Gorffen ac anfon y ffurflen gallu i weithio ar gyfer Credyd Cynhwysol
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os na allwch chi weithio oherwydd eich bod yn anabl neu os oes gennych gyflwr iechyd, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) fel arfer yn anfon ffurflen ychwanegol atoch i'w llenwi. Enw’r ffurflen yw yr ‘holiadur gallu i weithio’ neu ‘UC50’.
Mae'r DWP yn defnyddio'r ffurflen i benderfynu a oes angen i chi weithio neu baratoi i weithio.
Os nad ydych wedi llenwi gweddill y ffurflen eto, canfyddwch sut i ddechrau'r ffurflen.
Gwiriwch pryd i ddychwelyd y ffurflen
Rhaid i chi ddychwelyd y ffurflen o fewn pedair wythnos ar ôl i chi ei derbyn - neu efallai y bydd y DWP yn penderfynu eich bod yn gallu gweithio. Gwiriwch y llythyr a ddaeth gyda’r ffurflen am yr union ddyddiad.
Os yw'n fwy na phedair wythnos ers i chi dderbyn y ffurflen, rhaid i chi ei llenwi a'i dychwelyd cyn gynted ag y gallwch. Efallai y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ei derbyn os oes rheswm da pam na allech ei hanfon yn gynt.
Os ydych chi’n cael triniaeth canser
Dylech lenwi’r adrannau nesaf os oes gennych chi gyflyrau iechyd neu anableddau eraill hefyd.
Os nad oes gennych unrhyw gyflyrau iechyd neu anableddau eraill, gallwch sgipio’r cwestiwn ar dudalen 18 am asesiad wyneb yn wyneb. Dylech lenwi tudalennau 22 a 23 o hyd.
Bydd angen i chi ofyn i'ch meddyg, neu rywun arall sy'n eich trin, lenwi tudalen olaf y ffurflen. Gallant ei llenwi cyn i chi orffen gweddill y ffurflen.
Yna, bydd angen i chi:
gasglu eich tystiolaeth feddygol
anfon y dystiolaeth a’r ffurflen
Os oes gennych chi gyflyrau neu anableddau eraill
Mae’r adran olaf ar dudalennau 18 i 24 y ffurflen.
Mae’r adran hon yn gofyn a ydych chi’n fodlon i’ch meddygon a’r DWP rannu gwybodaeth â'i gilydd am eich iechyd neu eich anabledd.
Mae’r adran hefyd yn gofyn pa gymorth y byddai ei angen arnoch i gael asesiad wyneb yn wyneb. Fel arfer, bydd y DWP yn gofyn i chi wneud asesiad meddygol i'w helpu i benderfynu a allwch chi weithio neu baratoi ar gyfer gwaith.
Gall yr asesiad fod wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy alwad fideo. Bydd y DWP yn penderfynu pa fath o asesiad i'w wneud ar sail yr hyn y byddwch yn ei ddweud wrthynt ar y ffurflen.
Dywedwch wrth y DWP pa gymorth sydd ei angen arnoch
Mae'n bwysig dweud wrth y DWP am unrhyw beth a fyddai'n eich helpu i wneud yr asesiad. Os byddwch yn methu'r asesiad, efallai y bydd y DWP yn penderfynu eich bod yn gallu gweithio.
Defnyddiwch y blwch ar dudalen 19 i ddweud wrth y DWP am y cymorth sydd ei angen arnoch.
Gwiriwch i weld a fyddai’r cymorth ar dudalennau 19 ac 20 y ffurflen yn eich helpu.
Yn ogystal, meddyliwch am unrhyw gymorth arall y byddai ei angen arnoch i wneud y canlynol:
teithio i’r asesiad, a dychwelyd adref
aros am yr asesiad unwaith y byddwch chi yno - er enghraifft ar gadair mewn ystafell aros
cyrraedd yr ystafell asesu - er enghraifft mynd i fyny neu i lawr grisiau
ateb cwestiynau yn yr asesiad am eich iechyd neu anabledd
Er enghraifft, gallwch ofyn am asesiad ffôn neu fideo os na allwch chi deithio ar ddiwrnodau gwael, neu os ydych chi’n ei chael hi’n haws siarad â phobl newydd ar y ffôn.
Os nad oes modd i chi wneud asesiad dros y ffôn neu drwy fideo, gallwch ofyn i asesydd ddod i'ch cartref. Dim ond os na allwch chi wneud yr asesiad mewn ffordd arall y bydd y DWP yn cytuno, felly bydd angen i chi gyflwyno tystiolaeth iddynt i ddangos pam na allwch chi deithio. Er enghraifft, gallech ddarparu llythyr gan eich meddyg teulu neu weithiwr meddygol proffesiynol arall. Os nad oes gennych dystiolaeth eto, gallwch ei hanfon ar ôl y ffurflen.
