Get a Universal Credit advance payment
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Gallwch ofyn am daliadau Credyd Cynhwysol ymlaen llaw i'ch helpu i ymdopi wrth i chi aros am eich taliad cyntaf. Gallwch hefyd ofyn am daliad ymlaen llaw os yw eich amgylchiadau wedi newid a’ch bod yn disgwyl i’ch taliadau Credyd Cynhwysol gynyddu.
Heb daliadau ymlaen llaw, fel arfer ni chewch unrhyw arian tan o leiaf 5 wythnos ar ôl i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Dylech ofyn am daliad ymlaen llaw os nad ydych chi'n meddwl y bydd gennych chi ddigon o arian i fyw arno rhwng yr adeg y byddwch chi'n gwneud cais a'r adeg y byddwch chi'n cael eich taliad cyntaf.
Benthyciad yw'r taliad ymlaen llaw - bydd yn rhaid i chi ei ad-dalu, ond ni fydd angen i chi dalu unrhyw log.
Cael taliad ymlaen llaw
Gallwch ofyn am daliad ymlaen llaw drwy wneud y canlynol:
gofyn i’ch anogwr gwaith yn ystod eich cyfweliad Credyd Cynhwysol cyntaf
gwneud cais drwy eich cyfrif ar-lein
ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol
Ni allwch ofyn am daliad ymlaen llaw ar-lein na ffonio’r llinell gymorth oni bai eich bod wedi cael eich cyfweliad Credyd Cynhwysol cyntaf - sut i drefnu eich cyfweliad Credyd Cynhwysol
Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn dweud wrthych os gallwch chi gael taliad ymlaen llaw – fel arfer byddwch chi'n cael gwybod ar yr un diwrnod ag y byddwch chi'n gofyn amdano.
Ar ôl i’r Adran Gwaith a Phensiynau gytuno ar daliad ymlaen llaw, dylech gael yr arian cyn pen 3 diwrnod gwaith. Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os oes ei angen arnoch yn gynt na hyn. Os nad oes gennych unrhyw arian arall i fyw arno, gallant eich talu ar yr un diwrnod – ar wahân i ddyddiau Sul neu wyliau banc.
Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn talu’r taliad ymlaen llaw i'r un cyfrif banc rydych chi'n ei ddefnyddio i hawlio’ch Credyd Cynhwysol.
Gallwch ofyn am hyd at fis o'ch hawl Credyd Cynhwysol. Nid oes rhaid i chi ofyn am eich hawl yn llawn – gallwch ofyn am lai. Os penderfynwch fod angen mwy arnoch chi, gallwch chi ofyn am ail daliad ond bydd yn rhaid i chi esbonio pam mae ei angen arnoch chi. Ni all y taliad cyntaf a'r ail daliad gyda'i gilydd fod yn fwy na'ch hawl misol.
Sam's monthly entitlement is £500. He asks his work coach for an advance of £200 - he can ask later for a second payment but won’t get more than £300.
Siaradwch â'ch anogwr gwaith am faint y gallwch chi ofyn amdano. Byddwch yn talu'ch taliad ymlaen llaw yn ôl drwy ddidyniadau misol o'ch Credyd Cynhwysol. Gofynnwch i’ch anogwr gwaith faint fydd y didyniadau.
Os ydych chi'n benthyg taliad mis cyfan, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw rhywfaint yn ôl i dalu'ch rhent. Mae rhent wedi'i gynnwys yn eich taliad Credyd Cynhwysol – nid yw’n cael ei dalu'n syth i'ch landlord fel arfer.
Os ydych chi wedi cael eich cyfweliad yn barod
Gallwch ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol i ofyn am daliad ymlaen llaw neu wneud cais drwy eich cyfrif ar-lein. Gallwch ofyn hyd at 1 mis ar ôl i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Mae'n well gofyn cyn gynted â phosib. Ar ôl i chi hawlio Credyd Cynhwysol bydd yn cymryd o leiaf 5 wythnos i chi gael eich taliad cyntaf. Bydd angen i chi ystyried faint o arian fydd ei angen arnoch chi tan eich taliad cyntaf.
Llinell Gymorth Credyd Cynhwysol
Rhif Ffôn: 0800 328 5644
Rhif Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744
Ffôn testun: 0800 328 1344
Relay UK - os na allwch chi glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio eich neges: 18001 yna 0800 328 5644
Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Ni chodir tâl ychwanegol am ei ddefnyddio. Gallwch ddysgu sut mae defnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.
Video Relay - os ydych chi’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Gallwch gael gwybod sut mae defnyddio gwasanaeth Video Relay ar YouTube.
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Mae galwadau am ddim o’r rhan fwyaf o ffonau symudol a llinellau tir.
Alice applies for Universal Credit on Monday 1 October 2018.
One month after this would be Thursday 1 November 2018.
Three working days before that would be Monday 29 October 2018.
So Alice has until Monday 29 October 2018 to ask for an advance payment. It’s still best if she asks as soon as possible, so she can get her money sooner.
Ad-dalu’r taliad ymlaen llaw
Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cymryd ad-daliadau'n awtomatig o’ch Credyd Cynhwysol nes i chi dalu’r taliad ymlaen llaw yn ôl. Bydd angen i chi gytuno â'r Adran Gwaith a Phensiynau ynglŷn â faint fydd yr ad-daliadau a pha mor hir y bydd yn ei gymryd i'w had-dalu. Gallwch eu had-dalu dros gyfnod o hyd at 24 mis.
Ni ddylai’r Adran Gwaith a Phensiynau ofyn i chi eu had-dalu’n gynt os na allwch chi fforddio hynny – dywedwch wrth eich anogwr gwaith os bydd yr ad-daliadau’n achosi caledi i chi. Gallwch ofyn i’w had-dalu’n gynt os dymunwch chi.
Os cewch eich gwrthod am daliad ymlaen llaw
Gallwch ofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau edrych ar y penderfyniad unwaith eto os na fyddant yn rhoi taliad ymlaen llaw i chi. Bydd o gymorth os gallwch chi roi tystiolaeth newydd neu ddangos bod eich amgylchiadau wedi newid ers eich cais cyntaf.
Os ydych chi'n cael trafferth ymdopi ewch i weld pa fathau eraill o gymorth y gallwch eu cael.
Os ydych chi mewn dyled neu ôl-ddyledion rhent
Mae yna rai camau y gallwch chi eu cymryd i helpu i leihau eich dyled os ydych chi newydd wneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Gallwch hefyd ddarllen ein cyngor ynglŷn â delio â dyled.
Os ydych chi'n cael trafferth gyda chostau
Efallai y byddwch chi'n gallu cael cymorth gan eich cyngor lleol neu fenthyciad di-log gan y llywodraeth. Darllenwch sut i gael help ychwanegol.
Os oes gennych blentyn o dan 14 oed neu blentyn anabl, dylai eich cyngor lleol eich helpu. Gallent dalu costau byw hanfodol neu ddod o hyd i rywle arall i chi fyw os ydych chi'n cael trafferth gyda chostau tai. Dewch o hyd i’ch cyngor lleol ar GOV.UK.
If you're struggling to pay for food, find out how to get help from a food bank. If you have children, check if they can get free school meals.
Gallwch gael help gan gynghorwr os ydych chi'n cael trafferth gyda chostau wrth aros am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 19 Mehefin 2018