Sut i hawlio Lwfans Gweini
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Gallwch hawlio Lwfans Gweini:
os ydych wedi cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth
os oes arnoch angen gofal neu oruchwyliaeth oherwydd bod gennych salwch neu anabledd
os ydych wedi bod angen gofal neu oruchwyliaeth am o leiaf 6 mis oherwydd eich salwch neu anabledd
Os oes gennych salwch terfynol, gallwch hawlio Lwfans Gweini ar unwaith – nid oes angen i chi aros am 6 mis. Darganfyddwch ragor am hawlio Lwfans Gweini os oes gennych salwch terfynol.
Nid oes angen i chi fod wedi cael diagnosis ffurfiol i hawlio Lwfans Gweini. Er enghraifft, efallai eich bod yn dal i gael profion neu apwyntiadau i ddarganfod beth sydd o’i le. Cyn belled bod arnoch angen help neu oruchwyliaeth, neu eich bod wedi cael anawsterau ers 6 mis oherwydd eich cyflwr gallwch hawlio Lwfans Gweini.
Gallwch hefyd hawlio Lwfans Gweini os ydych yn byw ar eich pen eich hun – mae’n seiliedig ar y cymorth y mae arnoch ei angen, yn hytrach na’r help rydych yn ei gael yn barod.
Os ydych yn cael Lwfans Gweini, gallwch wario’r arian sut bynnag rydych yn dymuno – gallai eich helpu i aros yn annibynnol yn eich cartref eich hun am fwy o amser.
Gallwch hefyd wneud cais am Lwfans Gweini ar ran rhywun arall, er enghraifft rhiant neu ffrind neu berthynas arall.
Gwneud cais ar ran rhywun arall
Efallai y bydd angen i chi wneud cais am Lwfans Gweini ar ran rhywun arall, er enghraifft os yw rhywun yn rhy wael i lenwi’r ffurflen neu os nad oes ganddo 'alluedd meddyliol'. Mae hyn yn golygu nad yw’n gallu gwneud penderfyniadau.
Mae’n iawn i chi lenwi’r ffurflen ar ran rhywun arall os yw’r unigolyn hwnnw’n gallu llofnodi’r ffurflen ei hun.
Os nad yw’n gallu llofnodi’r ffurflen bydd angen i chi gael yr hawl gyfreithiol i wneud hynny ar ei ran. Gallwch lofnodi’r ffurflen ar ei ran:
os ydych yn benodai
os oes gennych atwrneiaeth sy’n caniatáu i chi reoli ei fudd-daliadau
os ydych yn ddirprwy
Cael caniatâd i wneud cais ar ran rhywun arall
Bydd angen i chi gael hawl gyfreithiol os oes arnoch eisiau gwneud cais am Lwfans Gweini ar ran rhywun nad yw’n gallu llofnodi’r ffurflen ei hun.
Gall gymryd ychydig o amser i gael y caniatâd hwn felly gorau oll os gallwch wneud hyn cyn gynted ag sy’n bosibl fel nad ydych yn dal yr hawliad Lwfans Gweini yn ôl.
Os ydych yn dymuno sortio budd-daliadau rhywun yn unig: dod yn benodai
Mae gan benodai yr hawl gyfreithiol i sortio budd-daliadau rhywun ar ei ran. Mae hyn yn cynnwys gwario’r arian mewn ffordd sy’n helpu’r hawlydd a bod yn gyfrifol am roi gwybod am unrhyw newidiadau, er enghraifft os bydd yn mynd i’r ysbyty.
Gallwch wneud cais i fod yn benodai yn GOV.UK.
Os oes arnoch eisiau gwneud penderfyniadau am fudd-daliadau a phethau eraill: cael atwrneiaeth
Ni allwch wneud cais am atwrneiaeth arhosol (LPA) i rywun arall – rhaid i’r unigolyn allu gwneud cais am yr atwrneiaeth ei hun. Rhaid iddo allu gwneud ei benderfyniadau ei hun pan fydd yn gwneud cais.
Os oes gennych LPA ar gyfer rhywun byddwch yn gallu gwneud penderfyniadau ar ei ran neu ei helpu i wneud ei benderfyniadau ei hun.
Mae 2 fath o LPA – gallwch gael 1 ohonynt neu’r ddau:
iechyd a lles
eiddo a materion ariannol
I wneud cais am fudd-daliadau, bydd arnoch angen LPA eiddo a materion ariannol. Os oes arnoch angen i’r budd-daliadau gael eu talu i’ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu chi, rhaid i’r LPA ddweud y gallwch wneud hyn.
Darllenwch ragor am gael atwrneiaeth yn GOV.UK.
Os nad yw’r unigolyn y mae arnoch eisiau gwneud penderfyniadau ar ei ran yn gallu gwneud penderfyniadau mwyach: bod yn ddirprwy
Ni ddylech wneud cais i fod yn ddirprwy i rywun oni bai ei fod yn methu â gwneud penderfyniadau drosto ei hun ac nad oes atwrneiaeth ar ei gyfer.
Os yw’r unigolyn yn dal i allu gwneud penderfyniadau, mae’n debyg mai’r peth gorau yw bod yn benodai neu gael atwrneiaeth ar ei gyfer.
Os nad yw’n gallu gwneud penderfyniadau, gallwch wneud cais i fod yn ddirprwy yn GOV.UK.
