Apelio yn erbyn penderfyniad DWP am fudd-daliadau
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os ydych chi am herio penderfyniad gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) am fudd-dal rydych chi'n ceisio ei hawlio, rhaid i chi ofyn iddynt ailystyried y penderfyniad cyn y gallwch chi apelio. Enw DWP am hyn yw ailystyriaeth orfodol.
Rhaid i DWP ailystyried y penderfyniad a rhoi ymateb i chi cyn y gallwch chi apelio i dribiwnlys annibynnol. Mae'r dudalen hon yn egluro sut mae apelio i dribiwnlys annibynnol os nad ydych chi'n fodlon ar ôl i DWP ailystyried y penderfyniad.
Gair o gyngor
Ceisiwch gadw at y terfyn amser o fis os gallwch chi - gall fod yn anodd dadlau am benderfyniad os ydych chi'n methu'r dyddiad cau. Os ydych chi'n hwyr, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n egluro'r rhesymau mor fanwl â phosibl.
Pryd allwch chi apelio yn erbyn penderfyniad?
Cyn y bydd gennych chi'r hawl i apelio i dribiwnlys, rhaid i chi ofyn i'r penderfyniad gael ei ailystyried gan amlaf. Enw DWP am hyn yw ailystyriaeth orfodol. Mae'r llythyr penderfyniad yn dweud wrthych chi fod rhaid i chi ofyn am ailystyriaeth cyn y gallwch chi apelio.
Os nad ydych chi'n hapus â chanlyniad yr ailystyriaeth, gallwch apelio i Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi (HMCTS). Bydd eich apêl yn cael ei chlywed gan dribiwnlys annibynnol o'r enw tribiwnlys Haen Gyntaf.
Terfynau amser ar gyfer apelio
Rhaid i chi apelio o fewn mis i ddyddiad y llythyr neu e-bost sy'n rhoi gwybod i chi am ganlyniad yr ailystyriaeth. Mae'n bwysig apelio mewn pryd neu mae'n bosibl y gallech chi golli'r cyfle i herio'r penderfyniad.
Os byddwch chi'n methu'r dyddiad cau, gall HMCTS dderbyn eich apêl hyd at 13 mis ar ôl i'r penderfyniad gael ei anfon atoch os gallwch roi rhesymau da pam ei bod yn hwyr. Er hynny, gall DWP wrthwynebu'r rhesymau a rowch. Os digwydd hyn, bydd barnwr penderfynu a ddylid derbyn yr apêl.
Penderfyniadau na allwch chi apelio yn eu herbyn
Nid oes modd apelio yn erbyn rhai penderfyniadau. Rhaid i'r llythyr sy'n rhoi gwybod i chi am y penderfyniad ddweud os oes modd apelio a sut i wneud hynny.
Gan amlaf, ni allwch chi apelio yn erbyn penderfyniadau fel pryd a sut i dalu'ch budd-dal. Hefyd, ni chewch apelio os yw staff DWP wedi atal eich hawliad am eu bod o'r farn nad oes gennych hawl iddo.
Os yw'r llythyr yn dweud nad oes gennych chi hawl i apelio, a'ch bod o'r farn bod DWP wedi gwneud camgymeriad, gallwch ofyn i HMCTS ddyfarnu a oes gennych chi hawl gyfreithiol i apelio. Cyn y gallwch chi wneud hyn, dylech gael cyngor gan gynghorydd arbenigol.
Pwy all apelio?
Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad am eich hawliad chi. Os nad chi sy'n hawlio budd-daliadau, gallwch apelio:
os ydych chi'n rhiant neu'n warcheidwad i blentyn sydd wedi gwneud hawliad
os cawsoch eich penodi gan DWP i weithredu ar ran rhywun nad yw'n gallu ymdopi â'i hawliad, er enghraifft, oherwydd iechyd meddw neu gorfforol gwael
os ydych chi wedi hawlio PIP am berson sydd â salwch angheuol
os ydych chi wedi cael caniatâd gan DWP i weithredu ar ran hawlydd sydd bellach wedi marw
os nad chi sy'n hawlio'r budd-daliadau ond penderfynwyd y dylai blaenswm byrdymor neu gyllidebu neu daliad caledi gael ei adennill oddi wrthych chi.
Cael help i baratoi'ch apêl
Os ydych chi'n credu y bydd angen help arnoch chi i baratoi'ch achos, gallwch ofyn i rywun eich helpu. Enw'r person hwn yw'ch cynrychiolydd. Dylai'r person a ddewiswch allu:
rhoi cyngor i chi am y dystiolaeth y mae angen i chi ei pharatoi i'ch helpu gyda'ch achos
eich helpu i gasglu'r dystiolaeth hon
bod yn barod i siarad â DWP i weld a oes modd newid y penderfyniad o'ch plaid chi heb fynd i dribiwnlys
ymchwilio i'r gyfraith
paratoi datganiad ysgrifenedig ar gyfer gwrandawiad y tribiwnlys
eich cynghori ar fudd-daliadau eraill neu unrhyw Help Cyfreithiol y mae gennych hawl iddo
eich helpu gydag unrhyw beth y mae angen i chi ei wneud ar ôl gwrandawiad y tribiwnlys.
