Cadarnhau eich bod wedi derbyn y gosb gywir
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os ydych chi wedi’ch cosbi, dylech gadarnhau eich bod wedi’ch cosbi ar y lefel briodol ac wedi’ch cosbi am y cyfnod priodol.
Mae cael eich cosbi’n golygu y bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei ostwng dros dro.
Gallwch ofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau ailystyried y penderfyniad os ydych chi’n teimlo nad ydynt wedi rhoi’r gosb gywir i chi. Gelwir hyn yn ‘ailystyriaeth orfodol’.
Os nad ydych chi’n credu y dylech fod wedi’ch cosbi o gwbl, efallai bod dadleuon y gallwch chi eu defnyddio i newid y penderfyniad. Er enghraifft, os oedd gennych reswm da dros beidio â gwneud y gweithgaredd cysylltiedig â gwaith.
Yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch
Dylai manylion eich cosb fod yn eich ‘hysbysiad cosbi’. Bydd mewn llythyr neu, os ydych chi’n defnyddio’r gwasanaeth digidol, bydd ar gael yn eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein. Dylech gael gwybod:
pam eich bod wedi derbyn cosb
lefel y gosb rydych chi wedi’i chael
am faint y bydd y gosb yn para
faint o arian fydd yn cael ei gymryd i ffwrdd o’ch taliad Credyd Cynhwysol
y dyddiad y gwnaed y penderfyniad am y gosb
Rydych chi angen yr wybodaeth hon i gadarnhau eich bod wedi’ch cosbi yn gywir. Os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i’r wybodaeth, cysylltwch â Llinell Gymorth Credyd Cynhwysol a gofynnwch iddyn nhw am gopi. Wrth i chi weithio’ch ffordd drwy’r archwiliadau hyn, efallai y byddwch am wneud nodiadau rhag ofn eich bod am apelio yn erbyn y gosb ar y diwedd.
Llinell Gymorth Credyd Cynhwysol
Ffôn: 0800 328 5644
Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744
Ffôn testun: 0800 328 1344
Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0800 328 5644
Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.
Fideo Relay - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Gallwch ddysgu sut i ddefnyddio fideo Relay ar YouTube.
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 6pm
Mae galwadau am ddim o ffonau symudol a llinellau tir.
Cael cymorth
Gall fod yn gymhleth cadarnhau a ydych chi wedi cael y gosb gywir ai peidio.
Os hoffech chi gael ychydig o help gyda hyn, neu os hoffech chi ddeall y manylion yn eich llythyr cosbi, gallwch siarad â chynghorydd.
Gwiriad 1 - Ydych chi wedi derbyn y lefel briodol o gosb ar gyfer eich grŵp cysylltiedig â gwaith (neu ‘amodoldeb’)?
Mae gwahanol lefelau o gosb yn dibynnu ar ba grŵp gweithgaredd cysylltiedig â gwaith (neu ‘amodoldeb’) rydych chi’n perthyn iddo. Gallwch weld i ba grŵp rydych chi’n perthyn yn eich ymrwymiad hawliwr neu yn yr hysbysiad cosbi gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Neu gallwch holi eich Canolfan Waith leol.
Grŵp dim gofynion cysylltiedig â gwaith
Allwch chi ddim cael eich cosbi os ydych chi yn y 'grŵp dim gofynion cysylltiedig â gwaith’.
Grŵp cyfweliad sy’n canolbwyntio ar waith yn unig
Byddwch yn cael y gosb lefel isaf os ydych chi yn y 'grŵp cyfweliad sy’n canolbwyntio ar waith yn unig'. Byddwch yn cael y gosb hon am fethu â mynd i gyfweliad sy'n canolbwyntio ar waith yn y Ganolfan Waith heb reswm da.
Grŵp paratoi ar gyfer gwaith yn unig
Byddwch yn cael cosb lefel isel os ydych chi yn y 'grŵp paratoi ar gyfer gwaith yn unig' ac nad ydych yn cyflawni tasgau yn y rhannau canlynol o'ch ymrwymiad hawliwr:
y cyfweliad sy'n canolbwyntio ar waith yn y Ganolfan Waith
y gofyniad paratoi ar gyfer gwaith, fel gwrthod cymryd rhan mewn cynllun hyfforddi
gweithgareddau sydd wedi'u rhestru'n benodol o dan y gofyniad chwilio am waith, fel peidio â gwneud cais am swydd benodol
cydweithredu ag ymholiadau'r Ganolfan Waith i weld a ydych chi'n bodloni'ch gofynion cysylltiedig â gwaith, fel methu â chofrestru neu roi gwybod am newidiadau cysylltiedig â gwaith fel colli cyflog
Grŵp holl ofynion cysylltiedig â gwaith
Os ydych chi yn y 'grŵp holl ofynion cysylltiedig â gwaith', byddwch yn cael cosb lefel isel, cosb lefel ganolig neu gosb lefel uwch.
