Mynd i'ch asesiad meddygol ar gyfer Credyd Cynhwysol

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os na allwch chi weithio oherwydd eich bod yn sâl neu'n anabl, byddwch fel arfer yn cael asesiad meddygol i weld a ddylai eich Credyd Cynhwysol newid.

Os oes angen asesiad arnoch, byddwch yn derbyn llythyr amdano ar ôl i chi ddychwelyd y ffurflen am eich cyflwr iechyd neu eich anabledd. Gelwir y ffurflen yn 'UC50'.

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn defnyddio'r asesiad i benderfynu:

  • os na allwch weithio neu baratoi i weithio o gwbl - a elwir yn ‘allu cyfyngedig ar gyfer gweithgarwch sy’n gysylltiedig â gwaith’ (LCWRA);

  • os na allwch weithio nawr, ond gallwch baratoi i weithio yn y dyfodol - a elwir yn 'allu cyfyngedig i weithio' (LCW);

  • os gallwch chi weithio neu chwilio am waith nawr.

Gwiriwch pwy fydd yn darparu eich asesiad

Dylai eich llythyr ddweud pwy yw eich darparwr asesiad. Gallwch ddod o hyd i'w manylion cyswllt ar eu gwefan:

Os nad ydych yn siŵr pwy yw eich darparwr asesiad, gallwch ddod o hyd i’ch darparwr asesiad ar GOV.UK.

Gwiriwch pryd a ble y bydd eich asesiad yn cael ei gynnal

Byddwch yn derbyn llythyr gan ddarparwr eich asesiad, yn dweud wrthych pryd a ble y cynhelir eich asesiad.

Dylech gael o leiaf 7 diwrnod o rybudd cyn yr asesiad.

Efallai y bydd yr asesiad yn digwydd ychydig fisoedd ar ôl i chi ddychwelyd eich ffurflen UC50. Byddwch yn dal i gael Credyd Cynhwysol tan yr asesiad. Ni fydd y swm a gewch yn newid.

Os ydych chi'n dal i aros am lythyr ar ôl 3 mis, ffoniwch y llinell gymorth Credyd Cynhwysol neu dywedwch wrth eich hyfforddwr gwaith.

Llinell Gymorth Credyd Cynhwysol

Ffôn: 0800 328 5644

Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744

Ffôn testun: 0800 328 1344

Relay UK – Os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio’r hyn rydych eisiau ei ddweud: 18001 yna 0800 328 5644

Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes unrhyw dâl ychwanegol i’w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.

Fideo relay – os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Gallwch ddysgu sut i ddefnyddio fideo relay ar YouTube.

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm

Mae galwadau am ddim o’r rhan fwyaf o ffonau symudol a llinellau tir.

Gwiriwch ble y bydd eich asesiad yn cael ei gynnal

Bydd y llythyr yn dweud wrthych a yw’r asesiad:

  • mewn canolfan asesu

  • ar y ffôn

  • ar alwad fideo

Os na allwch chi wneud yr asesiad fel maen nhw wedi dweud wrthych chi, gallwch ofyn a fyddan nhw’n gallu cynnal yr asesiad mewn ffordd wahanol. Gallwch hefyd ofyn am addasiadau eraill, neu fynd â rhywun gyda chi i'r asesiad.

Os oes angen i chi newid yr asesiad neu ofyn am addasiadau

Dywedwch wrth ddarparwr eich asesiad cyn gynted ag y gallwch. Os byddwch yn methu'r asesiad heb hysbysu’r darparwr, efallai y bydd y DWP yn penderfynu eich bod yn gallu gweithio.

Efallai mai dim ond unwaith y gallwch newid y dyddiad, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cytuno ar ddyddiad y gallwch ei fynychu. Er enghraifft, gallech gael eich calendr wrth law pan fyddwch yn ffonio, neu wirio ymlaen llaw pa ddyddiadau na allwch fynychu asesiad.

Dylech hefyd ofyn am unrhyw addasiadau y byddai eu hangen arnoch - er enghraifft:

  • i fynd i fyny ac i lawr grisiau

  • i godi allan o gadair mewn ystafell aros

  • i symud o ystafell i ystafell

Os na allwch chi deithio i’r ganolfan asesu, gallwch ofyn i’r aseswyr am asesiad dros y ffôn neu drwy alwad fideo. Does dim rhaid i chi roi unrhyw dystiolaeth newydd i ddangos pam eich bod am newid yr asesiad. Byddan nhw’n penderfynu ar sail yr hyn rydych chi’n ei ddweud wrthyn nhw a’r dystiolaeth rydych chi wedi’i hanfon yn barod.

