Cymorth gyda dyled ac ôl-ddyledion rhent ar Gredyd Cynhwysol
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Efallai y gallwch gael cymorth ychwanegol os ydych chi’n cael trafferth gydag arian a’ch bod ar Gredyd Cynhwysol neu eich bod wedi gwneud cais amdano’n ddiweddar.
Cael arian yn gynnar os ydych chi newydd wneud cais
Fel arfer byddwch yn cael eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf 5 wythnos ar ôl gwneud cais.
Gallwch ofyn am gael eich taliad cyntaf yn gynt os ydych chi’n poeni na fydd gennych chi ddigon o arian i fyw - ‘taliad ymlaen llaw’ yw’r enw ar hyn.
Benthyciad yw’r taliad ymlaen llaw - mae’r ad-daliadau’n cael eu cymryd o’ch taliadau Credyd Cynhwysol yn awtomatig tan y byddwch chi wedi eu talu’n ôl. Dyma sut mae cael taliad ymlaen llaw.
Os ydych chi’n ad-dalu dyled
Os ydych chi’n talu credydwyr neu gwmni rheoli dyledion yn ôl, cysylltwch â nhw i egluro’r sefyllfa.
Dywedwch wrthyn nhw eich bod wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, ond na fyddwch yn cael eich taliad cyntaf am dipyn - dywedwch pryd os gallwch chi. Gofynnwch iddynt a fyddent yn fodlon derbyn taliad hwyr.
Mae’n syniad da gofyn iddynt rewi’r llog ar eich dyledion tan i chi gael eich talu.
Os ydych chi'n ad-dalu dyled, gall llunio cyllideb fod o gymorth. Defnyddiwch declyn cyllidebu i'ch helpu.
Gallwch hefyd weld a oes modd cael cymorth â'ch dyledion neu gysylltu â'ch Cyngor ar Bopeth agosaf am gyngor ar ddyledion.
Newid sut rydych chi’n cael eich talu
Gallwch wneud cais i’ch Credyd Cynhwysol gael ei dalu’n wahanol i’ch helpu i reoli eich arian - ‘trefniadau talu amgen’ yw’r enw ar hyn. Efallai y byddwch chi’n gallu:
trefnu i’ch costau tai gael eu talu’n syth i’ch landlord yn hytrach nag fel rhan o’ch taliad Credyd Cynhwysol
cael taliad Credyd Cynhwysol ddwywaith y mis yn hytrach nag unwaith y mis
cael taliadau Credyd Cynhwysol ar wahân i’ch partner
Pryd allwch chi gael trefniant talu amgen
Efallai y gallwch gael trefniant talu amgen os:
ydych chi mewn dyled neu os oes gennych ôl-ddyledion rhent
oes gennych chi anabledd - gan gynnwys cyflwr iechyd meddwl
ydych chi’n ddigartref neu mewn perygl o golli eich cartref
ydych chi wedi profi trais domestig
oes gennych chi anhawster dysgu, fel problemau darllen neu ysgrifennu
ydych chi mewn llety dros dro neu lety â chymorth
ydych chi’n 16 neu’n 17 oed neu’n gadael gofal
ydych chi’n gaeth i gyffuriau, alcohol neu gamblo
Os ydych chi’n cael anhawster ymdopi am resymau eraill, efallai y byddwch yn dal i gael eich ystyried - cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth agosaf am gymorth.
Gofyn am drefniant talu amgen
Os ydych chi’n gwneud cais am Gredyd Cynhwysol neu os ydych chi ar fin gwneud cais, dylech ofyn am y trefniant rydych chi am ei gael yn ystod eich cyfweliad.
Os ydych chi eisoes yn cael Credyd Cynhwysol, dylech ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol.
Llinell Gymorth Credyd Cynhwysol
Ffôn: 0800 328 5644
Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744
Ffôn testun: 0800 328 1344
Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0800 328 5644
Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.
Fideo Relay - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Gallwch ddysgu sut i ddefnyddio fideo Relay ar YouTube.
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 6pm
Mae galwadau am ddim o ffonau symudol a llinellau tir.
