Cael Credyd Cynhwysol os ydych yn sâl neu’n anabl

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os ydych yn cael anhawster i weithio am eich bod yn sâl neu’n anabl, gallech:

  • cael mwy o Gredyd Cynhwysol

  • peidio gorfod chwilio am waith pan fyddwch yn cael Credyd Cynhwysol 

Os bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn cytuno na allwch weithio, byddant yn gwirio a allwch fod yn barod i weithio yn y dyfodol.

Os bydd y DWP yn credu y gallwch fod yn barod i weithio

Byddant yn dweud bod gennych ‘allu cyfyngedig i weithio’ (LCW).

Ni fydd yn rhaid i chi chwilio am waith. Efallai y bydd yn rhaid i chi wneud tasgau i baratoi i weithio – fel hyfforddiant neu ysgrifennu CV. ​​

Ni fyddwch fel arfer yn cael arian ychwanegol os oes gennych LCW.

Os yw’r DWP yn credu y gallwch fod yn barod i weithio

Byddant yn dweud bod gennych ‘allu cyfyngedig ar gyfer gweithgarwch sy’n gysylltiedig â gwaith' (LCWRA).

Ni fydd yn rhaid i chi weithio na gwneud unrhyw beth i fod yn barod i weithio. Byddwch fel arfer yn cael £416.19 ychwanegol bob mis.

Fel arfer byddwch yn dechrau cael yr arian ychwanegol ar ôl 3 mis. Mae yna rai sefyllfaoedd pan fyddwch yn ei gael ar unwaith, er enghraifft: 

  • os oes gennych salwch angheuol ac mae eich gweithiwr iechyd proffesiynol yn dweud na fyddwch o bosibl yn byw mwy na blwyddyn

  • os byddwch yn cael y math newydd o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) gydag elfen o gymorth neu weithgarwch sy’n gysylltiedig â gwaith

Gallwch wirio’r rhestr lawn o resymau pam y gallech gael yr arian ychwanegol yn gynharach. Bydd angen i chi agor y pennawd ‘Os ydych yn sâl neu’n anabl’. Gallwch hefyd siarad â chynghorydd.

Os oes yn rhaid i chi wneud rhai gofynion sy’n ymwneud â gwaith eisoes, efallai y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn penderfynu y gallwch eu hatal yn gynharach na 3 mis.

Os ydych yn symud i’r Credyd Cynhwysol o fudd-daliadau eraill

Mae’r Credyd Cynhwysol yn disodli 6 budd-dal a elwir yn ‘fudd-daliadau etifeddol’. Y rhain yw:

  • Budd-dal Tai

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) sy’n gysylltiedig ag incwm

  • Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) yn seiliedig ar incwm 

  • Credydau Treth Plant (CTC)

  • Credyd Treth Gwaith (WTC)

  • Cymhorthdal Incwm

Mae’n bosibl y bydd angen i chi symud i’r Credyd Cynhwysol os bydd eich amgylchiadau yn newid mewn rhai ffyrdd penodol – er enghraifft os ydych yn gwahanu oddi wrth eich partner neu’n symud i ardal cyngor arall.

Efallai y bydd yn rhaid i chi symud i’r Credyd Cynhwysol hefyd os byddwch yn derbyn llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn dweud wrthych i hawlio’r Credyd Cynhwysol erbyn dyddiad penodol. Gelwir y llythyr yn ‘hysbysiad mudo’.

Gallwch barhau i symud i’r Credyd Cynhwysol os nad yw’r naill na’r llall o’r pethau hyn wedi digwydd, ond mae’n bwysig meddwl yn ofalus. Os ydych yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol:

  • bydd unrhyw fudd-daliadau etifeddol rydych yn eu cael yn dod i ben

  • ni allwch ddychwelyd i unrhyw rai o’r budd-daliadau etifeddol yn y dyfodol – hyd yn oed os ydych yn apelio yn erbyn penderfyniad budd-dal

Dysgwch fwy am symud i’r Credyd Cynhwysol o fudd-daliadau eraill.