Os nad oes modd i chi wneud asesiad dros y ffôn neu alwad fideo, gallwch ofyn i asesydd ddod i'ch cartref. Bydd angen i chi roi tystiolaeth iddyn nhw i ddangos pam na allwch chi deithio. Er enghraifft, gallech ddarparu llythyr gan eich meddyg teulu neu weithiwr meddygol proffesiynol arall.

Gwiriwch beth i’w ddisgwyl yn yr asesiad

Bydd eich asesiad gydag asesydd sy’n weithiwr meddygol proffesiynol – e.e. meddyg, nyrs neu ffisiotherapydd. Mae’r DWP yn eu galw’n ‘weithwyr gofal iechyd proffesiynol cymeradwy’.

Bydd yr asesydd yn gofyn cwestiynau i chi ac efallai y bydd yn cynnal archwiliad corfforol. Byddant yn anfon adroddiad at y DWP, a fydd yn penderfynu a oes angen i chi weithio neu baratoi i weithio.

Bydd yr asesydd yn siarad â chi am eich hanes meddygol a gweithgareddau y gallwch eu gwneud mewn un diwrnod. Byddant hefyd yn gofyn cwestiynau i ganfod sut mae eich cyflwr iechyd neu eich anabledd yn effeithio ar eich gallu i wneud amrywiaeth o weithgareddau bob dydd.

Os ydyn nhw eisiau gwneud archwiliad corfforol, byddan nhw’n gofyn am eich caniatâd. Dylech wneud cymaint o’r archwiliad ag yr ydych yn teimlo’n gyfforddus yn ei wneud. Rhowch wybod iddyn nhw os nad ydych chi’n gyfforddus ag unrhyw beth.

Peidiwch gorfodi eich hun i wneud pethau yn yr asesiad na fyddech fel arfer yn gallu eu gwneud. Os byddwch yn eu gwneud ar ddiwrnod yr asesiad, efallai y bydd yr asesydd yn meddwl y gallwch chi eu gwneud bob amser.

Os ydych chi eisiau mynd â rhywun gyda chi

Gallwch ofyn i rywun fynychu'r asesiad gyda chi - er enghraifft ffrind, aelod o'r teulu neu weithiwr gofal.

Efallai y byddwch chi am iddyn nhw eich cefnogi chi, neu ddweud pethau wrth yr asesydd amdanoch chi os ydych chi’n ei chael hi’n anodd. Er enghraifft, gallant siarad â'r asesydd os oes gennych gyflwr iechyd meddwl sy’n ei gwneud yn anodd i chi siarad.

Gallant hefyd gymryd nodiadau fel bod gennych eich cofnod eich hun o'r hyn a ddigwyddodd yn yr asesiad. Os bydd angen i chi herio penderfyniad y DWP yn nes ymlaen, gallwch ddefnyddio'r nodiadau i'ch atgoffa eich hun o'r hyn a ddigwyddodd.

Os hoffech i’ch asesiad gael ei recordio

Efallai y bydd darparwr eich asesiad yn gallu gwneud recordiad sain o’r asesiad. Er enghraifft, efallai y byddwch am iddynt ei recordio er mwyn i chi allu cofio’r hyn a ddywedoch yn ddiweddarach.

Os ydych chi am i’ch asesiad gael ei recordio, cysylltwch â’ch darparwr gwasanaeth cyn gynted â phosibl.

Paratoi beth i’w ddweud wrth yr asesydd

Mae'n bwysig dweud wrth yr asesydd am yr holl heriau sydd gennych, er mwyn iddynt allu gwneud y penderfyniad cywir.

Gallwch ysgrifennu rhestr o’r pethau y mae angen i chi eu dweud wrthynt, a’i defnyddio yn ystod yr asesiad. Bydd angen i chi rannu’r canlynol gyda’r asesydd:

  • sut beth yw diwrnod i chi fel arfer

  • pa mor aml rydych yn cael diwrnodau da a drwg

  • pa fath o bethau rydych chi’n cael trafferth eu gwneud, neu nad ydych chi’n gallu eu gwneud o gwbl – er enghraifft, cerdded i fyny grisiau heb help, neu gofio mynd i apwyntiadau

  • os bydd rhywbeth yn mynd yn anoddach, y mwyaf y byddwch yn ei wneud - er enghraifft, os mai dim ond unwaith y dydd y gallwch wneud rhywbeth

Er enghraifft, efallai y bydd yr asesydd yn gofyn a ydych chi’n mynd i siopa mewn archfarchnad. Mae’n iawn dweud wrthyn nhw os na allwch chi wneud rhywbeth. Mae hefyd yn iawn os yw’r profiad yn anodd neu’n anrhagweladwy i chi, neu os oes angen help arnoch chi. Os nad ydych chi’n dweud wrth yr asesydd, efallai y byddan nhw’n tybio y gallwch chi gerdded o gwmpas yr archfarchnad ar eich pen eich hun pryd bynnag y bydd angen.