Byddwch yn cael cosb lefel isel os nad ydych chi'n cwblhau tasgau yn y rhannau canlynol o'ch ymrwymiad hawliwr:
y cyfweliad sy'n canolbwyntio ar waith yn y Ganolfan Waith
y gofyniad paratoi ar gyfer gwaith, fel gwrthod cymryd rhan mewn cynllun hyfforddi
gweithgareddau sydd wedi'u rhestru'n benodol o dan y gofyniad chwilio am waith, fel peidio â gwneud cais am swydd benodol
cydweithredu ag ymholiadau'r Ganolfan Waith i weld a ydych chi'n bodloni'ch gofynion cysylltiedig â gwaith, fel methu â chofrestru neu roi gwybod am newidiadau cysylltiedig â gwaith fel colli cyflog
Byddwch yn cael cosb lefel ganolig os byddwch chi'n methu â gwneud y canlynol:
cymryd pob cam rhesymol i gael gwaith am dâl, mwy o waith am dâl neu waith sy'n talu'n well. Dyma rywbeth y mae'n rhaid i chi ei wneud fel rhan o'r gofyniad chwilio am waith, er enghraifft, chwilio am swyddi ar-lein
bodloni'r gofyniad i fod ar gael i weithio. Fel arfer mae'r gofyniad hwn yn golygu bod rhaid i chi allu gwneud gwaith am dâl ar unwaith, a bod yn barod i wneud hynny
Mae cosb lefel uwch yn gosb ar gyfer mathau penodol o fethiannau i wneud gwaith. Er enghraifft, gallech gael cosb lefel uwch am y canlynol:
methu â chymryd rhan yn y Cynllun Gweithgareddau Gwaith Gorfodol
methu â gwneud cais am swydd am dâl
methu â derbyn cynnig ar gyfer swydd am dâl
rhoi'r gorau i weithio’n wirfoddol heb reswm da, neu oherwydd eich bod wedi camymddwyn
derbyn cyflog is heb reswm da, neu oherwydd eich bod wedi camymddwyn
Mae pob achos yn cael ei asesu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ar sail unigol i benderfynu beth sy’n cyfrif fel ‘rheswm da’. Gallai fod yn bethau fel cyflwr sy’n golygu y gallai’r swydd achosi niwed sylweddol i’ch iechyd, neu efallai fod gennych gyfrifoldebau gofalu sy’n ei gwneud yn afresymol i chi fodloni’r gofyniad neu barhau i weithio. Os nad ydych yn siŵr, dylech siarad â chynghorydd.
Gwiriad 2 - Ydych chi wedi’ch cosbi am y cyfnod cywir?
Mae hyd y cyfnod y byddwch chi’n cael eich cosbi yn dibynnu ar lefel eich cosb, eich oedran ac a ydych chi wedi’ch cosbi o’r blaen.
Ni all unrhyw gosb bara mwy na 182 diwrnod. Os yw’r Adran Gwaith a Phensiynau yn eich cosbi ddwywaith neu fwy, mae’r cosbau yn dilyn ei gilydd fel arfer. Fodd bynnag, ni chânt bara am gyfanswm o fwy na 182 diwrnod.
Cyfnodau cosb lefel isaf
Byddwch yn cael eich cosbi o'r dyddiad y gwnaethoch chi fethu â chyflawni'r gweithgaredd cysylltiedig â gwaith nes i chi gydymffurfio â'r gweithgaredd cysylltiedig â gwaith eto, neu tan nad oes angen i chi gydymffurfio mwyach.
Efallai na fydd angen i chi gydymffurfio mwyach os bydd eich hawliad Credyd Cynhwysol yn dod i ben neu'ch bod yn symud i grŵp amodoldeb cysylltiedig â gwaith arall.
Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn eich cosbi am fethu â mynychu cyfweliad sy'n canolbwyntio ar waith ar 25 Mehefin. Rydych chi'n dod i'ch cyfweliad nesaf ar 26 Gorffennaf. Mae 31 diwrnod rhwng 25 Mehefin a'r diwrnod cyn 26 Gorffennaf, felly hyd eich cyfnod cosbi lleiaf yw 31 diwrnod.