Os oeddech yn cael budd-dal gyda phremiwm anabledd difrifol (SDP)

Efallai y cewch swm ychwanegol yn eich Credyd Cynhwysol os oeddech yn cael budd-dal gyda phremiwm anabledd difrifol (SDP), neu wedi rhoi’r gorau i’w gael yn ddiweddar. Nid yw’r swm ychwanegol yn SDP – fe’i gelwir yn ‘elfen drosiannol’.

Mae’r hyn y bydd angen i chi ei wneud yn dibynnu a ydych wedi derbyn hysbysiad mudo ai peidio.

Os ydych wedi derbyn hysbysiad mudo

Gallai’r DWP ychwanegu swm ychwanegol i’ch Credyd Cynhwysol o’r enw ‘elfen fudo a reolir’. Mae hyn er mwyn sicrhau nad ydych yn waeth eich byd nac yr oeddech ar eich hen fudd-daliadau. Bydd hyn fel arfer yn ystyried y SDP a phremiymau eraill roeddech yn arfer eu cael.

Efallai na fyddwch yn cael elfen fudo a reolir os:

  • yw eich hen fudd-daliadau eisoes wedi dod i ben

  • ydych yn cael mwy o arian gan y Credyd Cynhwysol na’ch hen fudd-daliadau

Os na fyddwch yn cael yr elfen fudo a reolir yn eich Credyd Cynhwysol mae’n bosibl y byddwch yn parhau i gael swm ychwanegol am eich bod wedi arfer cael y SDP. Gelwir hyn yn ‘elfen bontio SDP’. Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar rai pethau, er enghraifft faint o’r budd-daliadau etifeddol yr oeddech yn ei gael. Gwiriwch faint o Gredyd Cynhwysol y byddwch yn ei gael – darllenwch yr adran am symiau eraill y gallwch eu cael.

Bydd angen i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol o fewn mis ar ôl i’ch budd-dal gyda’r SDP ddod i ben. Ni allwch gael yr elfen bontio SDP os:

  • oeddech ond yn cael y SDP gyda Budd-dal Tai

  • ydych yn symud i mewn gyda phartner sy’n hawlio Credyd Cynhwysol

  • ydych yn rhoi’r gorau i fod yn gymwys ar gyfer y SDP

Os byddwch yn cael elfen bontio, bydd y DWP yn lleihau hyn dros amser – felly yn y pen draw byddwch ond yn derbyn y swm y byddech yn ei gael fel arfer ar y Credyd Cynhwysol.

Os nad ydych yn siŵr pryd i wneud cais am Gredyd Cynhwysol, siaradwch â chynghorydd.

Os nad ydych wedi derbyn hysbysiad mudo

I gael y swm ychwanegol, mae angen i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol o fewn mis i’ch budd-dal gyda’r SDP ddod i ben. Gelwir y swm ychwanegol yn ‘elfen bontio SDP’. Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar rai pethau, er enghraifft faint o’r budd-dal etifeddol yr oeddech yn ei gael. Gwiriwch faint o Gredyd Cynhwysol y byddwch yn ei gael – darllenwch yr adran am symiau eraill y gallwch eu cael.

Ni allwch gael elfen bontio DSP os oeddech:

  • oeddech ond yn cael y SDP gyda Budd-dal Tai

  • ydych yn symud i mewn gyda phartner sy’n hawlio Credyd Cynhwysol

  • yn rhoi’r gorau i fod yn gymwys ar gyfer y SDP

Os byddwch yn cael elfen bontio, bydd y DWP yn lleihau hyn dros amser – felly yn y pen draw byddwch ond yn derbyn y swm y byddech yn ei gael fel arfer ar y Credyd Cynhwysol.

Dweud wrth DWP eich bod yn cael anhawster i weithio

Mae’n bwysig dangos bod gennych LCW neu LCWRA cyn gynted â phosibl.

Os ydych yn gwneud hawliad newydd, defnyddiwch y ffurflen gais i roi gwybod i DWP am eich anabledd neu gyflwr iechyd. Dylech esbonio sut mae’r anabledd neu gyflwr yn ei gwneud yn anodd i chi weithio.

Os ydych eisoes yn cael Credyd Cynhwysol, defnyddiwch y tab ‘Rhoi gwybod am newid i amgylchiadau’ ar eich cyfrir ar-lein neu ffoniwch linell gymorth y Credyd Cynhwysol.

