Gwiriwch a allwch gael Credydau Treth Gwaith

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae Credyd Cynhwysol wedi disodli credydau treth i’r rhan fwyaf o bobl.

Os ydych eisoes yn cael Credydau Treth Plant, gallwch ychwanegu Credydau Treth Gwaith at eich cais o hyd.

Os gwnaethoch gais am Gredydau Treth Gwaith yn y flwyddyn dreth ddiwethaf, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais newydd. Dylech siarad â chynghorydd i weld a allwch chi wneud hynny.

Os cawsoch bremiwm anabledd difrifol (SDP)

Ni allwch wneud cais newydd am gredydau treth ond gallwch hawlio Credyd Cynhwysol yn lle hynny. Gallwch hawlio Credyd Cynhwysol hyd yn oed os oeddech yn cael, neu wedi rhoi’r gorau i gael, budd-dal gyda phremiwm anabledd difrifol (SDP).

Efallai y cewch swm ychwanegol yn eich Credyd Cynhwysol – gelwir hyn yn ‘elfen drosiannol’.

Byddwch yn cael y swm ychwanegol os byddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol o fewn mis ar ôl i chi roi’r gorau i gael y budd-dal gyda’r premiwm anabledd difrifol.

Ni allwch gael y swm ychwanegol os:

  • dim ond gyda Budd-dal Tai yr oeddent yn cael y premiwm anabledd difrifol

  • symudoch i mewn gyda phartner sy’n hawlio Credyd Cynhwysol

Cyn 27 Ionawr 2021, ni allech hawlio Credyd Cynhwysol os oeddech yn cael, neu wedi rhoi’r gorau i gael, budd-dal gyda phremiwm anabledd difrifol yn ddiweddar.

Os gwnaethoch gais am Gredyd Cynhwysol cyn 27 Ionawr 2021, siaradwch â chynghorydd i wirio beth mae gennych hawl iddo.

Os dywedwyd wrthych am hawlio Credyd Cynhwysol erbyn dyddiad penodol

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn atal budd-daliadau rhai pobl ac yn dweud wrthynt am hawlio Credyd Cynhwysol yn lle hynny.

Os cewch lythyr yn dweud wrthych am hawlio Credyd Cynhwysol erbyn dyddiad cau penodol, mae hwn yn ‘hysbysiad mudo’. Dylech hawlio Credyd Cynhwysol erbyn y dyddiad cau yn yr hysbysiad mudo. Bydd eich hen fudd-daliadau yn dod i ben ar ôl y dyddiad cau.

Efallai y byddwch yn colli rhywfaint o arian os gwnewch gais ar ôl y dyddiad cau.

Gwiriwch beth ddylech chi ei wneud os cewch chi hysbysiad mudo.

Os ydych wedi cyrraedd eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth, ni allwch wneud cais newydd am gredydau treth gwaith. Dylech wirio a allwch gael Credyd Pensiwn. 

Gallwch wirio eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar GOV.UK.

I gael Credydau Treth Gwaith rhaid i chi fod ar incwm isel a gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos.

Mae'r hyn sy'n cyfrif fel incwm isel, a faint o oriau y mae angen i chi eu gweithio yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Os ydych o dan 25

Gallwch ond hawlio credydau treth os ydych yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos a naill ai:

  • gyfrifol am blentyn dan 16 oed

  • yn gymwys ar gyfer yr ‘elfen anabledd’

Gallwch ddefnyddio’r daflen gymorth anabledd credydau treth ar GOV.UK i wirio a ydych yn gymwys ar gyfer yr elfen anabledd.

Os ydych yn cael budd-daliadau eraill

Gall credydau treth gael sgil-effaith ar fudd-daliadau eraill y byddwch yn eu hawlio. Er enghraifft, os ydych yn hawlio credydau treth efallai y byddwch yn rhoi’r gorau i gael Cymhorthdal Incwm – gallai hyn olygu nad ydych bellach yn gymwys i gael Budd-dal Tai yn awtomatig.

Mae hyn yn golygu y gallai hawlio credydau treth eich gwneud yn waeth eich byd hynny yw ar eich colled. Os ydych yn 18 oed neu’n hŷn, gallwch ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau Turn2us i weld a yw’n werth hawlio credydau treth. Bydd angen i chi nodi manylion y budd-daliadau eraill rydych yn eu hawlio.

Os byddai'n well gennych siarad â rhywun yn bersonol, cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth lleol. Gall cynghorydd eich helpu i gyfrifo a fyddai hawlio credydau treth yn eich gwneud yn well eich byd.

Os ydych yn cael help gyda chostau gofal plant

Ni allwch chi gael gofal plant di-dreth ar yr un pryd â chredydau treth gwaith.

Os ydych yn defnyddio talebau gofal plant gallwch wneud cais am gredydau treth, ond ni fyddwch yn gallu cael elfen gofal plant y credyd treth gwaith.

