Asesiad wyneb yn wyneb

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae’r dudalen hon yn sôn am sut i lenwi adran asesu wyneb yn wyneb eich ffurflen.

I gael help gyda sut i baratoi ar gyfer eich asesiad wyneb yn wyneb ei hun, ewch i paratoi ar gyfer eich asesiad Lwfans Cyflogaeth a Chymorth meddygol.

Mae’r cwestiwn hwn ar dudalennau 19 a 20 y ffurflen – gweld sut maent yn edrych

Trefnu’r asesiad

Gelwir yr asesiad wyneb yn wyneb yn asesiad gallu i weithio.

Mae’r asesiad gyda rhywun fel meddyg, nyrs neu ffisiotherapydd.

Gofynnir i chi roi rhifau ffôn symudol a rhifau ffôn yn ystod y dydd er mwyn i ni allu eich ffonio i drefnu’r asesiad wyneb yn wyneb. Mae hyn ar waelod tudalen 16 y ffurflen.

Os nad ydych chi’n defnyddio’r ffôn

Peidiwch â phoeni os nad ydych chi’n gallu defnyddio’r ffôn neu os nad ydych chi’n hoffi gwneud hynny. Gallwch ofyn i'r Adran Gwaith a Phensiynau:

  • ffonio'ch gofalwr neu rywun arall i drefnu'r asesiad

  • ysgrifennu atoch yn hytrach na’ch ffonio – dylech gynnwys y geiriau “yn ysgrifenedig os gwelwch yn dda” yn y gofod sy’n gofyn i chi am rif ffôn

Os oes angen cyfieithydd arnoch

Os nad ydych chi’n gallu siarad neu ddeall Cymraeg neu Saesneg yn hawdd, gallwch gael cyfieithydd gyda chi yn yr asesiad.

Ticiwch y blwch ar y ffurflen os oes gennych eich cyfieithydd eich hun, er enghraifft aelod o’r teulu – rhaid iddynt fod yn 16 oed o leiaf.

Dyddiadau na allwch chi fynd i asesiad

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os oes dyddiadau pan na allwch fynd i asesiad, er enghraifft oherwydd apwyntiad ysbyty neu feddyg.

Dylech eu rhestru yn y blwch ar frig tudalen 17.

Os byddwch yn defnyddio cyfieithydd, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’r dyddiadau pan fyddan nhw ar gael hefyd.

Unrhyw gymorth arall y gallai fod ei angen arnoch

Os oes angen arwyddwr Iaith Arwyddion Prydain neu Makaton arnoch, meddalwedd llais-i-destun neu lawlyfr byddar/dall arnoch, rhowch hwn ar y ffurflen.

Dylech hefyd ddweud a oes angen unrhyw gymorth arall arnoch ar gyfer yr asesiad, er enghraifft:

  • mynd i’r asesiad os oes rhaid i chi deithio i ardal nad ydych chi’n ei hadnabod

  • mynd i fyny ac i lawr y grisiau, os nad yw eich asesiad ar y llawr gwaelod neu os nad oes lifft

  • codi allan o gadair mewn ystafell aros

  • symud o ystafell i ystafell

Y camau nesaf

Gwybodaeth arall

Yn ôl i Help i lenwi eich ffurflen Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.