Llinell Gymorth Credyd Cynhwysol

Ffôn: 0800 328 5644

Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744

Ffôn testun: 0800 328 1344

Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0800 328 5644

Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.

Fideo Relay - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Gallwch ddysgu sut i ddefnyddio fideo Relay ar YouTube.

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 6pm

Cael nodyn ffitrwydd

Bydd angen i chi hefyd anfon ‘nodyn ffitrwydd’ gan eich meddyg at DWP. Mae’r nodyn ffitrwydd yn cadarnhau eich anabledd neu gyflwr iechyd i’r DWP.

Gallwch gael nodyn ffitrwydd gan eich:

  • meddyg teulu neu feddyg arall

  • nyrs gofrestredig

  • fferyllydd

  • therapydd galwedigaethol

  • ffisiotherapydd

Bydd eich nodyn ffitrwydd wedi’i argraffu neu’n fersiwn ddigidol. Os nad ydych yn siŵr pa fath y byddwch yn ei gael a sut y byddwch yn ei gael, holwch eich gweithiwr proffesiynol gofal iechyd.

Os cewch nodyn ffitrwydd wedi’i argraffu, gwnewch yn siŵr bod y gweithiwr proffesiynol gofal iechyd wedi’i lofnodi.

Os cewch nodyn ffitrwydd digidol, gwnewch yn siŵr ei fod yn cynnwys enw’r gweithiwr proffesiynol gofal iechyd.

Os na fydd y gweithiwr proffesiynol gofal iechyd wedi llofnodi eich nodyn ffitrwydd neu os nad ydynt wedi cynnwys eu henw, gallech gael eich gwrthod gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ac efallai y bydd angen i chi gael un newydd.

Dylech bob amser gadw eich nodyn ffitrwydd – efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am un newydd os byddwch yn ei golli neu’n ei ddileu.

Mae’n syniad da ychwanegu eich nodyn ffitrwydd i’ch cyfrif ar-lein. Os oes gennych nodyn ffitrwydd wedi’i argraffu, bydd angen i chi gymryd llun ohono i’w lwytho. Os na allwch lwytho’r nodyn ffitrwydd, ysgrifennwch neges yn eich dyddiadur i esbonio’r broblem i’r DWP.

Os na allwch gael nodyn ffitrwydd, siaradwch â chynghorydd.

Gwirio i weld a allwch gael LCW neu LCWRA yn awtomatig

I gael LCW neu LCWRA, fel arfer bydd angen i chi lenwi ffurflen arall a mynd i asesiad meddygol. Bydd y broses hon fel arfer yn cymryd ychydig fisoedd.

Mewn rhai sefyllfaoedd ni fydd yn rhaid i chi lenwi’r ffurflen na mynd i asesiad – cewch LCW neu LCWRA yn awtomatig.

Gallech gael LCW neu LCWRA yn awtomatig os:

  • ydych yn feichiog

  • oeddech yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ESA) pan wnaethoch gais am Gredyd Cynhwysol 

  • ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac yn cael budd-daliadau eraill

  • ydych yn yr ysbyty neu gwarantin 

  • ydych yn cael triniaeth canser, neu’n gwella ohono

  • oes gennych salwch difrifol

Rydych yn feichiog

Dylech gael LCWRA yn awtomatig os bydd gweithio neu fod yn barod i weithio yn peryglu eich iechyd chi neu iechyd eich babi. Dywedwch wrth eich anogwr gwaith a gwnewch nodyn ar eich cyfrif ar-lein.

Bydd angen i chi aros 3 mis i gael yr arian ychwanegol. Os ydych eisoes yn gwneud rhai gofynion sy’n gysylltiedig â gwaith, gallai’r DWP benderfynu y gallwch roi’r gorau i’w gwneud cyn 3 mis.

Efallai y byddant yn gofyn i chi gwblhau ffurflen UC50 beth bynnag – yn arbennig os oes gennych gyflwr iechyd neu anabledd arall.

Rydych yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)

Os ydych yn cael LCWRA, cewch yr arian ychwanegol ar unwaith.

