Defnyddio eich Bathodyn Glas
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os oes gennych Fathodyn Glas gallwch barcio mewn mannau lle nad yw gyrwyr eraill yn cael parcio, er enghraifft mannau parcio i ddeiliaid Bathodyn Glas.
Mae’r Bathodyn Glas wedi’i gysylltu â chi yn hytrach na cherbyd, felly gallwch ei ddefnyddio gydag unrhyw gar. Mae hyn yn cynnwys tacsis a cherbydau hurio rydych yn eu gyrru, neu’n teithio ynddyn nhw fel teithiwr.
Pan fyddwch yn cael eich Bathodyn Glas, dylech gael taflen gan eich cyngor yn egluro sut i’w ddefnyddio. Os nad ydych yn cael un, gallwch naill ai ofyn am un neu lawrlwytho copi ar llyw.cymru.
Dilynwch ein cyngor i wneud cais am Fathodyn Glas, os nad oes gennych un yn barod.
Ble gallwch chi barcio
Ni allwch ddefnyddio eich Bathodyn Glas ym mhobman – mae gan rai ardaloedd gynlluniau parcio gwahanol ar gyfer pobl anabl.
Er enghraifft, mae cynlluniau gwahanol yn yr ardaloedd hyn yn Llundain:
Dinas Llundain
Dinas Westminster
Kensington a Chelsea
Maes Awyr Gatwick
Maes Awyr Heathrow
Camden – gallwch ddefnyddio eich Bathodyn Glas mewn rhai ardaloedd o hyd
Cyn i chi deithio, edrychwch ble gallwch chi barcio â Bathodyn Glas ar GOV.UK er mwyn osgoi cael tocyn, neu ar wefan y cyngor lleol os ydych yn parcio yn yr Alban.
Fel arfer mae eich Bathodyn Glas yn caniatáu i chi barcio am ddim:
ar strydoedd â mesuryddion parcio neu beiriannau talu-ac-arddangos am gymaint o amser ag rydych ei angen
mewn cilfachau parcio i bobl anabl ar strydoedd am gymaint o amser ag rydych ei angen, oni bai fod arwydd yn dweud bod terfyn amser
ar linellau melyn sengl neu ddwbl am hyd at 3 awr oni bai fod arwydd ‘dim llwytho’
Mae rhai cynghorau yn caniatáu i ddeiliaid bathodyn barcio hyd yn oed os oes ‘arwydd dim llwytho’ – ewch i GOV.UK i gael gwybod.
Os ydych yn ddeiliad Bathodyn Glas, gallwch ofyn i’ch cyngor lleol am fan parcio i bobl anabl yn agos at eich cartref. Mae hwn am ddim fel arfer, ond mae gan gynghorau wahanol reolau ynglŷn â phwy all wneud cais am fan parcio o’r fath.
Bydd angen i chi wneud cais drwy wefan eich cyngor. Chwiliwch am wefan eich cyngor ar GOV.UK – bydd angen i chi wybod eich cod post.
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am barcio os ydych yn parcio mewn maes parcio preifat, er enghraifft mewn archfarchnad neu ysbyty. Bydd angen i chi edrych ar yr arwyddion yn y maes parcio.
Nid yw cael Bathodyn Glas yn golygu y cewch chi barcio ym mhobman – mae’n rhaid i chi ddilyn y rheoliadau parcio arferol o hyd. Er enghraifft, mae’n dal yn bosibl i chi gael dirwy os ydych yn parcio yn rhywle sy’n rhoi pobl mewn perygl, fel y tu allan i ysgol neu ger cyffordd.
Gallwch edrych ar y rheolau parcio ar GOV.UK.
Sut i arddangos eich bathodyn
Gwnewch yn siŵr bod eich bathodyn:
wedi’i osod yn gywir
i’w weld yn glir drwy’r ffenestr flaen
heb ddod i ben
Os byddwch yn parcio yn rhywle lle mae terfyn amser, dylech bob amser osod y cloc amser parcio ar eich bathodyn glas i ddangos y cyfnod o chwarter awr pan wnaethoch chi gyrraedd.
Os byddwch yn cael tocyn parcio er eich bod wedi arddangos eich bathodyn glas yn iawn, gallwch apelio yn ei erbyn.
Os yw eich bathodyn glas wedi dod i ben, wedi cael ei ddifrodi, ei golli neu ei ddwyn, dylech gysylltu â’r cyngor lleol i roi gwybod iddo a gofyn am gerdyn arall yn ei le.
Pryd allwch chi ddefnyddio eich bathodyn
Yr unig adegau y gallwch ddefnyddio eich bathodyn yw:
pan fyddwch chi’n gyrru
pan fyddwch chi’n teithio mewn car fel teithiwr
pan fydd rhywun yn eich codi neu’n eich gollwng, a bod angen iddo ef neu hi barcio yn agos at y man y mae angen i chi fynd iddo
Os yw rhywun arall yn gyrru, rhaid i chi egluro’r rheolau wrtho – fel arall, gall y cyngor ofyn am eich bathodyn yn ôl.
Defnyddio eich bathodyn dramor
Gallwch ddefnyddio eich bathodyn mewn rhai gwledydd yn yr Undeb Ewropeaidd, a gwledydd yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd. Mae’n werth gwirio ble gallwch ddefnyddio eich bathodyn glas yn Ewrop ar GOV.UK.
Gallai’r rheolau fod ychydig yn wahanol gan ddibynnu i ble rydych yn mynd. Dylech holi yn lleol, er enghraifft mewn swyddfa gwybodaeth i ymwelwyr, a rhoi sylw i arwyddion ffyrdd pan fyddwch yn cyrraedd yno.
Os byddwch yn torri’r rheolau
Mae’n dal yn bosibl i chi gael dirwy barcio pan fyddwch yn defnyddio eich bathodyn.
Os byddwch yn camddefnyddio eich bathodyn ar bwrpas gallech gael dirwy o hyd at £1000, er enghraifft os ydych:
yn ei roi i rywun arall ei ddefnyddio
yn dal i ddefnyddio eich bathodyn pan nad oes arnoch ei angen mwyach
yn defnyddio eich bathodyn i barcio os ydych yn aros yn unig, ac nad ydych yn bwriadu gadael eich car
Os ydych yn teithio mewn car y mae rhywun arall yn ei yrru, rhaid i chi egluro’r rheolau wrth y gyrrwr – os na fydd y person hwnnw’n dilyn y rheolau gall y cyngor gymryd eich bathodyn oddi arnoch chi.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.