Rydych chi'n methu mynd i gyfweliad sy'n canolbwyntio ar waith ar 25 Mehefin. Nid oes rhaid i chi gwrdd â'r gofynion cysylltiedig â gwaith o 1 Gorffennaf am eich bod chi'n feichiog ac mae disgwyl i chi roi genedigaeth o fewn un ar ddeg wythnos. Mae 6 diwrnod rhwng 25 Mehefin a'r diwrnod cyn 1 Gorffennaf, felly hyd eich cyfnod cosbi lleiaf yw 6 diwrnod.
Cyfnodau cosb lefel isaf
Ar gyfer cosbau lefel isel, byddwch yn cael eich cosbi o'r dyddiad i chi fethu â chyflawni'r gweithgaredd cysylltiedig â gwaith nes i chi gydymffurfio â'r gweithgaredd cysylltiedig â gwaith eto neu tan nad oes yn rhaid i chi gydymffurfio mwyach, ynghyd â chyfnod penodol o 7, 14 neu 28 diwrnod ychwanegol. Mae'n bosibl na fydd angen i chi gydymffurfio â'r gweithgaredd cysylltiedig â gwaith mwyach os yw'ch hawliad Credyd Cynhwysol yn dod i ben neu'ch bod yn newid grŵp amodoldeb cysylltiedig â gwaith.
Os ydych chi wedi cael cosb lefel isel o’r blaen
Bydd cyfnod eich cosb yn cynnwys cyfnod penodol o 14 diwrnod os ydych chi wedi cael cosb lefel isel o'r blaen a:
bod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi rhoi cosb lefel isel i chi o'r blaen am fethiant yn y 364 diwrnod cyn eich methiant cyfredol, er bydd methiannau cosbadwy yn y 13 diwrnod cyn y methiant hwn yn cael eu diystyru
bod y gosb flaenorol yn cynnwys cyfnod sefydlog o saith diwrnod ychwanegol
Bydd cyfnod eich cosb yn cynnwys cyfnod penodol o 28 diwrnod os ydych chi wedi cael cosb lefel isel o'r blaen a:
bod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi rhoi cosb lefel isel i chi am fethiant yn y 364 diwrnod cyn eich methiant cyfredol, er bydd methiannau cosbadwy yn y 13 diwrnod cyn y methiant hwn yn cael eu diystyru
bod y gosb yn cynnwys cyfnod sefydlog o 14 diwrnod ychwanegol
Mae'r cyfnod sefydlog bob amser yn para saith diwrnod os ydych chi'n 16 neu 17 oed ar ddyddiad y methiant y cawsoch eich cosbi amdano, ac os ydych chi wedi cael cosb lefel isel o'r blaen.
Cyfnodau cosb lefel ganolig
Os ydych chi’n 18 oed neu'n hŷn
Os ydych chi'n 18 oed neu’n hŷn, mae cosb lefel ganolig fel arfer yn para 28 diwrnod. Mae’n rhaid i chi fod yn 18 oed neu'n hŷn ar ddyddiad y methiant a arweiniodd at y gosb.
Fodd bynnag, mae cosb lefel ganolig yn para 91 diwrnod os ydych chi eisoes wedi cael cosb lefel ganolig am fethiant yn y 364 diwrnod cyn eich methiant cyfredol, er bydd methiannau cosbadwy yn y 13 diwrnod cyn y methiant hwn yn cael eu diystyru.
Os ydych chi’n 16 neu 17 oed
Os ydych chi'n 16 neu 17 oed, mae cosb lefel ganolig fel arfer yn para 7 diwrnod. Mae’n rhaid i chi fod yn 16 neu 17 oed ar ddyddiad y methiant a arweiniodd at y gosb.
Fodd bynnag, mae cosb lefel ganolig yn para 14 diwrnod os ydych chi eisoes wedi cael cosb lefel ganolig am fethiant yn y 364 diwrnod cyn eich methiant cyfredol, er bydd methiannau cosbadwy yn y 13 diwrnod cyn y methiant hwn yn cael eu diystyru.
Cyfnodau cosb lefel uwch
Os ydych chi’n 18 oed neu'n hŷn
Os ydych chi'n 18 oed neu’n hŷn, mae cosb lefel uwch fel arfer yn para 91 diwrnod. Mae’n rhaid i chi fod yn 18 oed neu'n hŷn ar ddyddiad y methiant a arweiniodd at y gosb.