Gallwch ddarganfod a fyddwch yn well eich byd gyda gofal plant di-dreth, talebau gofal plant neu gredydau treth ar GOV.UK.

Os nad ydych yn ddinesydd y DU

Dim ond os yw eich statws mewnfudo yn caniatáu ichi hawlio arian cyhoeddus y gallwch gael Credydau Treth Gwaith.

Gallwch hawlio arian cyhoeddus os oes gennych unrhyw un o’r canlynol:

  • Dinasyddiaeth Brydeinig neu Wyddelig

  • statws cyn-sefydlog neu sefydlog o Gynllun Setliad yr UE - neu os ydych wedi gwneud cais i'r cynllun a'ch bod yn aros am benderfyniad

  • absenoldeb amhenodol – oni bai eich bod wedi dod i’r DU ar fisa perthynas sy’n oedolyn dibynnol

  • statws ffoadur neu warchodaeth ddyngarol

  • hawl i breswylio

Os oes gennych unrhyw statws mewnfudo arall, gwiriwch a yw eich statws mewnfudo yn caniatáu ichi hawlio arian cyhoeddus.

Amcangyfrif o'ch credydau treth

Mae'r swm y gallech ei gael mewn credydau treth yn dibynnu ar eich incwm yn ogystal â ffactorau eraill megis a oes gennych blant. I gael amcangyfrif, defnyddiwch y gyfrifiannell credydau treth ar GOV.UK.

Os ydych yn hunangyflogedig, mae angen i chi gyfrifo eich incwm o’ch elw trethadwy. I gael help gyda hyn, gweler sut i hawlio credydau treth os ydych yn hunangyflogedig.

Gallwch ddal i wneud cais os yw eich incwm ychydig yn rhy uchel i fod yn gymwys am gredydau treth. Os aiff eich incwm i lawr yn ddiweddarach yn y flwyddyn, gellir ôl-ddyddio eich cais am gredyd treth i'r adeg y gwnaethoch eich cais. Mae hyn oherwydd bod symiau credyd treth yn cael eu cyfrifo dros flwyddyn gyfan.

Gelwir hyn yn ‘hawliad amddiffynnol’ – mae’r broses ymgeisio'r un peth.

Faint o oriau sydd angen i chi weithio

Bydd angen i chi weithio nifer penodol o oriau i gael Credydau Treth Gwaith, yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Eich sefyllfa Oriau'r wythnos mae angen i chi weithio
Eich sefyllfa

25 i 59 oed

Oriau'r wythnos mae angen i chi weithio

O leiaf 30 awr

Eich sefyllfa

60 oed neu drosodd

Oriau'r wythnos mae angen i chi weithio

O leiaf 16 awr

Eich sefyllfa

Anabl

Oriau'r wythnos mae angen i chi weithio

O leiaf 16 awr

Eich sefyllfa

Sengl ac yn gyfrifol am blentyn neu berson ifanc

Oriau'r wythnos mae angen i chi weithio

O leiaf 16 awr

Eich sefyllfa

Mewn cwpl ac yn gyfrifol am blentyn neu berson ifanc

Oriau'r wythnos mae angen i chi weithio

O leiaf 24 awr rhyngoch chi (gydag 1 ohonoch yn gweithio o leiaf 16 awr)

Os ydych chi mewn mwy nag un o'r sefyllfaoedd hyn, edrychwch ar yr un sydd angen y lleiaf o oriau.

Os ydych fel arfer yn gweithio mwy na'ch oriau cytundebol

Os ydych fel arfer yn gweithio mwy na'ch oriau cytundebol

Defnyddiwch nifer yr oriau rydych chi'n eu gweithio fel arfer yn lle. Er enghraifft, os ydych ar gontract dim oriau, ond fel arfer yn gweithio 30 awr yr wythnos, dywedwch wrth Cyllid a Thollau EM eich bod yn gweithio tua 30 awr.

Mae angen i chi roi gwybod i Cyllid a Thollau EM os bydd eich oriau arferol yn newid, gan y gallai hyn olygu nad ydych yn gymwys i gael credydau treth mwyach. Os bydd Cyllid a Thollau EM yn gofyn am brawf o’r oriau rydych yn eu gweithio, gallwch anfon slipiau cyflog neu lythyr gan eich cyflogwr. 

Os yw eich oriau yn newid yn rheolaidd

Os yw nifer yr oriau rydych yn eu gweithio o wythnos i wythnos yn rhagweladwy, mae Cyllid a Thollau EM yn galw hyn yn 'batrwm gwaith arferol', hyd yn oed os yw eich oriau yn wahanol bob wythnos. Gallwch roi eich oriau wythnosol cyfartalog i Gyllid a Thollau EM dros ba bynnag gyfnod yw eich patrwm gwaith arferol. Er enghraifft, os yw'n gyffredin i chi weithio 20 awr a 40 awr bob yn ail wythnos, gallech roi eich oriau gwaith arferol fel 30 awr yr wythnos.

