Beth i’w wneud os ydych chi wedi’ch cosbi tra’ch bod ar Gredyd Cynhwysol

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os nad ydych chi wedi gwneud un o’r gweithgareddau yn eich ymrwymiad hawliwr, gallech gael eich cosbi. Mae hyn yn golygu y bydd eich taliadau Credyd Cynhwysol yn cael eu gostwng dros dro.

Gwneud cais am daliad caledi

Os ydych chi’n cael trafferthion ariannol oherwydd y gosb, gallwch:

Os ydych chi’n credu’ch bod wedi’ch cosbi’n annheg

Gallwch ofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau ailystyried y penderfyniad os ydych chi’n credu eich bod wedi’ch cosbi yn annheg. Gelwir hyn yn ‘ailystyriaeth orfodol’ - bydd y manylion cyswllt yn y llythyr a anfonwyd atoch am eich cosb.

Bydd angen i chi ddweud wrthynt pam eich bod yn credu bod y gosb yn anghywir. Gallwch baratoi drwy wneud y canlynol:

Siaradwch â chynghorydd os oes angen help arnoch gyda’r mater hwn.

Beth sy’n digwydd nesaf 

Byddwch yn cael llythyr yn dweud wrthych am y penderfyniad - efallai y caiff ei newid neu gallech gael esboniad pam bod y gosb yn cael ei chynnal. 

Bydd y llythyr yn dweud wrthych sut gallwch chi apelio i dribiwnlys os ydych chi’n dal yn anhapus â’r penderfyniad.

Sut i osgoi cosb arall

Cael ymrwymiad hawliwr sy’n iawn i chi

Dylech holi eich hyfforddwr gwaith ynglŷn â newid eich ymrwymiad hawliwr os ydych chi’n cael trafferth bodloni’r amodau y cytunwyd arnynt. 

Darllenwch ein cyngor ar newid eich ymrwymiad hawliwr.

Os na allwch fynd i apwyntiad mewn Canolfan Waith

Os na allwch fynd i apwyntiad yn y Ganolfan Waith, ffoniwch i roi gwybod cyn gynted â phosibl - eglurwch eich rhesymau a gofynnwch am gael aildrefnu. Nodwch ddyddiad ac amser yr alwad, gyda phwy rydych chi’n siarad a beth gafodd ei ddweud.

Os oes angen cymorth arnoch gyda chostau teithio i apwyntiadau, holwch y Ganolfan Waith ynghylch y cymorth sydd ar gael.

Tystiolaeth o weithgareddau cysylltiedig â gwaith

Cadwch ddyddiadur bob wythnos o’r hyn rydych chi wedi’i wneud i fodloni amodau eich ymrwymiad hawliwr. Er enghraifft, y dyddiad y gwnaethoch chwilio am swydd ar-lein a faint o amser wnaethoch chi ei dreulio’n gwneud hynny. Os oes rhywbeth nad ydych chi wedi gallu ei wneud, byddwch yn barod i egluro pam. Os oes rheswm, ceisiwch gael tystiolaeth i’w dangos i’r Ganolfan Waith. Er enghraifft, gwnewch yn siŵr eich bod yn cael nodyn gan y meddyg os oeddech chi’n sâl.

Rhoi gwybod am newidiadau mewn amgylchiadau

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth linell gymorth Credyd Cynhwysol ar unwaith am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau personol.

Llinell Gymorth Credyd Cynhwysol

Ffôn: 0800 328 5644

Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744

Ffôn testun: 0800 328 1344

Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0800 328 5644

Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.

Fideo Relay - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Gallwch ddysgu sut i ddefnyddio fideo Relay ar YouTube.

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 6pm

Mae galwadau am ddim o ffonau symudol a llinellau tir.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 19 Mehefin 2018