C10 – aros yn ymwybodol pan yn effro
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae’r cwestiwn hwn ar dudalen 13 y ffurflen – dyma sut mae’n edrych
Sut mae ateb y cwestiwn
Dylech chi ateb y cwestiwn hwn os oes gennych chi salwch neu anabledd sy’n achosi i chi fod yn anymwybodol, neu un sy’n effeithio ar eich ymwybyddiaeth pan fyddwch chi’n effro, er enghraifft:
epilepsi
diabetes
narcolepsi (cyflwr sy’n gwneud i chi syrthio i gysgu ar adegau amhriodol)
meigryn difrifol
Nid yw syrthio i gysgu o ganlyniad i gyflwr meddygol neu o ganlyniad i driniaeth am gyflwr meddygol yn cyfrif felly colli ymwybyddiaeth.
"Pan fyddwch yn effro, pa mor aml rydych yn cael ffitiau neu’n llewygu?"
Dyddiol
Bob wythnos
Bob mis
Llai na bob mis
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau eisiau gwybod pa mor aml rydych chi’n cael ffitiau neu drawiadau neu’n llewygu neu unrhyw beth arall sy’n amharu’n ddifrifol ar eich ymwybyddiaeth a’ch gallu i ganolbwyntio pan yn effro.
Dydyn nhw ddim eisiau gwybod beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n cysgu – boed yn y nos neu yn ystod y dydd.
Efallai na fyddwch chi’n colli ymwybyddiaeth yn llwyr yn ystod ffit neu drawiad ond mae’n bwysig i chi eu cynnwys a dweud sut maen nhw’n effeithio arnoch chi.
Beth i ysgrifennu yn y bocs
Mae’n bwysig i chi ddweud mwy wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau drwy egluro’ch sefyllfa yn y bocs.
Dylech egluro:
os ydych chi’n cael unrhyw rybudd eich bod chi ar fin cael ffit neu drawiad
os ydych chi wedi gorfod mynd i’r ysbyty – dywedwch sawl gwaith mae hyn wedi digwydd
faint mae’n cymryd i chi ddod dros ffit neu drawiad
os ydych chi ofni mynd allan rhag ofn i chi gael ffit neu drawiad
os ydych chi wedi anafu eich hun neu wedi cael damwain yn ystod ffit neu drawiad, er enghraifft, os ydych chi wedi taro’ch pen
os ydych chi’n dioddef sgil-effeithiau o’r meddyginiaeth – dywedwch beth ydyn nhw a beth rydych chi’n ei wneud amdanyn nhw
os ydych chi wedi colli’ch trwydded yrru (neu os nad ydych chi erioed wedi cael un) oherwydd eich salwch neu anabledd
Ar ôl colli ymwybyddiaeth, nodwch:
os ydych chi angen amser i ddod atoch chi’ch hun, fel mynd i’r gwely
os nad ydych chi’n gwybod sut byddwch chi’n teimlo – efallai y byddwch chi’n ymddwyn yn ymosodol neu’n annisgwyl
os nad ydych chi’n ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd o’ch cwmpas
os ydych chi angen rhywun i ofalu amdanoch
Meddai Louise: "Rwy’n rheoli fy niabetes yn eithaf da ond rydw i’n cael hypos unwaith bob rhyw 2 neu 3 wythnos. Pan mae fy siwgr gwaed i’n mynd yn isel, rydw i’n gallu ei deimlo’n dod fel rheol ac yn gofalu bod gen i fyrbrydau a diodydd i geisio atal hypo, ond yn amlach na pheidio mae pethau’n digwydd yn rhy gyflym.
Mae fy ngolwg yn mynd yn niwlog a dydw i ddim wir yn gwybod beth dw i’n ei wneud – mae fy mhartner yn dweud fy mod i’n siarad nonsens ac yn siarad yn dew. Ychydig wythnosau yn ôl, fe ddigwyddodd e wrth i mi gerdded adref o’r siop ac fe lewygais i ar y stryd. Dydw i ddim yn gwybod am faint mae e’n para, ond rydw i’n teimlo’n ddagreuol ac yn benysgafn am dipyn wedyn."
Camau nesaf
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.