Cael ffurflen gais
Gallwch naill ai ffonio i ofyn am ffurflen gais neu lawrlwytho ffurflen ar GOV.UK.
Ffonio yw’r peth gorau i’w wneud, oherwydd bydd eich taliadau’n cael eu hôl-ddyddio i’r dyddiad y gwnaethoch ffonio, cyn belled eich bod yn dychwelyd y ffurflen cyn pen 6 wythnos. Bydd y dyddiad ar gyfer dychwelyd y ffurflen wedi’i stampio arni. Os byddwch yn lawrlwytho ffurflen gais, dim ond o’r dyddiad y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau’n derbyn y ffurflen y byddwch yn cael eich talu.
Llinell Gymorth Lwfans Gweini
Ffôn: 0800 731 0122
Ffôn testun: 0800 731 0317
Relay UK - os nad ydych yn gallu clywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio beth bynnag mae arnoch eisiau ei ddweud: 18001 yna 0800 731 0122
Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i’w ddefnyddio. Darganfyddwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.
Gwasanaeth cyfnewid fideo – os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Gallwch ddarganfod sut i ddefnyddio gwasanaeth cyfnewid fideo ar YouTube.
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 6pm
Galwadau am ddim o ffonau symudol a llinellau tir.
Mae’n alwad sydyn – y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw rhoi eich enw a’ch cyfeiriad. Yr un yw’r rhif p’un a ydych yn gwneud cais am Lwfans Gweini i chi eich hun neu i rywun arall.
Cadw dyddiadur
Mae’n syniad da i gadw dyddiadur o’ch cyflwr am o leiaf wythnos cyn i chi lenwi’r ffurflen – yn enwedig os ydych yn cael diwrnodau gwael a diwrnodau da. Llenwch ein templed dyddiadur i’ch helpu 99 KB . Ysgrifennwch eich anawsterau, y gofal neu’r oruchwyliaeth y mae arnoch ei hangen a faint o amser a gymerodd.
Bydd y dyddiadur yn eich helpu pan fyddwch yn ateb cwestiynau ar y ffurflen. Gallwch hefyd ei anfon gyda’r ffurflen i gefnogi eich hawliad.
Llenwi’r ffurflen gais
Mae’r ffurflen yn gallu bod yn ddryslyd ac yn anodd ei deall – gall llenwi’r ffurflen hefyd fod yn anodd o safbwynt emosiynol a gall gymryd amser.
Does dim rhaid i chi fynd drwyddi ar eich pen eich hun – darllenwch ein cyngor ar lenwi’r ffurflen Lwfans Gweini.
Anfon eich ffurflen gais
Mae’n syniad da i wneud copi o’ch ffurflen gais ar ôl i chi ei llenwi, ac o unrhyw ddogfennau eraill y byddwch yn eu hanfon, os gallwch. Bydd hyn yn ddefnyddiol rhag ofn y bydd angen i chi gyfeirio atynt yn nes ymlaen, er enghraifft os bydd angen i chi ailymgeisio am Lwfans Gweini ymhen ychydig flynyddoedd.
Anfonwch y ffurflen i:
Freepost
DWP Attendance Allowance
Nid oes angen cod post na stamp.
Os ydych yn aros am rywbeth fel llythyr gan eich meddyg, mae’n dal yn ofynnol i chi anfon y ffurflen cyn y terfyn amser o 6 wythnos. Dylech gynnwys llythyr yn dweud y byddwch yn anfon rhagor o dystiolaeth a rhoi bras amcan o’r dyddiad y byddwch yn anfon y dystiolaeth honno.
Os byddwch yn anfon y ffurflen yn hwyr, dylech egluro pam. Dim ond o’r adeg y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn derbyn y ffurflen y byddwch yn cael eich talu.
Ar ôl i chi anfon eich ffurflen
Byddwch yn cael 'llythyr penderfyniad' – bydd y llythyr yma’n dweud wrthych chi a fyddwch yn cael Lwfans Gweini ai peidio. Bydd hefyd yn dweud wrthych faint y byddwch yn ei gael ac am faint y bydd eich Lwfans Gweini yn para.
Mae’n bosibl y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cymryd tipyn o amser cyn anfon eich llythyr penderfyniad atoch. Os ydych yn poeni, gallwch ffonio’r llinell gymorth Lwfans Gweini i wneud yn siŵr eu bod wedi cael eich ffurflen.
Os oes gennych salwch terfynol dylech gael eich llythyr penderfyniad cyn pen pythefnos. Byddwch yn cael y gyfradd uwch o Lwfans Gweini am 3 blynedd. Darganfyddwch ragor am hawlio Lwfans Gweini os oes gennych salwch terfynol.
Llinell Gymorth Lwfans Gweini
Ffôn: 0800 731 0122
Ffôn testun: 0800 731 0317
Relay UK - os nad ydych yn gallu clywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio beth bynnag mae arnoch eisiau ei ddweud: 18001 yna 0800 731 0122
Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i’w ddefnyddio. Darganfyddwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.
Gwasanaeth cyfnewid fideo – os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Gallwch ddarganfod sut i ddefnyddio gwasanaeth cyfnewid fideo ar YouTube.
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 6pm
Galwadau am ddim o ffonau symudol a llinellau tir.
Camau nesaf
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.