Sut mae taliadau Credyd Cynhwysol yn gweithio os ydych yn hunangyflogedig

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Gallai eich taliadau Credyd Cynhwysol newid – yn dibynnu ar faint yr ydych yn ei ennill.

Bob mis, mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn gwirio eich bod wedi ennill llai neu fwy na’r swm y maen nhw’n disgwyl i chi ei ennill. Gelwir y swm y mae’r DWP yn disgwyl i chi ei ennill bob mis yn ‘llawr isafswm incwm.' 

Mae’r llawr isafswm incwm yn wahanol i’r hyn rydych yn ei ennill mewn gwirionedd.

Os ydych yn ennill llai na’ch llawr isafswm incwm, bydd y DWP fel arfer yn gweithio allan eich taliad Credyd Cynhwysol fel pe byddech wedi ennill eich llawr isafswm incwm. 

Os byddwch yn ennill mwy na’ch llawr isafswm incwm, bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn seiliedig ar eich enillion gwirioneddol. 

Er enghraifft, os yw eich llawr isafswm incwm yn £1,200 a’ch bod yn ennill £800 – gallai’r DWP gyfrifo eich taliad Credyd Cynhwysol fel pe byddech wedi ennill £1,200. Mae hyn yn golygu y bydd y DWP yn cymryd mwy o arian oddi ar eich taliad Credyd Cynhwysol na phe byddent wedi defnyddio eich enillion gwirioneddol.   

Mae’n bosibl na fydd y DWP yn defnyddio’r llawr isafswm incwm i gyfrifo eich taliadau – er enghraifft os ydych yn sâl neu os nad ydych wedi hawlio Credyd Cynhwysol o’r blaen. Gwnewch ymholiadau i weld a yw’r llawr isafswm incwm yn berthnasol i chi cyn i chi gyfrifo eich taliadau.

Os nad ydych wedi hawlio Credyd Cynhwysol eto, gwiriwch i weld a allwch gael Credyd Cynhwysol.

Gwiriwch a fydd y llawr isafswm incwm yn berthnasol i chi

Gallai’r llawr isafswm incwm fod yn berthnasol i chi os ydych yn hunangyflogedig â thâl. Mae hyn yn golygu mai bod yn hunangyflogedig yw eich prif swydd, eich bod yn gweithio’n rheolaidd ac yn disgwyl gwneud elw. 

Bydd angen i chi hefyd fod yn y ‘grŵp gofynion sy’n gysylltiedig â gwaith’ – mae hyn yn golygu bod disgwyl i chi weithio neu chwilio am waith.

Os nad ydych mewn hunangyflogaeth â thâl a’r grŵp gofynion cysylltiedig â gwaith, ni fydd y DWP yn defnyddio’r llawr isafswm incwm – byddant yn defnyddio’r swm rydych wedi’i ennill mewn gwirionedd i gyfrifo’ch taliadau. 

Gallwch ganfod pa grŵp gweithgarwch sy’n gysylltiedig â gwaith yr ydych ynddo drwy edrych yn eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein.

Os nad oes gennych gyfrif ar-lein, gallwch ddod o hyd i’ch grŵp gweithgarwch sy’n gysylltiedig â gwaith ar eich papur ‘ymrwymiad hawlydd’. Os na allwch ddod o hyd i’ch ymrwymiad hawlydd, gofynnwch i’ch anogwr gwaith ym mha grŵp gweithgarwch sy’n gysylltiedig â gwaith yr ydych chi.

Efallai eich bod yn y grŵp gofynion sy’n gysylltiedig â gwaith pan na ddylech fod - er enghraifft, os ydych yn ofalwr neu’n gyfrifol am blant. Gwiriwch eich bod yn y grŵp gweithgarwch sy’n gysylltiedig â gwaith cywir.

Os ydych mewn hunangyflogaeth â thâl

Pan fydd DWP yn dweud eich bod mewn hunangyflogaeth â thâl, efallai na fyddant yn defnyddio’r llawr isafswm incwm ar unwaith – efallai y byddant yn defnyddio eich enillion gwirioneddol yn ei le. Gelwir hyn yn gyfnod cychwyn busnes ac mae’n para am flwyddyn. Ar ôl blwyddyn, gellir defnyddio’r llawr isafswm incwm i gyfrifo eich taliadau.

Os nad ydych yn gwybod a yw’r DWP wedi dweud eich bod mewn hunangyflogaeth â thâl, gofynnwch i’ch anogwr gwaith.

Ni fydd gennych gyfnod cychwyn busnes os:

  • defnyddiwyd y llawr isafswm incwm eisoes i gyfrifo eich enillion ar gyfer yr un gwaith hunangyflogedig 

  • ydych wedi cael cyfnod cychwyn busnes eisoes – ar gyfer unrhyw fusnes rydych wedi’i gael yn y 5 mlynedd diwethaf 

Yn ystod eich cyfnod cychwyn busnes, bydd angen i chi ddangos i’ch anogwr gwaith sut yr ydych yn tyfu eich busnes. Os na wnewch hyn, gall y DWP ddod â’ch cyfnod cychwyn busnes i ben yn gynnar a defnyddir y llawr isafswm incwm i gyfrifo eich taliadau.

