C14 - ymdopi â newid
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae’r cwestiwn yma ar dudalen 16 y ffurflen – dyma sut mae’n edrych
Sut mae ateb y cwestiwn
Mae’r cwestiwn yma’n gofyn beth sy’n digwydd a sut rydych chi’n teimlo os yw’ch patrwm arferol neu’ch cynlluniau’n newid.
“Allwch chi ymdopi gyda newidiadau bach i'ch trefn os ydych yn gwybod amdanynt cyn iddynt ddigwydd?"
Na
Gallaf
Mae’n amrywio
Meddyliwch am orfod bwyta cinio ar adeg wahanol i’r arfer - neu daith bws a gafodd ei newid o flaen llaw i ddilyn llwybr gwahanol ar eich siwrnai adref.
Peidiwch â theimlo cywilydd os oes rhaid i chi dicio “na”, er enghraifft:
os na allwch chi ymdopi â newid o gwbl - hyd yn oed os cewch eich rhybuddio amdano
os yw newid yn gwneud i chi fynd i’ch cragen a gwrthod help
os yw newid yn effeithio ar eich ymddygiad chi
os oes newid yn eich rhwystro chi rhag bod yn chi’ch hun, er enghraifft, mae angen i rywun eich tawelu chi ac mae’n effeithio arnoch chi drwy’r dydd
“Allwch chi ymdopi â newidiadau bach i'ch trefn os nad ydych yn eu disgwyl?"
Na
Gallaf
Mae’n amrywio
Meddyliwch os yw’ch bws neu’ch trên chi chwarter awr yn hwyr, neu ffrind neu ofalwr yn dod i’ch tŷ chi’n gynharach neu’n hwyrach na’r hyn gafodd ei drefnu.
Peidiwch â theimlo’n wael os oes rhaid i chi dicio “na”, er enghraifft os yw’n cymryd llawer o waith trefnu a pharatoi meddyliol i fod yn barod ar gyfer rhywbeth - a’ch bod chi’n ei chael hi’n anodd ymdopi os yw’n cael ei ganslo.
Beth i ysgrifennu yn y bocs
Mae’n bwysig eich bod chi’n dweud mwy wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) trwy esbonio’ch sefyllfa yn y bocs.
Dylech chi esbonio pethau fel:
ydych chi’n cael trafferth ymdopi â newidiadau i’ch diwrnod sydd wedi’u trefnu o flaen llaw
ydych chi’n methu ymdopi â newidiadau sydyn
ydy’ch meddyginiaeth chi’n effeithio ar sut rydych chi’n ymdopi â newid
sut rydych chi’n ymdopi â newid - defnyddiwch enghreifftiau, os gallwch chi
pe bai eich patrwm arferol yn newid, sut fyddai hynny’n effeithio ar eich diwrnod chi, er enghraifft, fyddech chi’n gallu gwneud y pethau roeddech chi wedi’i bwriadu eu gwneud
pa mor aml fyddai newid fel hyn yn effeithio arnoch chi
unrhyw beth rydych chi’n ei osgoi oherwydd problemau posibl, er enghraifft, os ydych chi’n osgoi cwrdd â ffrindiau am bryd o fwyd oherwydd y byddech chi’n teimlo’n flin os na fyddech chi’n gallu eistedd ger y ffenest
Meddai Jennifer: “Rwy’n ei chael hi’n anodd iawn ymdopi â newid. Er enghraifft, roeddwn wedi trefnu i fynd i dŷ fy ffrind, Siân i’w gweld hi, ond cafodd y bws ei ganslo - roeddwn i’n bryderus am weddill y dydd ac yn methu bwyta, felly roedd rhaid i Siân fy ffrind ddod draw i’m tawelu a choginio bwyd i fi.
Hefyd wythnos diwethaf, roeddwn i wedi gorffen fy hoff rawnfwyd ac es i i’r siop leol - doedd ganddyn nhw ddim ar ôl chwaith, a doeddwn i ddim yn gallu gwneud dim byd am weddill y dydd oherwydd fy mod i’n poeni cymaint.”
Camau nesaf
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.