How to start a Universal Credit claim
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Yn gyntaf, dylech edrych i weld a ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol.
Os ydych yn gymwys, bydd fel arfer rhaid i chi wneud cais i gael Credyd Cynhwysol ar-lein ar wefan GOV.UK. Yna, byddwch yn cael cyfrif ar-lein i’w ddefnyddio i wneud cais i gael Credyd Cynhwysol ac i gadw eich hawliad yn gyfredol.
I greu cyfrif ar-lein, bydd arnoch angen cyfeiriad e-bost a rhif ffôn.
Ar wefan Which? gallwch ddod i wybod sut i gael cyfeiriad e-bost.
Os ydych yn ailymgeisio i gael Credyd Cynhwysol, efallai na fydd rhaid i chi fynd drwy’r broses ymgeisio lawn eto. Dewch i wybod mwy am ailymgeisio i gael Credyd Cynhwysol.
Edrychwch i weld pryd i wneud cais
Fel arfer, y peth gorau i’w wneud yw gwneud cais i gael Credyd Cynhwysol cyn gynted ag y gallwch. O wneud hynny, byddwch yn cael eich taliad cyntaf yn gynharach.
If you or your partner aren’t a UK citizen
Before you apply, you should check if you’re eligible for Universal Credit.
If you’re not eligible, applying for Universal Credit might affect your permission to stay in the UK.
Os ydych yn symud i’r drefn Credyd Cynhwysol o fudd-daliadau eraill
Mae Credyd Cynhwysol yn disodli budd-daliadau hŷn a elwir yn ‘fudd-daliadau etifeddol’. Y budd-daliadau etifeddol yw:
Budd-dal Tai
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm (ESA)
Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm (JSA)
Cymhorthdal Incwm
Mae Credyd Cynhwysol wedi disodli Credydau Treth Plant (CTC) a Chredydau Treth Gwaith (WTC). Daeth y budd-daliadau hyn i ben ym mis Ebrill 2025 – dywedwyd wrth y rhan fwyaf o bobl am fudo i’r drefn Credyd Cynhwysol yn eu lle.
Gall fod angen i chi symud i’r drefn Credyd Cynhwysol os bydd eich sefyllfa’n newid mewn ffyrdd penodol – er enghraifft, os byddwch yn gwahanu oddi wrth eich partner neu’n symud i ardal cyngor gwahanol.
Gall fod rhaid i chi symud i’r drefn Credyd Cynhwysol hefyd os byddwch yn cael llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn dweud wrthych am hawlio’r Credyd Cynhwysol erbyn dyddiad penodol.
Gallwch symud i’r drefn Credyd Cynhwysol o hyd os nad yw’r naill na’r llall o’r pethau hyn wedi digwydd, ond mae’n bwysig ystyried hyn yn ofalus. Os byddwch yn gwneud cais i gael Credyd Cynhwysol, gallech gael llai o arian. Bydd unrhyw fudd-daliadau etifeddol eraill rydych chi’n eu cael yn dod i ben, ac ni fydd modd i chi ddychwelyd i gael unrhyw un o’r budd-daliadau etifeddol eto yn y dyfodol.
Dewch i wybod mwy am symud i’r drefn Credyd Cynhwysol o fudd-daliadau eraill.
Os ydych wedi gadael eich swydd
Os ydych wedi cael llythyr oddi wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau yn dweud wrthych am hawlio Credyd Cynhwysol erbyn dyddiad penodol, fe’i gelwir yn ‘hysbysiad mudo’. Dylech hawlio Credyd Cynhwysol erbyn y dyddiad ar y llythyr.
Os ydych yn aros i gael eich talu, siaradwch â chynghorydd. Gall eich cynorthwyo i bennu’r amser gorau i gyflwyno’ch hawliad.
Os yw’r dyddiad ar y llythyr yn fuan, y peth pwysicaf i’w wneud yw hawlio cyn y dyddiad hwnnw. Edrychwch i weld beth i’w wneud os ydych wedi cael hysbysiad mudo.
Os nad ydych wedi cael hysbysiad mudo, dylech aros hyd nes y diwrnod ar ôl i chi gael eich cyflog terfynol neu unrhyw dâl gwyliau o’ch gwaith.
Os byddwch yn cael eich talu ar ôl i chi wneud cais i gael Credyd Cynhwysol, bydd yr arian yn cyfrif fel incwm – bydd hyn yn golygu y byddwch yn cael llai o arian yn eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf.
Os nad ydych ond yn aros i gael eich tâl dileu swydd, dylech wneud cais i gael Credyd Cynhwysol cyn gynted ag y gallwch, oherwydd nid yw’r tâl hwn yn cyfrif fel incwm. Ni fydd tâl dileu swydd yn effeithio ar swm yr arian y byddwch yn ei gael yn eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf, oni bai ei fod yn peri i gyfanswm eich cyfalaf fod yn fwy na £6,000. Mae cyfalaf yn cynnwys unrhyw gynilion a buddsoddiadau sydd gennych.
Os ydych wedi bod yn aros i gael y taliad olaf o’ch gwaith a bod arnoch angen arian, y peth gorau i’w wneud yw siarad â chynghorydd cyn hawlio.