Gallwch ddysgu mwy am dyfu busnes ar GOV.UK

Os ydych yn rhy sâl i weithio

Gallai’r DWP ddefnyddio eich enillion gwirioneddol yn hytrach na’r llawr isafswm incwm.

Os ydych yn rhy sâl i weithio ac mae’n effeithio ar eich gallu i wneud elw, ffoniwch y llinell gymorth Credyd Cynhwysol. Dywedwch wrthyn nhw am eich sefyllfa a’r hyd o amser yr ydych yn disgwyl bod yn sâl – efallai y byddant yn newid eich statws hunangyflogaeth â thâl.

Os ydych i ffwrdd yn sâl am 7 niwrnod neu fwy, bydd yn rhaid i chi gael nodyn ffitrwydd.

Gallwch gael nodyn ffitrwydd gan y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol canlynol:

  • eich meddyg teulu neu feddyg mewn ysbyty

  • nyrs gofrestredig

  • fferyllydd

  • therapydd galwedigaethol

  • ffisiotherapydd

Bydd eich nodyn ffitrwydd wedi’i argraffu neu’n fersiwn ddigidol. Os nad ydych yn siŵr pa fath y byddwch yn ei gael a sut y byddwch yn ei gael, holwch eich gweithiwr proffesiynol gofal iechyd.

Os cewch nodyn ffitrwydd wedi’i argraffu, gwnewch yn siŵr bod y gweithiwr proffesiynol gofal iechyd wedi’i lofnodi.

Os cewch nodyn ffitrwydd digidol, gwnewch yn siŵr ei fod yn cynnwys enw’r gweithiwr proffesiynol gofal iechyd.

Os na fydd y gweithiwr proffesiynol gofal iechyd wedi llofnodi eich nodyn ffitrwydd neu os nad ydynt wedi cynnwys eu henw, gallech gael eich gwrthod gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ac efallai y bydd angen i chi gael un newydd.

Dylech bob amser gadw eich nodyn ffitrwydd – efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am un newydd os byddwch yn ei golli neu’n ei ddileu.

Gallwch:

  • rhoi copi i DWP – naill ai wedi’i argraffu neu’n ddigidol

  • ei lwytho i adran ‘Rhestr i’w chyflawni’ eich cyfrif ar-lein

Dylech hefyd fynd â’ch nodyn ffitrwydd gyda chi y tro cyntaf y byddwch yn cwrdd â’ch anogwr gwaith. Os oes gennych nodyn ffitrwydd digidol, gallwch ei ddangos iddyn nhw ar eich ffôn neu ddyfais arall.

Efallai y bydd angen i chi roi copi o’ch nodyn ffitrwydd i DWP neu ei lwytho i’ch dyddiadur – holwch eich anogwr gwaith os nad ydych yn siŵr sut i wneud hyn.

Llinell Gymorth Credyd Cynhwysol

Ffôn: 0800 328 5644

Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744

Ffôn testun: 0800 328 1344

Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0800 328 5644

Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.

Fideo Relay - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Gallwch ddysgu sut i ddefnyddio fideo Relay ar YouTube.

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 6pm

Mae galwadau am ddim o ffonau symudol a llinellau tir.

Os nad yw’r llawr isafswm incwm yn berthnasol i chi

Bydd eich taliadau’n seiliedig ar faint yr ydych yn ei ennill mewn gwirionedd drwy hunangyflogaeth. Gwiriwch faint o Gredyd Cynhwysol y byddwch yn ei gael.

Rhaid i chi roi gwybod i DWP bob mis am eich enillion. Gwiriwch pa enillion y mae’n rhaid i chi roi gwybod amdanynt a sut i’w wneud.

Os bydd y DWP yn defnyddio’r llawr isafswm incwm pan na ddylent fod wedi gwneud hynny, efallai y gallwch herio eu penderfyniad.

Cyfrifo eich llawr isafswm incwm

Mae eich llawr isafswm incwm yn seiliedig ar yr isafswm cyflog cenedlaethol a’r nifer o oriau rydych wedi cytuno i’w gweithio pan wnaethoch gwrdd â’ch anogwr gwaith. Mae’r nifer o oriau yn eich cytundeb ysgrifenedig o’r enw ‘ymrwymiad hawlydd’.

I gyfrifo eich llawr isafswm incwm, mae angen i chi:

  1. Lluosi’r isafswm cyflog ar gyfer eich grŵp oedran gyda’r nifer o oriau y disgwylir i chi eu gweithio

  2. Lluosi’r rhif hwnnw â 52 

  3. Ei rannu â 12 i gael y ffigur misol

Y rhif sy’n weddill yw eich llawr isafswm cyflog. Gelwir hyn hefyd yn ‘drothwy enillion unigol’.  

