C13 – dechrau a darfod tasgau
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae’r cwestiwn hwn ar waelod tudalen 15 y ffurflen – dyma sut mae’n edrych
Sut mae ateb y cwestiwn
Mae’r cwestiwn hwn yn holi a ydych chi’n gallu cynllunio, trefnu a chwblhau o leiaf 2 dasg bob dydd, un ar ôl y llall.
Nid yw’r Adran Gwaith a Phensiynau yn gofyn am eich problemau corfforol yn y cwestiwn hwn. Maen nhw eisiau gwybod a oes gennych chi gyflwr iechyd meddwl sy’n effeithio ar eich gallu i ddechrau a darfod tasgau bob dydd.
"Allwch chi gynllunio, dechrau a gorffen tasgau bob dydd?"
Byth
Weithiau
Mae’n amrywio
Mae tasgau bob dydd yn cynnwys pethau fel:
cael cawod
gwisgo
casglu presgripsiwn
paratoi pryd syml
smwddio dillad
talu bil
gwneud apwyntiadau
Meddyliwch a allech chi gwblhau 2 o’r tasgau hyn, un ar ôl y llall, er enghraifft cyn i chi adael y tŷ i fynd i apwyntiad.
Er enghraifft, dychmygwch eich bod chi’n gwneud paned o de a bod y ffôn yn canu. Fyddech chi’n gallu rhoi’r gorau i wneud y baned, ateb y ffôn ac yna gorffen gwneud y te wedi’r alwad?
Meddyliwch a fyddech chi’n gallu gwneud y rhain a thasgau bob dydd eraill dro ar ôl tro yn ystod yr un diwrnod.
Beth i ysgrifennu yn y bocs
Mae’n bwysig i chi ddweud mwy wrth DWP drwy egluro’ch sefyllfa yn y bocs.
Mae’n bwysig egluro:
ydy’ch cyflwr chi yn ei gwneud hi’n anodd i chi ganolbwyntio
oes angen i chi gael eich atgoffa neu’ch annog
ydych chi’n drysu
ydy hi’n hawdd tynnu’ch sylw
ydych chi’n anghofio beth rydych chi’n ei wneud
ydy’ch meddyginiaeth yn effeithio ar sut rydych chi’n cwblhau tasgau
ydy’ch cyflwr chi’n golygu diffyg brwdfrydedd
ydy’ch cyflwr chi’n achosi diffyg egni neu’ch bod yn blino
ydych chi’n cael diwrnodau da a diwrnodau gwael
Meddai Subhi: "Mae gen i anhwylder deubegynol, ac mae gwneud pethau syml fel talu fy mil ffôn yn anodd i mi yn aml. Rydw i’n gwario fy arian i gyd ar y pethau anghywir, felly yn aml does gen i ddim arian ar ôl ar gyfer y pethau hanfodol – ac rydw i’n mynd i drafferthion.
"Weithiau rydw i’n meddwl am dalu fy mil, ac rydw i hyd yn oed yn cael manylion fy ngherdyn credyd yn barod, ond dydw i byth yn ei wneud e am mod i wedi gwario fy arian i gyd ar rywbeth arall. Roeddwn i’n hwyr iawn yn talu’r bil mis diwethaf a ches ddirwy, oherwydd erbyn i mi gasglu digon o arian, roedd y dyddiad talu wedi pasio."
Camau nesaf
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.