Efallai y bydd yn rhaid i chi gwblhau’r ffurflen UC50 beth bynnag a mynd i asesiad – mae’n dibynnu ar y math o ESA rydych yn ei gael.

Os ydych yn cael y math newydd o ESA

Os ydych mewn grŵp cymorth ESA, byddwch yn cael LCWRA yn awtomatig.

Os ydych yn y Grŵp Gweithgaredd ESA sy’n gysylltiedig â Gwaith, byddwch yn cael LCW yn awtomatig.

Os ydych eisoes yn cael LCW neu LCWRA ar gyfer y math newydd o ESA, nid oes angen i chi lenwi ffurflen newydd na chael asesiad meddygol ar gyfer Credyd Cynhwysol.

Mae’n bosibl y bydd DWP yn parhau i ddweud bod angen asesiad arall arnoch ar gyfer eich hawliad Credyd Cynhwysol, ond nid ydych chi. Os bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn dweud bod angen asesiad arall arnoch gallwch herio eich penderfyniad Credyd Cynhwysol.

Os ydych yn cael yr hen fath o ESA

Gallwch gael LCW neu LCWRA ar unwaith os:

  • oeddech yn cael ESA yn y grŵp cymorth ESA neu’r Grŵp Gweithgaredd sy’n Gysylltiedig â Gwaith

  • ydych wedi hawlio Credyd Cynhwysol cyn i chi roi’r gorau i fod yn gymwys i gael ESA

Byddwch yn parhau i gael LCW neu LCWRA ar y Credyd Cynhwysol cyn belled nad oes toriad rhwng eich hawliad ESA hen ddull a’ch hawliad Credyd Cynhwysol.

Gallai’r DWP anfon ffurflen UC50 atoch i gadarnhau eich bod yn parhau i fod yn gymwys ar gyfer LCW neu LCWRA.

Os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac yn derbyn budd-daliadau eraill

Byddwch yn cael LCWRA yn awtomatig os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac yn derbyn:

  • Lwfans Gweini

  • cyfradd uwch elfen byw dyddiol y Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)

  • y gyfradd uchaf o elfen ofal Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)

  • cyfradd uwch elfen byw dyddiol Taliad Anabledd Oedolion

Byddwch yn cael LCW yn awtomatig os ydych naill ai’n cael:

  • PIP, ond nid yr elfen byw dyddiol uwch

  • DLA, ond nid cyfradd uchaf yr elfen olaf

  • Talid Anabledd Oedolion heb gyfradd uwch yr elfen byw dyddiol

Dylai’r DWP hefyd anfon ffurflen UC50 atoch i wirio a ddylech fod yn cael LCWRA yn hytrach na LCW. Os nad ydynt, ffoniwch y llinell gymorth Credyd Cynhwysol neu gofynnwch amdano drwy eich cyfrif ar-lein.

Llinell Gymorth Credyd Cynhwysol

Ffôn: 0800 328 5644

Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744

Ffôn testun: 0800 328 1344

Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0800 328 5644

Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.

Fideo Relay - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Gallwch ddysgu sut i ddefnyddio fideo Relay ar YouTube.

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 6pm

Mae galwadau am ddim o ffonau symudol a llinellau tir.

Rydych yn yr ysbyty neu gwarantin

Os byddwch yn mynd i’r ysbyty neu gyfleuster adferiad cyffuriau neu alcohol am o leiaf 24 awr, diweddarwch eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein cyn gynted ag y gallwch.

Byddwch yn cael LCW tra byddwch yn yr ysbyty. Byddwch hefyd yn cael LCW ar ôl i chi ddod allan, os bydd DWP yn cytuno bod angen amser i adfer arnoch.

Byddwch hefyd yn cael LCW os byddwch wedi derbyn hysbysiad swyddogol i beidio gweithio oherwydd bod gennych glefyd heintus.

Dylai DWP anfon ffurflen UC50 atoch hefyd i wirio a ddylech fod yn cael LCWRA. Os na fyddant yn gwneud hyn, ffoniwch linell gymorth Credyd Cynhwysol.

Llinell Gymorth Credyd Cynhwysol

Ffôn: 0800 328 5644

Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744

Ffôn testun: 0800 328 1344

Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0800 328 5644

Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.