Os byddwch chi'n gofyn i ffrind neu berthynas fod yn gynrychiolydd i chi, dylech fod yn ffyddiog y gallan nhw wneud hyn ar eich rhan. Hwyrach y byddai'n well cael cymorth cynrychiolydd hyfforddedig drwy'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth leol, asiantaeth gynghori arall neu'ch undeb llafur.
Sut i apelio
Pan fydd DWP yn anfon canlyniad y broses ailystyried atoch, bydd yn cynnwys dau gopi o Hysbysiad o Ailystyriaeth Orfodol (Mandatory Reconsideration Notice). Bydd angen i chi anfon un copi at Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi (HMCTS) gyda'ch ffurflen apelio. Ni fydd eich apêl yn cael ei derbyn heb yr hysbysiad.
Er mwyn apelio, rhaid i chi lenwi ffurflen SSCS1. Dylech hefyd ddarllen y canllaw a baratowyd gan HMCTS, ‘How to appeal against a decision made by the Department for Work and Pensions'. Bydd y canllaw yn eich helpu i lenwi'r ffurflen yn gywir.
Os na allwch chi lawrlwytho'r ffurflen ar-lein, gallwch gael copi papur gan Ganolfan Cyngor ar Bopeth neu asiantaeth gynghori arall.
Os na allwch chi gael ffurflen mewn pryd i allu apelio o fewn mis, gallwch anfon llythyr yn lle. Fodd bynnag, os oes gennych chi reswm da dros golli'r dyddiad cau, y peth gorau i'w wneud yw cysylltu â HMCTS i weld a allwch chi gael estyniad.
Os ydych chi'n byw dramor
Os ydych chi am apelio a'ch bod chi'n byw y tu allan i'r DU, gallwch lawrlwytho ffurflen SSCS1 a chopi o'r canllaw sy'n eich helpu i lenwi'r ffurflen yn gywir. Gallwch hefyd gael copi gan y Swyddog Gwasanaeth Pensiwn Rhyngwladol yn y Ganolfan Bensiynau Ryngwladol neu gan eich Llysgenhadaeth agosaf.
I ble ddylech anfon y ffurflen
Ar ôl llenwi'ch ffurflen, dylech ei hanfon gyda'r Hysbysiad o Ailystyriaeth Orfodol i swyddfa Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM, nid i swyddfa DWP. Enw arall ar hyn yw cyflwyno uniongyrchol (direct lodgement).
Beth sy'n digwydd ar ôl i chi apelio
Pan fyddwch chi'n dychwelyd eich ffurflen, bydd HMCTS yn gwirio bod eich apêl yn ddilys yn gyfreithiol. Os derbynnir eich apêl, bydd DWP yn cael gwybod eich bod chi wedi apelio ac yn paratoi ei hymateb. Bydd yr ymateb yn:
rhoi rhesymau dros y penderfyniad
yn cynnwys copi o'ch ffurflen hawlio ac unrhyw lythyron a ffurflenni eraill rydych chi wedi eu llenwi
dweud pa gyfraith a ddefnyddiwyd i wneud y penderfyniad.
Dylai DWP ymateb i HMCTS o fewn 28 diwrnod calendr.
Bydd HMCTS yn ysgrifennu atoch chi hefyd i ddweud wrthych beth fydd yn digwydd nesaf.
Os i chi apelio drwy ysgrifennu llythyr yn hytrach na llenwi ffurflen SSCS1, gallai HMCTS anfon ffurflen ymholiadau atoch yn gofyn i chi am fwy o wybodaeth am eich anghenion ar gyfer gwrandawiad yr apêl. Bydd yn cynnwys gofyn i chi:
a ydych chi am fynd i wrandawiad yr apêl
a ydych chi am ddod â thystion
a fyddwch angen dehonglwr/cyfieithydd
unrhyw ddyddiadau sy'n anghyfleus i chi.
Os i chi lenwi ffurflen SSCS1, byddwch wedi ateb y cwestiynau hyn eisoes a, gan amlaf, ni fydd angen i chi lenwi ffurflen ymholiadau oni bai bod HMCTS angen rhagor o fanylion gennych.
Penderfyniadau'r tribiwnlys
Os ydych chi eisoes wedi mynd i dribiwnlys, gall rhywun sy'n gwneud penderfyniadau newid y penderfyniad drwy ddisodli os nad oedd y tribiwnlys yn ymwybodol o ffaith berthnasol neu wedi gwneud camsyniad am ffaith berthnasol. Gellir newid penderfyniad tribiwnlys hefyd os yw bellach yn anghywir yn sgil penderfyniad gan Lys Uwch Dribiwnlys mewn achos arall.
Camau nesaf
Lawrlwytho ffurflen SSCS1 yn www.justice.gov.uk
Lawrlwytho'r canllaw ar lenwi ffurflen SSCS1 yn www.justice.gov.uk
Gwybodaeth ddefnyddiol arall
Cysylltwch â'r Ganolfan Bensiynau Ryngwladol, yn www.gov.uk
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 27 Medi 2019