Os oes gennych chi gopi o’ch ffurflen UC50, gallech wirio eich atebion ar y ffurflen i wneud yn siŵr nad ydych chi’n anghofio unrhyw beth.

Os ydych chi'n mynd i ganolfan asesu

Byddwch yn cael eich asesu cyn gynted ag y byddwch yn cyrraedd y ganolfan. Bydd yr asesydd hefyd yn gofyn am bopeth rydych chi wedi’i wneud y diwrnod hwnnw.

Er enghraifft, efallai y bydd yr asesydd yn gofyn i chi sut y cyrhaeddoch chi’r ganolfan asesu. Os byddwch chi’n dweud eich bod wedi dod ar y bws, byddan nhw’n nodi y gallwch chi deithio ar eich pen eich hun ar drafnidiaeth gyhoeddus. Dywedwch wrthynt:

  • os cawsoch unrhyw anawsterau yn cyrraedd y ganolfan asesu

  • os gwnaeth rhywun arall eich helpu i gynllunio’r daith

  • os ydy defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn anodd ar adegau

Efallai y bydd yr asesydd yn gofyn am ba hyd rydych chi wedi bod yn eistedd yn yr ystafell aros cyn yr asesiad. Os byddwch chi’n dweud ‘hanner awr’, byddan nhw’n nodi y gallwch chi eistedd ar gadair gyffredin am o leiaf 30 munud. Dywedwch wrthyn nhw os oeddech chi’n teimlo’n anghyfforddus, neu os oedd angen i chi godi a cherdded o gwmpas oherwydd nad oeddech chi’n gallu eistedd am gyfnod mor hir. Dylech hefyd ddweud wrthynt os mai dim ond ar rai diwrnodau y gallwch wneud hynny.

Cynlluniwch beth arall fydd ei angen arnoch yn yr asesiad

Bydd angen i chi ddod â dogfen adnabod gyda chi i’ch asesiad. Fel arfer, pasbort yw'r peth gorau. Os nad oes gennych basbort, bydd angen i chi fynd â 3 math gwahanol o ddogfen adnabod gyda chi. Gallwch ddefnyddio:

  • eich tystysgrif geni

  • eich trwydded yrru

  • datganiad banc diweddar sy'n dangos eich enw a'ch cyfeiriad

  • bil nwy neu drydan

Dylech hefyd fynd â’r canlynol gyda chi:

  • unrhyw feddyginiaeth sydd ei hangen arnoch

  • unrhyw gymhorthion rydych yn eu defnyddio - er enghraifft sbectol, teclyn cymorth clyw neu ffon gerdded

  • copi o’ch ffurflen UC50, os oes gennych chi un

  • derbynebau teithio a manylion banc, os ydych chi'n mynd i ganolfan asesu - mae hyn er mwyn i chi allu hawlio'r arian yn ôl

  • unrhyw wybodaeth feddygol ychwanegol nad yw’r DWP wedi’i gweld o bosib

Er enghraifft, dewch ag unrhyw lythyrau gan eich meddyg teulu neu arbenigwr a ddaeth ar ôl i chi anfon eich ffurflen UC50. Os ydych chi’n mynd i ganolfan asesu a bod angen i chi gadw’r llythyrau gwreiddiol, cymerwch gopïau ar gyfer yr asesydd.

Cynllunio sut i gyrraedd eich asesiad

Dylech feddwl am sut y byddwch yn cyrraedd yno cyn dyddiad eich asesiad. Efallai y byddwch am wneud y canlynol:

  • caniatáu amser ychwanegol os ydych chi’n ei chael hi’n anodd teithio

  • cynlluniwch eich llwybr fel eich bod yn gwybod beth i'w ddisgwyl - gallai hyn fod o gymorth os yw bod mewn mannau cyhoeddus yn achosi straen

  • gofyn i ffrind neu aelod o'r teulu eich helpu i gynllunio'r daith os na allwch chi wneud hynny eich hun

  • archebu eich tocynnau teithio ymlaen llaw

Hawlio eich costau teithio yn ôl

Gallwn dalu eich costau teithio'n ôl i'ch cyfrif banc. Bydd y derbynnydd yn eich helpu i lenwi ffurflen hawlio.

Gallwch hefyd hawlio costau ar ran unrhyw un sydd angen dod gyda chi.