Fideo Relay - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Gallwch ddysgu sut i ddefnyddio fideo Relay ar YouTube.

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 6pm

Mae galwadau am ddim o ffonau symudol a llinellau tir.

Rydych yn cael triniaeth canser, neu’n gwella ohono

Rydych yn debygol o gael LCWRA os ydych:

  • yn cael eich trin gyda chemotherapi neu radiotherapi

  • yn debygol o ddechrau triniaeth yn y 6 mis nesaf

  • yn gwella o driniaeth

Efallai bod gennych LCWRA hefyd os ydych yn derbyn triniaethau canser eraill – fel imiwnotherapi, triniaeth fiolegol neu driniaeth hormonaidd. Os ydych yn cael eich trin gydag unrhyw rai o’r rhain, a bod y DWP yn penderfynu nad oes LCWRA gennych, siaradwch â chynghorydd.

Bydd y DWP fel arfer yn anfon ffurflen UC50 atoch i’w chwblhau. Mae hyn yn cynnwys adran ar driniaeth ganser.

Bydd angen i chi aros am 3 mis fel arfer i dderbyn yr arian ychwanegol.

Os oes gennych salwch angheuol ac mae’n bosibl na fyddwch yn byw am fwy na blwyddyn

Bydd gennych LCWRA bob amser. Gallwch roi’r gorau i wneud gofynion sy’n gysylltiedig â gwaith a derbyn yr arian ychwanegol ar unwaith.

Nid oes rhaid i chi gwblhau ffurflen UC50. Bydd angen i chi anfon adroddiad meddygol gan feddyg neu weithiwr iechyd proffesiynol arall at DWP. Bydd yr adroddiad ar ffurflen SR1. Nid oes rhaid i chi dalu amdano.

Gofynnwch i’ch meddyg neu weithiwr proffesiynol gofal iechyd arall anfon yr adroddiad at DWP drwy e-bost i arbed amser.

Mae gennych salwch difrifol

Mae yna rai triniaethau a chyflyrau lle byddwch yn cael LCW neu LCWRA yn awtomatig. Os oes gennych, efallai y bydd yn rhaid i chi aros 3 mis i dderbyn yr arian ychwanegol.

Bydd angen i chi barhau i roi nodyn ar eich cyfrif ar-lein yn sôn am eich diagnosis ac yn esbonio sut mae eich salwch neu driniaeth yn eich atal rhag gweithio neu baratoi ar gyfer gwaith.

Bydd gennych LCW os ydych yn cael:

  • dialysis wythnosol

  • cyfnewid plasma 

  • bwydo mewnwythiennol 

Bydd eich LCW yn parhau os ydych wedi cwblhau un o’r triniaethau hyn a bod y DWP yn cytuno bod angen amser arnoch i adfer. Dylai’r DWP hefyd anfon ffurflen UC50 atoch i wirio a ddylech fod yn cael LCWRA.

Os oes gennych angheuol ac mae’n bosibl na fyddwch yn byw am fwy na blwyddyn

Bydd gennych LCWRA bob amser. Gallwch roi’r gorau i wneud gofynion sy’n gysylltiedig â gwaith a derbyn yr arian ychwanegol ar unwaith.

Nid oes rhaid i chi gwblhau ffurflen UC50. Bydd angen i chi anfon adroddiad meddygol gan feddyg neu weithiwr iechyd proffesiynol arall at DWP. Bydd yr adroddiad ar ffurflen SR1. Nid oes rhaid i chi dalu amdano.

Gofynnwch i’ch meddyg teulu neu weithiwr proffesiynol gofal iechyd arall anfon yr adroddiad at DWP drwy e-bost i arbed amser.

Os nad oes gennych LCW neu LCWRA yn awtomatig

Bydd y DWP yn anfon ffurflen o’r enw ‘UC50’ atoch. Byddant yn defnyddio’r ffurflen i benderfynu a ddylech gael LCW neu LCWRA. Dysgwch sut i baratoi i gwblhau’r ffurflen UC50.

Os ydych yn credu y dylech fod wedi cael LCW or LCWRA yn awtomatig heb y ffurflen neu asesiad, gallwch ofyn i’r DWP newid eu penderfyniad.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 19 Mehefin 2018