Fodd bynnag, mae cosb lefel uwch yn para 182 diwrnod os ydych chi eisoes wedi cael cosb lefel uwch 91 diwrnod am fethiant yn y 364 diwrnod cyn eich methiant cyfredol, er bydd methiannau cosbadwy yn y 13 diwrnod cyn y methiant hwn yn cael eu diystyru.
Os ydych chi’n 16 neu 17 oed
Os ydych chi'n 16 neu 17 oed, mae cosb lefel uwch fel arfer yn para 14 diwrnod. Mae’n rhaid i chi fod yn 16 neu 17 oed ar ddyddiad y methiant sy’n arwain at y gosb.
Fodd bynnag, mae cosb lefel uwch yn para 28 diwrnod os ydych chi eisoes wedi cael cosb lefel uwch 14 neu 28 diwrnod am fethiant yn y 364 diwrnod cyn eich methiant cyfredol, er bydd methiannau cosbadwy yn y 13 diwrnod cyn y methiant hwn yn cael eu diystyru.
Os ydych chi'n rhoi'r gorau i weithio neu'n derbyn cyflog is cyn hawlio Credyd Cynhwysol
Weithiau rydych chi'n gallu cael cosb lefel uwch os ydych chi wedi gwneud un o'r canlynol cyn i chi hawlio Credyd Cynhwysol:
gwrthod cynnig am swydd o'ch gwirfodd heb reswm da
rhoi'r gorau i weithio’n wirfoddol heb reswm da, neu oherwydd eich bod wedi camymddwyn
derbyn cyflog is o'ch gwirfodd heb reswm da
Os oeddech chi'n gwneud gwaith am dâl cyn hawlio Credyd Cynhwysol a oedd ond am bara cyfnod cyfyngedig a bod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi rhoi cosb lefel uwch i chi am eich bod wedi rhoi'r gorau i'r gwaith hwn neu wedi derbyn cyflog is, mae cyfnod cosb arbennig yn berthnasol.
Ni all cyfnod y gosb bara'n hirach na'r dyddiad yr oedd eich cyflogaeth am ddod i ben.
Os ydych chi yn y sefyllfa hon, dilynwch y camau isod i weld pa mor hir ddylai cyfnod eich cosb bara.
Cam 1 - Sawl diwrnod sydd rhwng y diwrnod ar ôl y dyddiad i chi roi'r gorau i weithio neu dderbyn cyflog is a'r diwrnod cyn y dyddiad yr oedd disgwyl i'ch gwaith ddod i ben?
Cam 2 - Sawl diwrnod sydd rhwng y diwrnod ar ôl y dyddiad i chi roi'r gorau i weithio neu dderbyn cyflog is a'r diwrnod cyn y dyddiad i chi gyflwyno'ch hawliad Credyd Cynhwysol?
Cam 3 - Tynnwch nifer y diwrnodau i chi gyfrifo yng ngham 2 o nifer y diwrnodau i chi gyfrifo yng ngham 1.
Cam 4 - Mae'r gosb lefel uwch yn para am y lleiaf o'r 2 gyfnod isod:
y cyfnod i chi gyfrifo yng ngham 3
hyd arferol cosb lefel uwch
Cam 1: Roedd disgwyl i'ch gwaith tymor byr ddod i ben ar 6 Gorffennaf, ond fe wnaethoch chi roi’r gorau iddi o'ch gwirfodd ar 6 Mehefin. Mae 29 diwrnod rhwng y ddau ddyddiad dan sylw.
Cam 2: Roeddech chi wedi cyflwyno eich hawliad am Gredyd Cynhwysol ar 20 Mehefin. Mae 13 diwrnod rhwng y dyddiad i chi roi'r gorau i'ch swydd a chyflwyno eich hawliad.
Cam 3: 29 - 13 = 16
Cam 4: Y byrraf o'r cyfnodau o 16 (Cam 3) a 91 (hyd arferol cosb lefel uwch) yw 16. Felly bydd eich cosb yn para 16 diwrnod.
Y camau nesaf
Gofynnwch i’r Adran Gwaith a Phensiynau ailystyried y penderfyniad os ydych chi’n teimlo nad ydynt wedi rhoi’r gosb gywir i chi. Gelwir hyn yn ‘Ailystyriaeth Orfodol’. Os yw’r Adran Gwaith a Phensiynau yn gwrthod newid y penderfyniad, gallwch apelio.
Os hoffech chi gael cymorth gyda hyn, siaradwch â chynghorydd.
Cael taliad caledi
Os ydych chi wedi’ch cosbi ac yn cael trafferth talu’ch biliau, gallwch wneud cais am daliad caledi gan Gredyd Cynhwysol.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 19 Mehefin 2018