Os oes angen i chi deithio mewn tacsi neu os ydych chi am hawlio treuliau ar gyfer rhywun arall, dywedwch wrth ddarparwr eich asesiad cyn gwneud unrhyw drefniadau.

Os ydych chi’n teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus

Dylech gadw:

  • tocynnau bws

  • tocynnau trên

  • tocynnau tramiau

  • unrhyw docynnau neu dderbynebau eraill sy’n dangos eich bod wedi talu i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus

Os ydych chi’n teithio mewn car

Gallwch hawlio eich costau tanwydd a pharcio yn ôl. Bydd y DWP yn penderfynu faint i'w dalu am danwydd ar sail y pellter o'ch cartref i'r ganolfan asesu.

Dylech gadw eich tocynnau parcio neu dderbynebau.

Os mai dim ond mewn tacsi y gallwch chi deithio

Rhaid i chi gysylltu â darparwr yr asesiad os oes angen i chi gael tacsi i’r asesiad.

Bydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn edrych ar eich cais ac yn penderfynu a oes angen i chi gael tacsi. Os ydynt yn cytuno, gallwch hawlio eich costau tacsi yn ôl.

Os bydd eich cais yn cael ei wrthod cyn eich asesiad, bydd darparwr yr asesiad ond yn talu cost y daith gyfatebol ar drafnidiaeth gyhoeddus yn ôl i chi.

Os ydych chi’n cael asesiad dros y ffôn neu drwy alwad fideo

Os ydych yn cael asesiad dros y ffôn neu drwy alwad fideo, gwnewch yn siŵr eich bod yn barod ar yr amser y cytunwyd arno. Os nad yw eich asesydd yn galw, dywedwch wrth ddarparwr eich asesiad. Dylech hefyd ddweud wrth y DWP - ychwanegwch nodyn yn eich cyfrif ar-lein neu, os nad oes gennych un, ffoniwch y llinell gymorth Credyd Cynhwysol.

Llinell Gymorth Credyd Cynhwysol

Ffôn: 0800 328 5644

Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744

Ffôn testun: 0800 328 1344

Relay UK – Os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio’r hyn rydych eisiau ei ddweud: 18001 yna 0800 328 5644

Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes unrhyw dâl ychwanegol i’w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.

Fideo relay – os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Gallwch ddysgu sut i ddefnyddio fideo relay ar YouTube.

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm

Mae galwadau am ddim o’r rhan fwyaf o ffonau symudol a llinellau tir.

Os na allwch chi fynd i’ch asesiad

Cysylltwch â darparwr eich asesiad a gohirio eich asesiad. Rhaid bod gennych reswm da dros beidio â mynd, er enghraifft eich bod yn sâl neu fod gennych argyfwng teuluol.

Os na fyddwch chi'n mynd i'ch asesiad heb reswm da a ddim yn dweud wrth ddarparwr eich asesiad, bydd y DWP yn cymryd yn ganiataol y gallwch chi weithio.

Derbyn penderfyniad yr Adran Gwaith a Phensiynau

Bydd y DWP yn anfon llythyr atoch neu'n atodi'r llythyr i’ch cyfrif ar-lein.

Bydd y llythyr yn dweud wrthych:

  • bod gennych ‘allu cyfyngedig ar gyfer gweithgarwch sy’n gysylltiedig â gwaith’ (LCWRA); neu

  • fod gennych ‘allu cyfyngedig i weithio’ (LCW); neu

  • nad oes gennych allu cyfyngedig i weithio.

Os ydynt yn dweud bod gennych LCWRA

Ni fydd yn rhaid i chi weithio na gwneud unrhyw beth i baratoi ar gyfer gwaith.

Byddwch hefyd yn cael arian ychwanegol gyda'ch hawliad - £416.19 y mis.

Bydd yr arian ychwanegol yn dechrau yn eich taliad Credyd Cynhwysol nesaf:

  • os ydych chi'n angheuol wael

  • neu fod gennych chi LCW neu LCWRA eisoes, o hawliad budd-dal blaenorol

Fel arall, byddwch yn dechrau cael yr arian ychwanegol yn eich pedwerydd neu'ch pumed taliad ar ôl i chi roi nodyn ffitrwydd i'r DWP am y tro cyntaf. Bydd y DWP yn ychwanegu’r arian at eich taliadau misol.

Os bydd yn cymryd mwy o amser i'r DWP benderfynu, bydd eich taliad yn cael ei ôl-ddyddio fel na fyddwch ar eich colled.

