Talu budd-daliadau a chredydau treth
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Sut caiff budd-daliadau a chredydau treth eu talu
Fel arfer, telir budd-daliadau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau trwy drosglwyddiad credyd uniongyrchol, yn syth i mewn i gyfrif. Roedd hi’n arfer bod yn bosib ei dalu trwy sieciau neu lyfrau archeb ond mae’r rhain wedi dod i ben yn raddol. Os ydych yn cael trafferth agor cyfrif, neu os fyddai cael eich talu fel hyn yn anodd i chi, gweler y pennawd Trafferth agor neu reoli cyfrif.
Telir Credyd Treth Plant, Credyd Treth Gwaith a Lwfans Gwarcheidwad i mewn i gyfrif hefyd.
Fel arfer, telir Gostyngiad ar y Dreth Gyngor trwy ostyngiad yn eich bil Treth Gyngor. Gellir talu Budd-dâl Tai trwy ostwng eich rhent os ydych yn denant i’r awdurdod lleol, ac weithiau caiff ei dalu yn syth i’ch landlord mewn amgylchiadau eraill. Fel arall, telir Budd-dâl Tai i chi trwy siec neu i mewn i gyfrif Swyddfa’r Post neu i mewn i gyfrif. Os ydych yn cael trafferth agor cyfrif, neu os fyddai cael eich talu fel hyn yn creu trafferth i chi, gweler y pennawd Trafferth agor neu reoli cyfrif.
Pan fyddwch yn hawlio budd-dâl, fe fydd y swyddfa sy’n penderfynu ar eich cais hefyd yn penderfynu sut i’ch talu. Ni fyddwch yn medru apelio ynghylch y ffordd y caiff eich budd-dâl ei dalu, ond os yw’n achosi problemau, dylech gwyno.
Am fwy o wybodaeth ynghylch cwyno, gweler Problemau gyda budd-daliadau a chredydau treth.
Talu i mewn i gyfrif
Y brif ffordd o dalu budd-dâl a chredyd treth yw i mewn i gyfrif trwy drosglwyddiad credyd uniongyrchol (a elwir yn ‘daliad uniongyrchol’). Mae hyn yn golygu bod yr arian yn mynd yn syth i mewn i gyfrif yn eich enw chi. Os ydych yn cyflwyno cais am fudd-dâl fe fyddan nhw’n gofyn i chi am fanylion y cyfrif yr ydych am ei ddefnyddio ar gyfer eich budd-dâl neu gredyd treth. Os ydych yn cael trafferth agor cyfrif, neu os fyddai talu yn y ffordd yma’n anodd i chi, gweler y pennawd Trafferth agor neu reoli cyfrif.
Os ydych chi angen gwybodaeth ynghylch talu budd-dâl neu bensiwn y wladwriaeth yn uniongyrchol, dylech gysylltu â'r swyddfa sy'n delio gyda'ch cais am fudd-dâl neu bensiwn. Os ydych wedi cael llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gofyn am fanylion eich cyfrif, fe fydd y llythyr yn nodi rhif i chi ei ffonio i gael mwy o wybodaeth.
Os ydych yn hawlio credydau treth, fe allwch ffonio Llinell Gymorth Cyllid y Wlad ar 0345 300 3900.
Mathau o gyfrif
Gellir talu budd-dâl neu gredyd treth i mewn i gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu safonol (er enghraifft, cyfrif cyfredol), cyfrif banc sylfaenol (a elwir hefyd yn gyfrif cychwynnol (introductory account)) neu gyfrif cerdyn gyda Swyddfa’r Post. Mae cyfrifon banc sylfaenol yn haws eu hagor ond nid ydynt yn rhoi gorddrafft. Fe fydd rhai cyfrifon banc safonol a chyfrifon banc sylfaenol yn eich galluogi i gael eich arian o Swyddfa Bost, ond dylech holi eich banc neu gymdeithas adeiladu.
Gellir ond defnyddio cyfrif cerdyn Swyddfa’r Post ar gyfer talu budd-daliadau (ond nid Budd-dâl Tai), pensiwn y wladwriaeth a chredydau treth. Ni fyddwch yn medru talu unrhyw incwm arall i mewn i gyfrif cerdyn. Fe fyddwch yn medru tynnu arian o’r cyfrif mewn unrhyw Swyddfa Bost gan ddefnyddio cerdyn a rhif adnabod personol (PIN), ond ni fyddwch yn medru cael yr arian allan yn unrhyw le arall. Os ydych am agor cyfrif cerdyn rhaid i chi gysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau yn gyntaf (os ydych yn cael budd-dâl neu bensiwn y wladwriaeth) neu Gyllid a Thollau EM (os ydych yn cael credyd treth).
Pan fyddwch yn agor cyfrif, pa bynnag fath o gyfrif ydyw, gofynnir i chi am brofi pwy ydych chi a ble yr ydych yn byw. Os yw hyn yn creu problemau i chi, efallai y cewch drafferth agor cyfrif.
Defnyddio cyfrif sydd gennych yn barod neu agor cyfrif newydd
Os oes cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu gennych yn barod, dylech holi i weld a yw’n addas ar gyfer talu eich budd-dâl neu gredyd treth. Os yw’n gyfrif cynilion neu’n gyfrif morgais efallai na fydd yn addas. Os yw’n gyfrif ar y cyd, neu’n gyfrif lle’r ydych yn mynd i mewn i’ch gorddrafft yn aml, efallai y byddwch am ddefnyddio cyfrif arall yn lle.