Os na allwch wneud cais ar-lein
Gall fod modd i chi wneud cais i gael Credyd Cynhwysol dros y ffôn neu, o dan amgylchiadau eithriadol, drwy drefnu i rywun ymweld â chi yn eich cartref.
Ni allwch ond ddefnyddio’r opsiynau hyn mewn sefyllfaoedd penodol. Gallech fod yn gymwys:
os nad ydych yn gallu cael mynediad rheolaidd at y rhyngrwyd
os nad ydych yn gallu defnyddio cyfrifiadur neu ffôn clyfar yn hyderus
os oes gennych broblemau â’ch golwg
os oes gennych anabledd corfforol hirdymor neu gyflwr iechyd meddwl sy’n eich atal rhag gwneud cais ar-lein
os oes gennych gyflwr corfforol sy’n eich atal rhag defnyddio cyfrifiadur neu ffôn clyfar
os nad ydych yn gallu darllen neu ysgrifennu
Os oes angen cymorth arnoch i benderfynu a allwch wneud hawliad dros y ffôn neu drwy i rywun ymweld â’ch cartref, gallwch siarad ag un o’n cynghorwyr.
I hawlio dros y ffôn neu i drefnu i rywun ymweld â’ch cartref, bydd angen i chi ffonio’r llinell gymorth Credyd Cynhwysol. Gall rhywun arall ffonio ar eich rhan. Pan fyddwch yn ffonio, byddwch yn clywed sawl opsiwn – dewiswch ‘ymholiadau Credyd Cynhwysol’ ('Universal Credit queries').
Llinell Gymorth Credyd Cynhwysol
Rhif Ffôn: 0800 328 5644
Rhif Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744
Ffôn testun: 0800 328 1344
Relay UK - os na allwch chi glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio eich neges: 18001 yna 0800 328 5644
Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Ni chodir tâl ychwanegol am ei ddefnyddio. Gallwch ddysgu sut mae defnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.
Video Relay - os ydych chi’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Gallwch gael gwybod sut mae defnyddio gwasanaeth Video Relay ar YouTube.
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Mae galwadau am ddim o’r rhan fwyaf o ffonau symudol a llinellau tir.
Gall gymryd peth amser i gael siarad â rhywun. Rhowch wybod i’r sawl rydych chi’n siarad ag ef pam na allwch wneud cais ar-lein. Bydd yn gofyn rhai cwestiynau i chi i gadarnhau eich bod yn gymwys cyn mynd drwy gamau nesaf y cais gyda chi.
Os ydych yn gymwys i hawlio dros y ffôn neu drwy i rywun ymweld â’ch cartref
Bydd y Ganolfan Waith a’r Adran Gwaith a Phensiynau yn cadw mewn cysylltiad â chi naill ai drwy:
anfon negeseuon testun
ffonio
anfon llythyrau, neu
ymweld â chi
Byddant yn gofyn pa opsiwn sydd hawsaf i chi pan fyddwch yn gwneud cais.
Dechrau eich cais ar-lein
Bydd angen i chi wneud cais i gael Credyd Cynhwysol ar-lein ar wefan GOV.UK.
Yn gyntaf, bydd angen i chi roi eich cod post. Os nad oes gennych gyfeiriad, gallwch roi cod post eich Canolfan Waith agosaf.
Gallwch ddod o hyd i gyfeiriad eich Canolfan Waith agosaf ar wefan GOV.UK.
If you don’t have a computer or internet access
You can use the internet and a computer for free at your:
Os oes gennych bartner
Bydd angen i chi wneud cais ar y cyd os ydych yn byw gyda’ch partner a’ch bod naill ai:
yn briod
yn bartneriaid sifil, neu
yn byw gyda’ch gilydd fel cwpl
Os nad yw’ch partner yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol, dylech wneud cais ar y cyd o hyd gan fod angen i’r Adran Gwaith a Phensiynau wybod am incwm y ddau ohonoch. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn newid eich hawliad yn hawliad sengl pan fydd yn prosesu eich cais. Mae hyn yn golygu y byddwch chi neu’ch partner yn cael eich talu fel pe baech yn berson sengl.
Dylech wneud hawliad sengl:
os ydych wedi gwahanu’n barhaol oddi wrth eich partner – hyd yn oed os ydych yn dal i fyw yn yr un eiddo
os ydych wedi bod ar wahân i’ch partner dros dro am o leiaf chwe mis
os ydych yn mynd i fod ar wahân i’ch partner dros dro am o leiaf chwe mis
I wneud hawliad ar y cyd, bydd angen i’r ddau ohonoch agor cyfrifon ar wahân.
Yn ystod y broses o wneud cais, gofynnir i chi ddweud a ydych yn byw gyda’ch partner. Os ydych yn byw gyda’ch partner, byddwch yn cael ‘cod cysylltu’. Pan fydd eich partner yn creu ei gyfrif, dylai deipio’r cod cysylltu hwn er mwyn cysylltu ei gyfrif â’ch cyfrif chi. Bydd hyn yn troi eich hawliad yn hawliad ar y cyd.