Os ydych chi eisoes wedi symud i Gredyd Cynhwysol o fudd-dal arall, efallai na fydd eich taliad yn codi £416.19. Gallai hyn ddigwydd os gwnaethoch chi hawlio Credyd Cynhwysol ar ôl:

  • i chi gael llythyr gan y DWP yn dweud wrthych am hawlio Credyd Cynhwysol erbyn dyddiad penodol - a elwir yn 'hysbysiad mudo'

  • i chi gael 'premiwm anabledd difrifol' gyda'ch budd-dal blaenorol

Efallai eich bod eisoes yn cael swm ychwanegol yn eich Credyd Cynhwysol. Siaradwch â chynghorydd i gael gwybod sut bydd eich taliadau'n newid.

Os na wnaethoch chi hawlio Credyd Cynhwysol ar ôl y naill neu'r llall o'r pethau hyn, gallwch wirio faint o Gredyd Cynhwysol gewch chi pan fydd yr arian ychwanegol yn dechrau.

Os ydynt yn dweud bod gennych LCW

Ni fydd yn rhaid i chi weithio, ond efallai y bydd angen i chi wneud rhai gweithgareddau sy'n gysylltiedig â gwaith.

Byddwch hefyd yn cael arian ychwanegol os ydych chi wedi cael LCW ers cyn mis Ebrill 2017. Efallai eich bod wedi cael LCW oherwydd eich bod yn cael naill ai:

  • Credyd Cynhwysol gyda LCW

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) nes i chi hawlio Credyd Cynhwysol

Rhagor o wybodaeth am y gweithgareddau sy'n gysylltiedig â gwaith y bydd angen i chi eu gwneud ar Gredyd Cynhwysol.

Os byddant yn dweud nad oes gennych allu cyfyngedig i weithio

Bydd angen i chi wneud unrhyw ofynion sy’n gysylltiedig â gwaith rydych chi wedi cytuno arnynt gyda’ch hyfforddwr gwaith. Gallwch ddod o hyd i'r gofynion yn eich ymrwymiad hawlydd.

Os ydych chi'n meddwl bod penderfyniad y DWP yn anghywir, gallwch ofyn iddynt ei newid.

Os ydych chi'n credu y dylai'r DWP newid eu penderfyniad

Gallwch ofyn i'r DWP newid eu penderfyniad os ydych chi'n meddwl ei fod yn anghywir, neu os yw eich cyflwr iechyd neu'ch anabledd wedi gwaethygu.

Os ydych chi’n credu bod y penderfyniad yn anghywir

Fel arfer, rhaid i chi gysylltu â'r DWP o fewn mis ar ôl dyddiad y penderfyniad ar eich llythyr. Efallai y byddwch chi’n dal i allu herio’r penderfyniad ar ôl mis os na allech chi wneud hynny’n gynharach. Canfyddwch sut i herio penderfyniad y DWP.

Os na fydd y DWP yn newid y penderfyniad, gallwch ofyn iddynt newid eich ymrwymiad hawliwr.

Os yw eich cyflwr neu'ch anabledd wedi gwaethygu

Gallwch ofyn i'r DWP am asesiad newydd. Bydd angen i chi anfon tystiolaeth i ddangos bod eich cyflwr wedi newid. Rhagor o wybodaeth am sut i ofyn am asesiad newydd.

Gwiriwch beth sy’n digwydd ar ôl y penderfyniad

Fel arfer, bydd y DWP yn ailasesu eich LCW neu LCWRA yn y dyfodol, oni bai fod eich cyflwr iechyd neu eich anabledd yn barhaol.

Efallai y byddan nhw’n eich ailasesu bob blwyddyn, neu bob 2 neu 3 blynedd. Efallai y byddan nhw hefyd yn eich ailasesu os byddwch yn dechrau gweithio.

Os bydd eich cyflwr iechyd yn newid, dylech roi gwybod i'r DWP. Gwiriwch sut i roi gwybod i'r DWP am newid.

Os ydych chi'n aros am benderfyniad

Os nad ydych chi wedi clywed unrhyw beth ar ôl 8 wythnos, ychwanegwch nodyn at eich cyfrif ar-lein yn gofyn pam nad ydych chi wedi cael penderfyniad eto. Gallwch hefyd ofyn am gopi o’ch adroddiad.

Os nad oes gennych chi gyfrif ar-lein, dylech ffonio’r llinell gymorth.

Llinell Gymorth Credyd Cynhwysol

Ffôn: 0800 328 5644

Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744

Ffôn testun: 0800 328 1344

Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0800 328 5644

Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.

Fideo Relay - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Gallwch ddysgu sut i ddefnyddio fideo Relay ar YouTube.

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 6pm

Mae galwadau am ddim o ffonau symudol a llinellau tir.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 14 Tachwedd 2022