Casglu tystiolaeth feddygol
Gallwch anfon tystiolaeth feddygol o'ch cyflwr neu'ch anabledd ynghyd â'ch ffurflen. Gall tystiolaeth feddygol roi gwell syniad i'r DWP o sut mae eich cyflwr yn effeithio ar eich gallu i weithio.
Ysgrifennwch eich rhif Yswiriant Gwladol ar bob tudalen o’r dystiolaeth a anfonwch.
Os nad oes gennych chi’r holl dystiolaeth eto, anfonwch y ffurflen beth bynnag. Gallwch anfon rhagor o dystiolaeth yn nes ymlaen.
Os nad ydych yn siŵr pa dystiolaeth i'w hanfon neu sut i gasglu’r dystiolaeth, gwiriwch pa dystiolaeth i'w hanfon.
Anfon tystiolaeth yn ddiweddarach
Mae'n werth anfon unrhyw dystiolaeth ychwanegol cyn gynted â phosibl, er mwyn i'r DWP ei chael cyn iddynt wneud eu penderfyniad.
Pan fyddwch yn anfon y dystiolaeth, dylech gynnwys llythyr i rannu’r canlynol gyda'r DWP:
eich enw
eich rhif Yswiriant Gwladol
bod y dystiolaeth yn cefnogi eich hawliad am Gredyd Cynhwysol
y dyddiad y gwnaethoch anfon eich ffurflen, os ydych yn ei gwybod
Anfonwch unrhyw dystiolaeth ychwanegol at eich darparwr asesiad, nid i'r Ganolfan Gwaith. Gallwch ddod o hyd i'w manylion cyswllt ar eu gwefan:
Os nad ydych yn siŵr pwy yw eich darparwr asesiad, gallwch ddod o hyd i’ch darparwr asesiad ar GOV.UK.
Dychwelyd y ffurflen
Defnyddiwch yr amlen ragdaledig a ddaeth gyda’r ffurflen – mae wedi’i chyfeirio at y Gwasanaeth Ymgynghorol Asesiad Iechyd. Peidiwch â mynd â'r ffurflen i'r Ganolfan Byd Gwaith, gan y gallai hyn achosi oedi.
Rhaid i chi ddychwelyd eich ffurflen o fewn 4 wythnos i’w derbyn.
Gofynnwch i Swyddfa'r Post am brawf postio am ddim, er mwyn i chi allu profi pryd y gwnaethoch anfon eich ffurflen.
Dychwelyd y ffurflen ar ôl 4 wythnos
Dylech barhau i lenwi’r ffurflen a’i dychwelyd cyn gynted ag y gallwch. Efallai y bydd y DWP yn ei derbyn os oes rheswm da pam na allech ei hanfon yn gynt.
Defnyddiwch y blwch ar dudalen 3 i esbonio pam eich bod yn dychwelyd y ffurflen yn hwyr. Dylech gynnwys cymaint o fanylion ag y gallwch - er enghraifft:
os na dderbynioch chi’r llythyr atgoffa - os bydd hyn yn digwydd, gwiriwch fod gan eich hyfforddwr gwaith y cyfeiriad cywir
os ydych chi wedi bod yn yr ysbyty
os oeddech yn rhy sâl
os cawsoch chi argyfwng gartref
os cawsoch brofedigaeth
os ydych chi wedi bod allan o’r wlad
Os bydd y DWP yn dweud bod yn rhaid i chi weithio oherwydd bod y ffurflen yn hwyr, gallwch herio eu penderfyniad. Bydd angen i chi ei herio o fewn mis. Canfyddwch sut i herio penderfyniad y DWP.
Ar ôl i chi lenwi’r ffurflen
Ar ôl i chi ddychwelyd eich ffurflen, efallai y bydd y DWP yn gofyn i chi fynd i gael asesiad meddygol.
Bydd y DWP yn anfon llythyr atoch yn dweud pryd a ble mae'r asesiad. Efallai y bydd hyn yn digwydd ychydig fisoedd ar ôl i chi ddychwelyd eich ffurflen UC50.
Dylent ddweud wrthych beth yw’r dyddiad o leiaf 7 diwrnod ymlaen llaw.
Cyn i chi fynd i'r asesiad, dysgwch beth sy'n digwydd yn yr asesiad a sut i baratoi.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 01 Rhagfyr 2022