Cael eich penderfyniad ynghylch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar ôl yr asesiad
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn anfon llythyr atoch gyda'u penderfyniad. Efallai y byddant yn penderfynu:
dal ati i roi Lwfans Cyflogaeth a Chymorth i chi a’ch rhoi yn y ‘grŵp gweithgaredd cysylltiedig â gwaith’
dal ati i roi Lwfans Cyflogaeth a Chymorth i chi a’ch rhoi yn y ‘grŵp cymorth’
rhoi'r gorau i'ch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth oherwydd nad oes gennych allu cyfyngedig i weithio
Os nad ydych chi wedi clywed dim ar ôl 8 wythnos o ddyddiad eich asesiad, cysylltwch â'r Adran Gwaith a Phensiynau i ofyn iddynt beth sy'n digwydd. Gallwch ofyn iddynt drwy:
ysgrifennu i'r cyfeiriad sydd ar unrhyw lythyr Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a gawsoch
ffonio Canolfan Byd Gwaith
Canolfan Byd Gwaith
Ffôn: 0800 169 0310
Ffôn testun: 0800 169 0314
Llinell Gymraeg: 0800 328 1744
Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0800 169 0310
Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.
Fideo Relay - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Gallwch ddysgu sut i ddefnyddio fideo Relay ar YouTube.
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 5pm
Mae galwadau am ddim o ffonau symudol a llinellau tir.
Os ydych chi’n cael eich rhoi yn y grŵp gweithgaredd cysylltiedig â gwaith
Byddwch yn dal i gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
Does dim rhaid i chi gael mwy o nodiadau ffitrwydd.
Bydd yn rhaid i chi wneud gweithgaredd sy'n gwella'ch siawns o ddod o hyd i waith, a elwir yn 'weithgaredd cysylltiedig â gwaith' - edrychwch i weld pa weithgaredd cysylltiedig â gwaith y bydd yn rhaid i chi ei wneud.
Os cewch eich rhoi yn y grŵp cymorth
Byddwch yn dal i gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
Does dim rhaid i chi:
cael unrhyw nodiadau ffitrwydd pellach
mynd i gyfweliadau neu unrhyw weithgaredd arall sy'n gysylltiedig â gwaith
Bydd faint o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a gewch yn cynyddu 13 wythnos ar ôl i'ch hawliad ddechrau. Gwiriwch faint o Gredyd Cynhwysol y byddwch yn ei gael.
Os bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn stopio’ch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
Gofynnwch i’r Adran Gwaith a Phensiynau edrych ar eu penderfyniad eto os ydych chi’n meddwl ei fod yn anghywir. Dylech wneud hyn o fewn mis i ddyddiad y penderfyniad ar eich llythyr.
Gallwch wneud cais newydd am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth os yw'r canlynol yn berthnasol ers penderfyniad yr Adran Gwaith a Phensiynau:
mae eich cyflwr wedi gwaethygu
os oes gennych gyflwr newydd
Gallwch wirio fath o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth y gallwch ei hawlio.
Gwirio am ba hyd y byddwch yn dal i gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
Fel arfer, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn eich asesu eto rhwng 6 mis a 2 flynedd ar ôl y penderfyniad. Fel arfer, ni fyddant yn dweud wrthych faint o amser fydd yna tan yr asesiad nesaf.
Hyd yn oed os bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn dweud wrthych faint o amser fydd yna tan yr asesiad nesaf, canllaw yn unig yw hwn. Peidiwch â phoeni os:
cewch eich gwahodd i asesiad yn gynharach
nid ydych wedi cael gwahoddiad i asesiad ac mae’r dyddiad disgwyliedig wedi mynd heibio
Pa mor hir y byddwch yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn y grŵp gweithgaredd cysylltiedig â gwaith
Os ydych chi'n cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth math newydd neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth seiliedig ar gyfraniadau, bydd yn dod i ben flwyddyn ar ôl i'ch hawliad ddechrau.
Os ydych chi'n cael unrhyw Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail incwm, ni fydd yn dod i ben.
Gallwch wirio beth allwch chi ei wneud ar ddiwedd y terfyn amser o flwyddyn.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 01 Mai 2020