio osgoi cwrdd a siarad â phobl newydd
os ydych chi’n ceisio peidio mynd allan oherwydd eich bod chi ddim eisiau gweld pobl
Efallai bydd angen i chi dicio ‘mae’n amrywio’ os yw dod ar draws pobl doeddech chi ddim yn disgwyl eu gweld yn eich gwneud chi’n bryderus neu’n ofnus, ond rydych chi’n iawn pan fyddwch chi’n trefnu i gwrdd â nhw.
Os yw hyn yn wir, yna eglurwch beth sy’n digwydd a sut mae’n gwneud i chi deimlo yn y bocs.
Beth i ysgrifennu yn y bocs
Mae’n bwysig eich bod chi’n dweud mwy wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) trwy esbonio’ch sefyllfa yn y bocs.
Defnyddiwch y bocs gwag i esbonio sut rydych chi’n teimlo am dreulio amser gyda phobl eraill. Er enghraifft:
sut rydych chi’n teimlo pan fydd rhaid i chi gwrdd â phobl a siarad â nhw
os ydych chi’n ei chael hi’n anodd ymwneud â phobl - sut maen nhw’n ymateb i chi, a sut mae hynny’n gwneud i chi deimlo
pa mor aml rydych chi’n osgoi gweld neu gyfarfod â phobl
ydych chi’n ei gweld hi’n haws cwrdd â phobl eraill os oes rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo gyda chi
ydych chi’n cael dyddiau da a dyddiau gwael
os byddech chi’n gallu ymdopi â chyfarfod neu siarad â mwy nag un person ar y tro
os yw’n effeithio arnoch chi’n gorfforol, er enghraifft yn gwneud i chi deimlo’n boeth, yn flin neu’n chwil
Meddai Keisha: “Dwi ddim yn gallu edrych i lygaid a siarad â’m ffrindiau - maen nhw’n bobl roeddwn i’n arfer eu gweld drwy’r amser. Mae gadael y tŷ yn amhosib i fi oherwydd does gen i ddim hyder o gwbl a fyddwn i ddim yn gallu ymdopi â hynny, hyd yn oed pe bawn i’n cael ychydig wythnosau i baratoi ar gyfer hynny. Fyddwn i ddim yn gallu ymdopi pe bai fy meddyg teulu’n gadael, a meddyg newydd yn dod yn ei le - byddai fy mhỳls yn rasio’n gyflym a byddwn i’n cael pwl o banig.”
Camau nesaf
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.