Os yw eich oriau gwaith yn annibynadwy ac yn afreolaidd, efallai na fyddwch yn gallu dweud pa oriau sy'n arferol i chi. Os mai dyma yw eich sefyllfa, cysylltwch â Cyllid a Thollau EM i gael cyngor ar sut i ddisgrifio eich oriau wythnosol. Neu gallwch gysylltu â'ch Cyngor ar Bopeth lleol.

Pwy sy'n cael ei gyfrif fel un sy'n gyfrifol am blentyn neu berson ifanc

Rydych chi'n gyfrifol am blentyn os ydynt yn naill ai:

  • byw gyda chi drwy'r amser

  • byw gyda chi a chi yw eu prif ofalwr

Os ydych yn rhannu cyfrifoldeb am blentyn, er enghraifft os ydych chi a’ch partner wedi gwahanu, dim ond un ohonoch all hawlio credydau treth ar gyfer y plentyn. Dylai hwn fod y person sy’n bennaf gyfrifol am y plentyn.

Bydd angen i’r plentyn yr ydych yn gyfrifol amdano fod naill ai o dan 16 oed neu rhwng 16 ac 20 ac mewn addysg neu hyfforddiant cymeradwy amser llawn.

Mae person ifanc 16 oed nad yw mewn addysg neu hyfforddiant cymeradwy yn cael ei ystyried yn berson ifanc tan 31 Awst ar ôl iddo droi’n 16 oni bai eu bod:

  • yn gweithio 24 awr neu fwy'r wythnos

  • ganddynt hawl i Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm

Sicrhau eich bod mewn gwaith cyflogedig

Gallwch gael credydau treth gwaith os ydych mewn gwaith â thâl y disgwylir iddo bara o leiaf 4 wythnos. Nid yw hyn yn cynnwys cael eich talu:

  • treuliau wrth wirfoddoli

  • grant neu lwfans ar gyfer astudio neu hyfforddi

  • am waith a wneir tra yn y carchar

Mae’r rheolau'r un peth os ydych chi’n hunangyflogedig, ond mae rhai pethau y dylech chi eu gwybod cyn i chi wneud cais.

Os nad ydych yn gweithio

Mewn rhai amgylchiadau, gallwch gael credydau treth pan nad ydych yn gweithio. Er enghraifft, os ydych ar absenoldeb mamolaeth neu salwch, neu os ydych wedi colli eich swydd yn ddiweddar.

Gallwch hefyd ddechrau hawlio credydau treth 7 diwrnod cyn dechrau gweithio os ydych chi wedi derbyn cynnig swydd - bydd eich credydau treth yn dechrau o'r dyddiad y bydd y gwaith yn dechrau.

Mae gan GOV.UK restr o’r amgylchiadau y gallwch hawlio credydau treth pan nad ydych yn gweithio ac am ba mor hir y gallwch wneud cais amdanynt.

Os ydych yn ofalwr maeth

Efallai y gallwch hawlio credydau treth gwaith fel person hunangyflogedig os ydych:

  • derbyn lwfans maethu

  • wedi cofrestru fel person hunangyflogedig gyda Chyllid a Thollau EM

Mae'r rheolau cymhwysedd eraill yn dal i fod yn berthnasol, fel eich oedran a faint rydych chi'n ei ennill.

Pwy sy'n cyfrif fel cwpl ar gyfer credydau treth gwaith

Os ydych mewn cwpl, bydd angen i chi wneud cais ar y cyd gyda’ch partner. Rydych chi’n cael eich cyfrif fel cwpl os ydych chi’n briod neu mewn partneriaeth sifil, neu os ydych chi’n byw gyda’ch gilydd.

Os ydych chi wedi gwahanu dros dro, ond yn dal yn briod yn gyfreithiol, bydd angen i chi wneud cais ar y cyd. Mae Cyllid a Thollau EM yn eich trin fel cwpl oni bai eich bod naill ai:

  • wedi ysgaru

  • wedi gwahanu'n gyfreithiol o dan orchymyn llys

  • wedi gwahanu'n barhaol - hy nid ydych yn bwriadu dod yn ôl at eich gilydd

Mae faint y byddwch yn ei gael yn seiliedig ar eich incwm cyfunol chi a’ch partner. Os ydych yn 18 oed neu'n hŷn, gallwch ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau Turn2us i gyfrifo hyn.

Gwiriwch a allwch chi gael budd-daliadau eraill

Os gallwch gael credydau treth gwaith mae'n bosibl y gallwch gael budd-daliadau eraill hefyd. Os ydych yn 18 oed neu'n hŷn, gallwch ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau Turn2us i weld pa fudd-daliadau y gallwch eu cael.

Camau nesaf 

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.