Trafferth agor neu reoli cyfrif
Os fyddai agor neu reoli cyfrif yn creu trafferth i chi, gellir talu rhai o’ch budd-daliadau gyda siec yn lle. Gellir cyfnewid y sieciau hyn mewn Swyddfa Bost neu eu talu i mewn i gyfrif. Efallai y bydd angen i chi gael eich budd-dâl wedi’i dalu fel hyn os ydych yn ddigartref, yn sâl neu ag anabledd. Gellir talu credydau treth hefyd gyda siec mewn amgylchiadau neilltuol. Os fyddwch chi angen cael eich budd-daliadau neu gredydau treth wedi eu talu â siec, dylech gysylltu â’r swyddfa budd-daliadau neu Gyllid a Thollau EM (CAThEM).
O hydref 2012, mae taliadau trwy siec yn cael eu diweddu’n raddol ar gyfer budd-daliadau a weinyddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (y DWP). Os nad ydych yn fodlon agor cyfrif er mwyn talu eich budd-dal i mewn iddo, neu os nad ydych yn medru gwneud hynny, fe fydd y DWP yn eich talu trwy ddefnyddio gwasanaeth o’r enw Simple Payment. Fe fyddwch yn medru casglu’ch budd-dal o safle PayPoint sy’n dangos arwydd Simple Payment. Gallwch chwilio am eich safle agosaf ar wefan Paypoint ar www.paypoint.co.uk. Fe fyddwch yn cael cerdyn y medrwch ei ddefnyddio heb rif adnabod personol (PIN). Fe fydd angen eich cerdyn arnoch, dyddiad cofiadwy a rhywbeth i brofi pwy ydych chi, er mwyn casglu’ch arian. Nid oes angen i’r DWP gael eich cytundeb chi cyn eich talu chi yn y ffordd yma, ac felly os nad ydych yn medru derbyn taliad i mewn i gyfrif, neu os nad ydych yn fodlon derbyn taliad o’r fath, Simple Payment fydd yr unig opsiwn arall. Mae gwybodaeth bellach ynghylch Simple Payment ar wefan GOVUK yn https://www.gov.uk/simple-payment.
Os ydych yn cael trafferth agor cyfrif fe allwch hefyd holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf
Os nad ydych yn rhoi manylion cyfrif
Os nad ydych yn rhoi manylion cyfrif pan ofynnir amdanynt am nad ydych yn medru agor cyfrif neu am y byddech yn cael trafferth rheoli cyfrif, dylech ofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau (neu Gyllid a Thollau EM (CAThEM)) i’ch talu mewn ffordd arall.
Os ydych yn colli eich hawl i gredydau treth am nad oes cyfrif gennych, neu os ydych yn cael trafferth gyda thaliadau budd-daliadau eraill am nad oes cyfrif gennych, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Problemau gyda thaliadau uniongyrchol
Os ydych yn cael eich talu trwy daliad uniongyrchol ac mae yna gamgymeriad neu oedi am fod y banc, cymdeithas adeiladu neu swyddfa bost wedi gwneud camgymeriad, neu wedi bod yn aneffeithlon, dylech ofyn iddynt unioni’r cam. Os nad yw’r broblem yn cael ei datys o hyd, dylech gwyno. Os yw’r camgymeriad neu’r gwasanaeth gwael yn ganlyniad i broblem yn yr Adran Gwaith a Phensiynau, yr awdurdod lleol neu Gyllid a Thollau EM (CAThEM), dylech gwyno at y swyddfa sy’n gyfrifol am wneud y taliad. Os yw’r camgymeriad neu’r aneffeithlonrwydd yn golygu eich bod ar eich colled yn ariannol, efallai y byddwch yn medru cael iawndal.
Am fwy o wybodaeth ynghylch cwyno i’r Adran Gwaith a Phensiynau, yr awdurdod lleol neu CAThEM, gweler Problemau gyda budd-daliadau a chredydau treth.
Am fwy o wybodaeth ynghylch mudiadau sy'n helpu gyda chwynion am fanciau a chymdeithasau adeiladu, gweler Prynu gwasanaethau – eich hawliau.
Problemau gyda thaliadau trwy siec
Os ydych yn cael eich talu gyda siec, ac nid ydych yn ei derbyn, neu caiff ei cholli, ei dwyn neu ei dinistrio, dylech gysylltu â’r swyddfa a’i dalodd cyn gynted â phosib. Dylech hefyd gysylltu â’r heddlu i ddweud am achosion o golli neu ddwyn. Dylai’r Adran Gwaith a Phensiynau, Cyllid a Thollau EM neu’r awdurdod lleol roi siec arall i chi cyn gynted â phosib os nad oes rheswm da dros beidio â gwneud hynny.
Os ydych yn cael trafferth gyda’ch siec, fe allwch hefyd holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Gwahaniaethu
Mae'n anghyfreithlon i chi gael eich trin yn annheg oherwydd eich oed, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd neu eni plentyn, hil, crefydd, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol pan fydd budd-daliadau neu gredydau treth yn cael eu talu i chi. Hefyd, mae gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi a'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol bolisïau sy'n nodi na fydd yn gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd pethau eraill, er enghraifft os oes cyfrifoldebau gofal gennych. Os ydych yn teimlo eich bod wedi dioddef gwahaniaethu wrth gael budd-daliadau neu gredydau treth wedi eu talu, rydych yn medru cwyno ynglyn â hyn.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gwahaniaethu, gweler ein tudalennau Gwahaniaethu.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 27 Medi 2019