Ni ddylech greu eich cyfrif ar yr un pryd â’ch partner – nid oes gwahaniaeth pwy sy’n creu ei gyfrif gyntaf.
Bydd modd i’r ddau ohonoch fewngofnodi i’ch cyfrifon ar wahân.
Creu eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair
Gofynnir i chi greu enw defnyddiwr a chyfrinair. Byddwch yn defnyddio’r rhain i fewngofnodi i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol.
Mae’n bwysig nad oes neb arall yn gallu cael mynediad i’ch cyfrif heb eich caniatâd chi. Os ydych wedi gwneud hawliad ar y cyd, peidiwch â rhannu eich enw defnyddiwr na’ch cyfrinair â’ch partner.
Dylech greu enw defnyddiwr a chyfrinair cryf a chofiadwy. Gallwch ddarllen am sut i greu cyfrinair cryf a chofiadwy ar wefan GOV.UK.
Y peth gorau i’w wneud yw dysgu’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair, a pheidio â’u hysgrifennu unrhyw le.
Bydd angen i chi ateb cwpl o gwestiynau diogelwch fel: ‘ble cawsoch chi eich geni?’ neu ‘beth oedd enw’r stryd lle cawsoch chi eich magu?’ Gofynnir un o’r cwestiynau hyn i chi bob tro y byddwch yn mewngofnodi i’ch cyfrif.
Gall fod gofyn i chi ychwanegu elfen ddiogelwch ychwanegol at eich cyfrif, rhywbeth a elwir yn ‘ddilysiad dau ffactor’ – mae hyn yn ddewisol. Os ydych yn cytuno, anfonir cod mynediad untro i’ch ffôn symudol. Yna, bydd angen i chi roi’r cod hwn yn eich cyfrif.
Anfonir cod newydd atoch bob tro y byddwch yn mewngofnodi neu’n defnyddio dyfais newydd – oni bai eich bod yn mewngofnodi ar yr un ddyfais o fewn 24 awr.
Byddwch yn cael Rhif Diogelwch Personol (PSN) 16 digid ar ôl eich cyfweliad Credyd Cynhwysol cyntaf gyda’ch ‘hyfforddwr gwaith’ – byddwch yn cwrdd â’ch hyfforddwr gwaith yn rheolaidd fel rhan o’r broses o hawlio Credyd Cynhwysol. Mae’n bwysig eich bod yn cadw’r rhif diogelwch personol yn ddiogel – bydd ei angen arnoch os bydd angen i chi greu cyfrinair newydd rywbryd.
Dewiswch a ydych am gael gohebiaeth drwy negeseuon e-bost neu drwy negeseuon testun
Bydd angen i chi gael cyfeiriad e-bost a rhif ffôn er mwyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau gysylltu â chi.
Dewiswch y cyfeiriad e-bost a’r rhif ffôn rydych chi’n eu defnyddio fwyaf.
Gofynnir i chi ddweud sut y byddech yn hoffi i’r Adran Gwaith a Phensiynau gysylltu â chi – drwy negeseuon e-bost neu drwy negeseuon testun. Dewiswch pa un bynnag y byddwch yn edrych arno amlaf. Ar ôl i chi ddewis, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn anfon cod i’ch cyfeiriad e-bost.
Os nad ydych wedi cael neges e-bost eto, edrychwch yn eich ffolder sothach – efallai iddi fynd yno.
Pan fyddwch yn creu eich cyfrif, bydd lle i chi roi’r cod uwchben y botwm ‘Gwneud hawliad’. Ar ôl i chi ei deipio, dewiswch ‘Gwneud hawliad’.
Y camau nesaf
OAr ôl i chi greu eich cyfrif, bydd angen i chi ateb cwestiynau am eich sefyllfa – eich ‘rhestr i’w chyflawni’ yw hon. Dylech ateb y cwestiynau hyn cyn gynted â phosibl, neu gall fod oedi cyn i chi gael eich taliad cyntaf.
Cael cymorth i ateb cwestiynau yn eich cais i gael Credyd Cynhwysol.
Os oes angen cymorth arnoch â’ch cais i gael Credyd Cynhwysol, gallwch siarad â chynghorydd.
Os ydych yn ei chael yn anodd ymdopi â chostau yn ystod y broses o hawlio Credyd Cynhwysol
Gall fod yn bosibl i chi gael cymorth gan eich cyngor lleol neu fenthyciad di-log gan y llywodraeth. Dewch i wybod sut i gael cymorth ychwanegol.
Os oes gennych blentyn o dan 14 oed neu blentyn anabl, dylai eich cyngor lleol eich cynorthwyo. Gall fod modd iddo dalu costau byw hanfodol neu ddod o hyd i rywle i chi fyw. Dewch o hyd i’ch cyngor lleol ar wefan GOV.UK.
Os ydych yn ei chael yn anodd talu am fwyd, dewch i wybod sut i gael cymorth gan fanc bwyd.
Os ydych yn ei chael yn anodd ymdopi â chostau tra rydych yn aros i gwblhau eich cais i gael Credyd Cynhwysol, gofynnwch am gymorth gan gynghorydd.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 07 Mawrth 2022