Os ydych chi ar ei hôl hi gyda’ch rhent
Gofynnwch am gyngor ar ddelio â'ch ôl-ddyledion rhent cyn gynted â phosibl - os oes arnoch chi lawer o arian, gallai’ch landlord geisio’ch troi allan.
Os ydych chi 2 fis neu fwy ar ei hôl hi gyda’ch rhent, gall eich landlord wneud cais i rywfaint o’ch Credyd Cynhwysol gael ei dalu’n uniongyrchol iddo. Bydd hyn yn eich helpu i dalu’ch dyled. Bydd angen i chi barhau i wneud eich taliadau rhent arferol hefyd.
Os yw’r toriadau hyn yn eich taliad yn golygu na allwch chi fforddio eitemau o ddydd i ddydd fel bwyd neu filiau, ffoniwch linell gymorth Credyd Cynhwysol. Efallai y byddant yn gallu rhoi llai o arian i’ch landlord ar gyfer ôl-ddyledion rhent.
Os ydych chi'n ystyried gostwng y taliadau ôl-ddyledion rhent o'ch Credyd Cynhwysol, dylech siarad â chynghorydd yn gyntaf. Efallai y bydd eich landlord yn ceisio cymryd camau pellach i'ch troi allan os nad yw’n derbyn y taliad mae’n ei ddisgwyl - mae hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau a'r math o gontract meddiannaeth sydd gennych.
Llinell Gymorth Credyd Cynhwysol
Ffôn: 0800 328 5644
Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744
Ffôn testun: 0800 328 1344
Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0800 328 5644
Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.
Fideo Relay - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Gallwch ddysgu sut i ddefnyddio fideo Relay ar YouTube.
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 6pm
Mae galwadau am ddim o ffonau symudol a llinellau tir.
Dylech ddweud wrth y llinell gymorth pa filiau sydd gennych a faint maen nhw’n ei gostio - cofiwch gynnwys biliau bwyd a rhent hefyd.
Taliadau Costau Byw
Anfonodd y llywodraeth y Taliad Cost Byw olaf o £299 yn ystod gwanwyn 2024. Nid ydynt wedi cyhoeddi unrhyw daliadau pellach.
Dylech fod wedi derbyn y taliad Cost Byw o £299 rhwng 6 a 22 Chwefror 2024. I gael y taliad, mae'n rhaid eich bod wedi cael Credyd Cynhwysol am gyfnod asesu sy'n dod i ben rhwng 13 Tachwedd a 12 Rhagfyr 2023.
Dylech fod wedi cael y taliad hyd yn oed os talwyd eich Credyd Cynhwysol i'ch landlord neu os na chawsoch eich talu oherwydd didyniadau.
Os na chawsoch y taliad olaf
Os ydych yn credu y dylech fod wedi derbyn Taliad Costau Byw, gallwch roi gwybod am daliad coll ar GOV.UK.
Os ydych chi'n dal i aros am benderfyniad ynglŷn â'ch cais
Os dechreuoch chi gais Credyd Cynhwysol erbyn 13 Tachwedd 2023 a'ch bod yn aros am benderfyniad, gallwch barhau i gael y Taliad Costau Byw. Ni fyddwch yn ei gael nes bod eich cais yn llwyddiannus.
Cael mwy o help gyda'ch rhent
Efallai y gallwch gael arian ychwanegol gan eich cyngor i helpu - gelwir hyn yn 'daliad disgresiwn at gostau tai' (TDGT). Bydd angen i chi fod yn cael rhan costau tai o Gredyd Cynhwysol.
Mae'n werth worth gwirio a allwch chi gael TDGT os ydych chi'n rhentu'n breifat. Mae yna ffordd wahanol o wirio a allwch chi gael TDGT mewn tai cymdeithasol.
Os ydych chi'n cael trafferth gydag arian
Mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i dorri lawr ar eich costau byw arferol. Gwiriwch beth i'w wneud os oes angen help arnoch gyda chostau byw.
Os ydych yn ei chael hi'n anodd talu eich biliau, gallwch gael help. Darganfyddwch fwy am gael help gyda'ch biliau.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 19 Mehefin 2018