C12 – ymwybyddiaeth o berygl
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae’r cwestiwn hwn ar dudalen 15 y ffurflen – dyma sut mae’n edrych
Sut mae ateb y cwestiwn
Mae’r cwestiwn hwn yn holi sut mae’ch iechyd meddwl neu nam gwybyddol yn effeithio ar eich ymwybyddiaeth o berygl. Meddyliwch am:
a ydych chi’n deall peryglon tasgau bob dydd fel berwi dŵr a defnyddio gwrthrychau miniog
a ydych chi’n gallu aros yn ddiogel weithiau, ond cael damweiniau weithiau – meddyliwch pam maen nhw’n digwydd, fel a ydych chi wedi torri’ch hun ar rywbeth miniog, neu losgi’ch hun yn y gegin neu gyda haearn
ydych chi’n gwybod sut mae osgoi perygl, er enghraifft, dydych chi ddim yn poeni am draffig neu groesi’r ffordd
os ydych chi erioed wedi cwympo neu anafu’ch hun ar y stryd (meddyliwch sut i hyn effeithio arnoch chi wedyn) – fel eich bod chi wedi cael dolur a’ch bod chi bellach yn osgoi strydoedd penodol
"Oes angen rhywun i aros gyda chi am ran fwyaf o’r amser i’ch cadw’n ddiogel?"
Na
Oes
Mae’n amrywio
Os nad oes gennych chi unrhyw un yn eich goruchwylio, dylech nodi pam eich bod chi’n wynebu risg serch hynny.
Peidiwch â theimlo embaras mewn dweud "oes" – os ydych chi angen rhywun gyda chi, mae’n bwysig dweud hynny.
Mae’n bwysig i chi ddweud mwy wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau drwy egluro’ch sefyllfa yn y bocs.
Beth i ysgrifennu yn y bocs
Dylech egluro yn y bocs (a rhoi enghreifftiau):
os ydych chi mewn perygl o niweidio’ch hun – er enghraifft, dydych chi ddim bob amser yn sylwi pan fydd rhywbeth yn beryglus oherwydd iselder neu gorbryder
os ydych chi’n gallu gwneud pethau’n fyrbwyll heb sylweddoli pa mor beryglus ydoedd nes yn hwyrach – er enghraifft, mae gennych chi anhwylder deubegynol ac rydych chi’n cymryd risgiau pan fyddwch chi’n cael cyfnod ‘uchel’
os ydych chi’n anghofio bod yn ofalus, yn ymddwyn yn afresymol neu’n cymryd risgiau sydyn mewn modd anrhagweladwy
Meddai Ashley: "Rydw i’n teimlo’n isel iawn tua 6 diwrnod allan o 7. Pan rydw i’n teimlo’n isel iawn, rwy’n anghofio beth ddylwn i fod yn ei wneud, ac yn colli gafael ar amser. Dydw i ddim yn cymryd fy meddyginiaeth yn iawn a dydw i ddim yn gwybod os ydw i wedi cymryd digon o dabledi neu wedi cymryd gormod. Alla i ddim canolbwyntio na chofio pethau felly rydw i wedi gwneud fy hun yn sâl wrth anghofio bwyta a chymryd gormod o dabledi. Anghofiais fwydo’r gath ac roedd e’n denau iawn, felly mae fy nghymydog yn galw draw bob prynhawn i roi bwyd iddo."
Camau nesaf
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.