Dyma’r cyfraddau isafswm cyflog cenedlaethol:

Amdanoch chi Cyfradd fesul awr (cyn treth)
Amdanoch chi

21 oed neu’n hŷn

Cyfradd fesul awr (cyn treth)

£11.44

Amdanoch chi

18-20 oed

Cyfradd fesul awr (cyn treth)

£8.60

Amdanoch chi

16-17 oed

Cyfradd fesul awr (cyn treth)

£6.40

Amdanoch chi

Prentisiaid 16-18 oed neu brentisiaid blwyddyn gyntaf os ydych dros 19 oed

Cyfradd fesul awr (cyn treth)

£6.40

Os yw eich llawr isafswm incwm dros £1,048, gallai’r DWP ei leihau ychydig am resymau treth ac Yswiriant Gwladol. Os hoffech wybod o faint y bydd eich llawr isafswm yn gostwng, siaradwch â chynghorydd.

Gwiriwch sut mae'r llawr isafswm incwm yn effeithio ar eich taliad

Bob mis, bydd y DWP naill ai’n defnyddio eich enillion gwirioneddol neu eich llawr isafswm incwm i gyfrifo eich taliad. Mae hyn yn dibynnu ar faint rydych wedi’i ennill ac a oes gennych bartner ai peidio.

Os ydych yn byw gyda phartner

Bydd y DWP yn edrych ar eich enillion wrth benderfynu i ddefnyddio’r llawr isafswm incwm ai peidio. 

Bydd angen i chi:

  • gyfrifo eich llawr isafswm incwm 

  • cyfrifo beth fyddai eich llawr isafswm incwm – i wneud hyn, defnyddiwch y broses i gyfrifo eich llawr isafswm incwm

  • ychwanegu swm eich partner i’ch llawr isafswm incwm

Dyma eich ‘trothwy enillion cyplau’. Os ydych chi a’ch partner wedi ennill mwy na’ch trothwy enillion cyplau, bydd DWP yn defnyddio faint rydych wedi’i ennill mewn gwirionedd i gyfrifo eich taliad Credyd Cynhwysol. Gwiriwch faint o Gredyd Cynhwysol y byddwch yn ei gael.

Os bydd eich enillion cyfunol yn llai na’ch trothwy enillion cyplau, bydd y DWP yn defnyddio eich llawr isafswm incwm unigol yn hytrach na’ch enillion gwirioneddol. Gallai enillion eich partner leihau eich llawr isafswm incwm. Mae hyn yn gyfrifiad cymhleth, siaradwch â chynghorydd.

Os nad ydych yn byw gyda phartner

Os ydych wedi ennill mwy na’ch llawr isafswm incwm, bydd y DWP yn defnyddio eich enillion gwirioneddol.

Os ydych wedi ennill llai na’ch llawr isafswm incwm, bydd y DWP yn cyfrifo eich taliad fel pe byddech wedi ennill y swm llawr isafswm incwm.

Pan fyddwch yn gwybod beth yw eich llawr isafswm incwm ac os bydd yn cael ei ddefnyddio i gyfrifo eich taliadau, gallwch gyfrifo faint o Gredyd Cynhwysol y byddwch yn ei gael.

Os oes angen cymorth arnoch i gyfrifo faint y byddwch yn ei gael, siaradwch â chynghorydd.

Enghraifft

Mae Ollie yn sengl ac yn gweithio fel peintiwr hunangyflogedig. Ei lawr isafswm incwm yw £1,167.33 y mis. 

Yn ystod mis Ionawr mae Olli yn ennill £400. Mae hyn yn golygu bod ei enillion yn is na’i lawr isafswm incwm. Bydd DWP yn cyfrifo ei daliad fel pe byddai wedi ennill ei lawr isafswm incwm - £1,167.33. 

Mae hyn yn golygu y bydd y DWP yn tynnu mwy oddi ar ei Gredyd Cynhwysol na phe byddent wedi defnyddio ei enillion gwirioneddol.

Adrodd eich enillion misol

Bydd yn rhaid i chi adrodd eich enillion bob mis i’r DWP.

Dysgwch pa enillion i‘w hadrodd a sut i wneud hyn.

Rheoli eich incwm a’ch treuliau o fis i fis

Os bydd eich enillion yn newid bob mis, bydd eich taliad Credyd Cynhwysol hefyd yn newid. Gall hyn ei gwneud yn anodd cyllidebu. 

Gallwch ofyn i CThEF adael i chi dalu treth incwm ac Yswiriant Gwladol yn fisol yn hytrach nac yn flynyddol – gelwir hyn yn ‘gynllun talu cyllideb’.

Dysgwch am ffyrdd eraill i gadw eich incwm a’ch treuliau hunangyflogedig yn fwy cyson ar y wefan Helpwr Arian.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 13 Mai 2021